Hanes rhyfeddol Blaenafon

Gan ystyried mor drwm oedd y dref yn dibynnu ar y diwydiant glo, doedd dim syndod fod Dirwasgiad Mawr y 1920au a’r 1930au, ynghyd â’r dirywiad mewn cynhyrchu glo ar ôl y rhyfel, wedi cael effaith mor ddinistriol ar Flaenafon. Daeth tro ar fyd, fodd bynnag, gan ddechrau gydag addewid gan y wladwriaeth yn y 1970au i ddiogelu Gwaith Haearn Blaenafon – erbyn heddiw daw pobl yn llu i weld y ffwrneisi mawr o’r 18fed ganrif. Mae’r dref wedi cael tipyn o adfywiad, felly, ac i goroni hynny fe ddynodwyd Blaenafon yn Safle Treftadaeth y Byd ar droad yr 21fed ganrif

Safle Treftadaeth y Byd

Roedd gan y beirniaid beth wmbreth o resymau dros ddewis Blaenafon i fod ar restr sy’n cynnwys y Taj Mahal a Mur Mawr Tsieina: ble bynnag yr ewch chi mae hanes yn dod yn fyw yma. Cam pwysig yn hyn o beth oedd gwneud canol y dref yn ardal cadwraeth ym 1984, gan ddiogelu’r pob twll a chornel o’r hen gobls a’r adeiladau hynafol yn yr ardal brydferth, hanesyddol o gwmpas Broad Street. 

Ers cau llawer o’r strydoedd i geir mae’n llawer yn haws crwydro i chwilio am ddanteithion lleol – mae’r drefn yn cynhyrchu amrywiaeth helaeth o gaws, bara, cig a phethau amheuthun.

Ewch amdani

Monmouthshire and Brecon Canal

Monmouthshire and Brecon Canal, South Wales

Ers talwm byddai’r pyllau glo, y tramiau a’r trenau’n bwrw’u cysgod dros yr ardal, ond bellach mae Blaenafon yn llawn bywyd gwyllt a gwyrddni. Ewch chi byth yn brin o lefydd i fynd am dro, chwaith. Ar ochr ddwyreiniol y Safle Treftadaeth mae taith hamddenol ar lannau Camlas Mynwy a Brycheiniog yn lle da i ddechrau, ac mae’n werth gweld y twnelau a’r odynnau calch sydd wedi sefyll yma ers 200 mlynedd. Ewch am dro ger Llynnoedd y Garn, gwarchodfa natur sy’n gynefin i adar anarferol, a chrwydro heibio Tomen Coety, safleoedd picnic a leiniau trên stêm.

Gallwch wibio nerth eich traed ar gefn beic wrth ymyl yr hen reilffordd oedd yn cludo mwynau, sydd bellach yn llwybr beicio sy’n mynd â chi at rai o adeiladau mwyaf rhyfeddol yr ardal.

Pethau mae’n rhaid i chi eu gweld

School group at Big Pit

Big Pit National Coal Museum in Blaenavon, South Wales Valleys

Mae Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, yn un o’r safleoedd treftadaeth mwyaf trawiadol yn y byd, yn dwyn i gof holl lafur y glowyr wrth gyflwyno gefail y gofaint, caban bwyd y glowyr a’r tŷ ffrwydron. Bydd yn hawdd i chi ddychmygu’r gweithwyr yn eu hetiau caled yn defnyddio’r cypyrddau a’r cawodydd a gedwir mewn cyflwr arbennig o dda mewn amgueddfa sydd wedi ennill llu o wobrau. Gorau oll, mae’n rhad ac am ddim. 

Allwch chi ddim peidio mynd i weld Neuadd y Gweithwyr, adeilad mawreddog a fu’n ganolbwynt i holl fwrlwm y gymuned leol ers 1895. Mae’n werth chweil mynd i Ganolfan Treftadaeth y Byd hefyd, lle cynhelir digwyddiadau gydol y flwyddyn gan gynnwys arddangosfeydd rhyngweithiol a gweithgareddau celf a chrefft i blant. 

Yn wir, mae’n werth mynd i Flaenafon unrhyw adeg o’r flwyddyn, i weld y gwanwyn yn blodeuo, mynd ar hyd Llwybr y Mynydd Haearn neu fwynhau Gwledd y Gaeaf ym mis Rhagfyr, pan fydd trên Siôn Corn yn pwffian ar hyd y Rheilffordd Hanesyddol – y rheilffordd ddomestig uchaf un, gyda thîm o wirfoddolwyr brwd yn ei chadw mewn cyflwr da. 

Boed yr haul yn tywynnu neu’r eira’n disgyn, byddwch yn siŵr o gael ymweliad difyr.

Mwy o atyniadau ym Mlaenafon a’r Cymoedd