Bragdai annibynnol a chwrw Cymreig
Does dim dwywaith amdani – mae cwrw’n creu cyffro yng Nghymru. Bu’r derwyddon yn bragu cwrw yma 1,500 o flynyddoedd yn ôl, ac mae’r 21ain ganrif yn dipyn o oes aur i fragwyr annibynnol yng Nghymru, gyda pheth wmbreth ohonynt yn cynhyrchu cwrw a seidr penigamp.
Bragwyr o fri

Welsh Ales
gan Mike Serigrapher
Wrth weld enwau fel Tiny Rebel a Mŵs Piws, fe allech chi feddwl bod bragwyr annibynnol Cymru’n rhoi rhywbeth rhyfedd yn eu cwrw. Ond cwrw go iawn sydd yma, a chwrw sydd wedi ennill llu o wobrau.
Mae Bragdy’r Gogarth a Bragdy Conwy hefyd wedi ennill gwobrau gan wybodusion CAMRA (yr Ymgyrch Dros Gwrw Go Iawn).
Fe glywch chi bobl yn canu clodydd Bragdy Celt mor bell i ffwrdd â Japan, lle enillon nhw wobrau am ddau wahanol gwrw yn erbyn 250 o rai eraill a fu’n cymryd rhan yng Nghystadleuaeth Gwrw Ryngwladol Tokyo.
Ewch i weld bragdy yng Nghymru

Rhymney Brewery, Blaenavon
Mae llawer o fragdai yng Nghymru yn rhoi’r cyfle i chi eu gweld wrth ei gwaith. Fe gewch groeso cynnes gan Tomos Watkin yn Abertawe, Cwrw Rhymni yng Nghymoedd y De a Bragdy Llangollen yn y Gogledd-ddwyrain, i enwi dim ond tri.
Ond os nad oes gennych chi lawer o ddiddordeb mewn gweld y broses wyddonol o eplesu hopys a barlys, byddwch yn falch o gael gwybod bod pob math o bethau i’w gwneud yng Nghymru sy’n gysylltiedig â chwrw, gan gynnwys teithiau cerdded, gwyliau cwrw a gweithgareddau mwy egnïol.
Gweithgareddau a chwrw?

Real Ale Wobble, Llanwrtyd Wells
Wrth gwrs, mae’n bwysig bod yn gyfrifol os ydych chi am fentro ar gefn beic mynydd wrth yfed cwrw. Y nod gyda’r Real Ale Wobble yw cael hwyl yn hytrach na bod yn gystadleuol, a dyma ddigwyddiad cyntaf Gŵyl Gwrw’r Canolbarth sy’n para am 10 diwrnod. Mae’n un o blith llawer o ddigwyddiadau anarferol y gallwch eu mwynhau yn Llanwrtyd, lle cynhelir Pencampwriaethau Cors-snorclo’r Byd.
Trafnidiaeth yw’r thema ar gyfer digwyddiadau eraill fel Cwrw ar y Cledrau lle mae’r gloddestwyr yn mynd ar Reilffordd Ffestiniog ac Eryri rhwng tair tafarn leol cyn cyrraedd canol y bwrlwm yn y Sied Nwyddau yng ngorsaf Dinas.
Ar Lwybr Cwrw Go Iawn Sir y Fflint cewch gyfle i neidio ar fws a mwynhau’r cwrw a’r hwyl mewn unrhyw un o blith deg o dafarnau gwledig. Mae Gŵyl Route76 yn Nyffryn Clwyd yn digwydd ar yr un pryd â Gŵyl Gwrw a Seidr Dyffryn Clwyd bob blwyddyn, a byddant yn trefnu bysus i fynd â phawb o amgylch y tafarnau lleol. Dyma ffordd wych o gael blas ar gwrw gwych fel Welsh Black gan Fragdy’r Gogarth, Clogwyn Gold gan Fragdy Conwy, Cwrw Eryri gan Fragdy’r Mŵs Piws, a gwahanol fathau o seidr fel Gwynt y Ddraig a Llandegla.
Gŵyl gwrw a seidr y brifddinas
Principality Stadium, Cardiff
Stadiwm Principality, yng nghanol dinas Caerdydd, yw cartref tîm rygbi Cymru. Yma hefyd y cynhelir Gŵyl Gwrw a Seidr Cymru am dridiau bob blwyddyn, lle gallwch gael blas ar 250 gwahanol fath o gwrw a tua 200 gwahanol fath o seidr a pherai. Efallai y byddwch yn falch o glywed eu bod yn dod fesul traean o beint…
Tafarnau yng nghanol y ddinas
Urban Tap House, Cardiff gan konamikode
Mae’r ŵyl yn ymledu i’r tafarnau yng nghanol dinas Caerdydd, gyda llawer o bethau’n mynd ymlaen yn rhai o hoff lefydd pobl y ddinas i lymeitian. Lle cymharol newydd yw’r Urban Tap House, y bar cyntaf yng Nghymru sy’n gwerthu dim ond cwrw a seidr gan grefftwyr, wedi’i redeg gan Fragdy Tiny Rebel.
Cyrraedd pob cwr o’r wlad

Neath Food and Drink Festival 2010, Neath Port Talbot
Mae llawer o fragdai mawrion Cymru’n dal i ffynnu, gan gynnwys Felinfoel yn Sir Gâr, y bragdy hynaf yng Nghymru. O Fragdy Tomos Watkin yn Abertawe aiff casgenni a photeli o gwrw i bob cwr o’r wlad. Bragdy annibynnol mwyaf Cymru yw SA Brain, busnes teuluol a sefydlwyd ym 1882. Fe ddewch chi o hyd i gwrw Brains ar werth mewn mwy na 250 o dafarnau ar hyd a lled Cymru, a thu hwnt i’r ffin yng Ngwlad yr Haf a Swydd Henffordd.
Ceir mwy na hanner cant o fragdai bach yng Nghymru hefyd, felly caiff pawb sy’n hoff o’u cwrw fodd i fyw. Yr unig drafferth yw dewis ble i ddechrau’r daith…
Hoffi hwn? Rhannwch gyda ffrindiau