Campwaith diwydiannol a phrydferthwch byd natur

Ym 1805, adeiladodd Thomas Telford a William Jessop draphont ddŵr Pontcysyllte, strwythur o haearn bwrw’n gorwedd ar 19 o fwâu dros 100 troedfedd (30 metr) uwchlaw Afon Dyfrdwy, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Fwy na dau gan mlynedd yn ddiweddarach, dynodwyd y draphont enfawr hon yn Safle Treftadaeth y Byd.

Byddwch yn cyrraedd y safle wrth Raeadr y Bedol, y gored artiffisial o ble mae’r dŵr yn llifo i’r gamlas. O’r fan hon gallwch ddilyn yn ôl traed y penseiri enwog gyda’u campwaith diwydiannol a phrydferthwch byd natur o’ch cwmpas. 

Mae sawl gwahanol ffordd o fwynhau’r ardal: ers dros ganrif mae pobl wedi mwynhau ymlacio wrth gael eu tynnu mewn cwch gan geffyl ar hyd glanfa’r gamlas yn Llangollen. 

Gwisgwch eich esgidiau cerdded

The River Dee passing under the Pontycysyllte Aqueduct, Dee Valley

River Dee under the Pontycysyllte Aqueduct, North East Wales

 gan Paul 'Tuna' Turner

Pe byddai’n well gennych chi gerdded na gadael i geffyl neu gwch gymryd y straen, gallwch fynd yn eich blaen am 11 milltir drwy gefn gwlad godidog, ar lwybrau digon hamddenol sy’n mynd rhwng amrywiaeth o dafarndai a llefydd braf i gael picnic.

Mentrwch oddi ar y llwybr i fynd ar hyd lonydd diarffordd fel yr un sy’n mynd rhwng y Rhaeadr a Llangollen, lle cewch chi ddigon o awyr iach wrth grwydro’n hamddenol i lawr drwy’r caeau. Mae yno lwybrau hir sy’n werth rhoi cynnig arnynt hefyd, yn enwedig Llwybr Clawdd Offa sy’n mynd ar hyd y gwrthglawdd sydd wedi gwahanu Cymru a Lloegr ers yr 8fed ganrif. 

Llwybr dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yw hwn, ac mae’n mynd o un pen o Gymru i’r llall, ond efallai mai dyma’r rhan orau oll, yng nghysgod Traphont Ddŵr Pontcysyllte. 

Felly beth am gerdded dros y deunaw colofn? Ewch pan mae’r haul yn machlud i weld y golygfeydd godidog ar eu gorau. Awydd mynd o dan y bwâu? Ewch mewn cwch ac fe ryfeddwch chi at y gwaith mortar o dan y draphont, yr un fwyaf o’i math ym Mhrydain. Yn ôl y sôn, defnyddiwyd cymysgedd o waed ych, calch a dŵr. 

Yna galwch heibio Basn Trefor lle gallwch barcio’r car neu gael llymaid bach wrth wylio’r cychod yn mynd heibio ar y gamlas. 

Mae digon o arbenigwyr lleol a fydd yn barod i’ch tywys ar daith ar y dŵr os hoffech chi fynd, ond gallech hefyd fynd i’r pentref nesaf at Drefor, sef Cefn Mawr. Yma fe ddewch o hyd i barc gwledig sy’n llawn asynnod, ieir, moch ac anifeiliaid eraill, yn ogystal â meysydd chwarae a llefydd i ymolchi’n sydyn. 

Traphont Ddŵr y Waun

Wrth grwydro ar hyd yr afon dewch chi o hyd i ryfeddod arall. Mae Traphont Ddŵr y Waun yn llawn cystal â Phontcysyllte – dim syndod, efallai, gan ei bod yn un arall o gampweithiau Telford, wedi’i chwblhau ym 1801. Agorwyd y gamlas drosti bron i hanner can mlynedd yn ddiweddarach, sy’n mynd â chi dros y ffin i Loegr. Wrth fynd yn ôl ym mhellach i’r gorffennol, mae Castell y Waun gerllaw yn enghraifft fawreddog o gestyll Edward I, ac fe ddewch chi o hyd i lawer o gynnyrch lleol gan gynnwys bwyd a diod, anrhegion a chrefftau. Ewch ar hyd glannau Afon Dyfrdwy a chrwydrwch drwy Ddyffryn Ceiriog gan gwrdd ag ambell i gymeriad lleol yn y pentref hanesyddol hyfryd hwn. 

Ymlaciwch neu ewch amdani go iawn

Bydd rhai sy’n hoff o arddio wrth eu bodd yng Ngerddi Erddig ymysg y lawntiau perffaith, y nentydd a’r glynnoedd a grëwyd gan bâr o gariadon wedi ffoi o Iwerddon. Fe gewch chi fwy na dim ond llonyddwch yma, cofiwch. Ar Reilffordd Llangollen  cynhelir gwyliau cwrw go iawn a nosweithiau ditectif ar y cledrau, a bob blwyddyn bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ddathliad mawr o ganu a dawnsio – ac oes ydych chi’n chwilio am gyffro mwy elfennol, mae digonedd o ddewis o lefydd i ddringo, rafftio, anturio, caiacio a llawer mwy. 

Ymlaciwch neu ewch amdani go iawn – chi piau’r dewis.

Mwy o atyniadau yn y gogledd-ddwyrain