O’r fferm i’r fforc, yn llawn daioni

Fe’m ganwyd nid nepell o Lundain, ond o Sir Benfro y daeth fy nheulu yn wreiddiol. Roedden ni ar dân eisiau dianc o brysurdeb Llundain, felly daethon ni’n ôl yn dair cenhedlaeth: Mam-gu, Mam, fy ngwraig a fi. 

Hunangynhaliol

A selection of Caws Cenarth cheese.

Caws Cenarth Cheese

Gweithio yn y diwydiant adeiladu oeddwn i, ond fel llawer o bobl eraill roeddwn i’n dyheu am gael darn bach o dir i fi’n hun a dod yn hunangynhaliol. Fel teulu fe aethon ni amdani go iawn. Fe dyfon ni ein llysiau ein hun, a magu moch, ŵyn a dofednod i’w bwyta. Mam oedd yn pobi’r holl fara – roedd hi hyd yn oed yn gwneud sebon ei hun. Pan gyrhaeddon ni, dim ond dau beth oedd ar goll: bacwn â chrofen go iawn. Felly fe gawson ni ddau fochyn i’n dechrau ar ein ffordd.


Fe ddechreuon ni rannu rhywfaint o’n cynnyrch gyda’n ffrindiau a’n cymdogion, ac roedd pawb yn syfrdanu fod cystal blas arno. Erbyn hyn rydyn ni’n cadw moch cyfrwyog, a moch Berkshire a Tamworth, ac rydyn ni’n eu bridio â baeddod gwyllt i roi blas cryfach i’r cig. Rydyn ni’n eu bwydo gyda barlys o ffermydd lleol mewn maidd organig rwy’n ei gasglu gan Caws Cenarth.

Seidr afalau

Apple tree.

Apple Tree

Dwi hefyd yn cael barlys brag a gwaddodion cwrw o’r tafarndai lleol. Mae ffrind i mi yn gwneud seidr, ac mae’n rhoi’r afalau mâl i ni ar ôl eu gwasgu. I dalu’r pwyth yn ôl, dwi wedi plannu 70 o’i goed afalau ar ein tir. Felly rydyn ni’n defnyddio sgil-gynhyrchion gwneud seidr i fwydo’r moch, a phan fydd y seidr yn barod dwi'n defnyddio hwnnw hefyd i wneud ham a selsig.

Mae popeth yn dod at ei gilydd mewn un ddolen daclus, felly. Fel arfer byddai’r holl bethau da yma’n mynd yn wastraff, rydyn ni’n ei roi i’r moch i roi gwell blas ar y cig.

Wedi’i wneud ar y fferm

Adam Vincent holding a pig at Trehale Farm in Pembrokeshire.

Adam Vincent, Trehale Farm, Pembrokeshire

Fferm organig sydd gennym ni, a fyddwn ni ddim yn defnyddio peiriannau, chwaith – rydyn ni’n gwneud popeth â llaw. Rydyn ni’n gwneud bron popeth yma ar y fferm.

Rydyn ni’n halltu bacwn a selsig ein hunain. Dydyn ni ddim yn cymysgu unrhyw fisgedi caled yng nghig y selsig, nac yn defnyddio dim ond casys naturiol, ac rwy’n cymysgu sbeisys fy hun i gael y blas yn union fel dwi eisiau. Rydyn ni’n eu gwerthu ar y fferm, mewn marchnadoedd ffermwyr, a hefyd i westai a bwytai lleol. Tan yn weddol ddiweddar, roedden ni’n gwerthu popeth o fewn 10 milltir o’r fferm, a hyd yn oed yn awr fyddwn ni ddim yn gwerthu dim byd y tu allan i Sir Benfro.

Mae rhai cynhyrchwyr lleol yn uchelgeisiol iawn, ond mae’n well gen i gadw pethau’n syml a dilyn yr hen ffyrdd. Rydyn ni’n ehangu fesul tipyn, serch hynny. Mae gennym ni faes gwersylla, iwrt neu ddau a thipi. Fe fuon ni’n torri rhywfaint o hen goed dros y gaeaf, ac fe dorron ni nhw’n estyll ar gyfer adeiladu siop ar y fferm. Rydyn ni’n torri pob tamaid o goed â llif hen ffasiwn, heb ddefnyddio llifiau cadwyn. Rydyn ni hyd yn oed yn gwneud ein siarcol ein hunain ar gyfer coginio’r selsig. Does neb mor wyrdd â ni!

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn Wales View 2014.