Porthclais

Parciwch eich car wrth yr harbwr bach prydferth yma a thynnu lluniau o'r cychod, yr odynnau calch a'r bythynnod ar y pentir. Ewch i ben draw'r harbwr i ryfeddu at yr arfordir garw, lliw glas dwfn y môr a'r gwyrddni godidog ar ben y clogwyni.

Llun o harbwr bychan gyda chychod bach

Harbwr Porthclais

Porth Stinian

Ar yr arfordir godidog yma fe gewch olygfeydd o Ynys Dewi, lle mae'r adar yn heidio yn eu miloedd, ac ambell i forfil neu ddolffin yn dod i'r golwg os ydych chi'n digwydd bod yno ar yr adeg iawn. Ewch am dro ar hyd llwybr yr arfordir i weld popeth o'ch amgylch, ac wrth gyrraedd pen draw'r pentir eisteddwch ac edrych yn ôl tua Phorth Stinian a'r hen orsaf bad achub goch a gwyn – canolbwynt bendigedig.

Grisiau yn arwain i lawr at yr hen orsaf bad achub a'r môr

Porth Stinian

Llys yr Esgob

Os ydych chi â'ch bryd ar bensaernïaeth y 14eg ganrif, ewch da chi i'r adfail eglwysig hwn ar gyrion Tyddewi. Saif yr adfeilion mawreddog mewn gerddi gwyrddion ac mae'r safle'n dwyn i gof y grym mawr oedd gan yr eglwys yn ystod y Canol Oesoedd. Mae'n lle delfrydol i dreulio diwrnod, gyda digonedd o siopau, caffis, tafarnau ac orielau celf nid nepell i ffwrdd.  

Penmaen Dewi

Ar Benmaen Dewi fe gewch chi olygfeydd gwefreiddiol o'r arfordir i bob cyfeiriad, yn ogystal â dyfroedd bas, clir a thraethau melyn hyfryd. Mae rhywbeth ysbrydol am y lle garw yma o dan belydrau'r haul, ac mae'r creigiau mawreddog yn rhywbeth arall i ddenu arlunwyr sydd â'u bryd ar y cyffro o dynnu lluniau ar yr arfordir. 

Bryngaer ger Naw Ffynnon

Saif adfeilion Bryngaer Naw Ffynnon rhwng pentref prydferth Solfach a Thyddewi. Wrth yr arfordir mae'r muriau a godwyd yn yr Oes Haearn wedi disgyn gannoedd o droedfeddi i'r môr islaw, ond gellir gweld olion y cloddiau a'r pantiau'n glir ar ochr y mewndir. Mae naws arbennig i'r lle, a digon o bethau i ysbrydoli artistiaid, fel ffurfiau diddorol y creigiau a'r tonnau mawr sy'n tasgu yn eu herbyn.

Creigiau yn ymestyn allan i'r môr gydag awyr lwyd

Arfordir Tyddewi

Straeon cysylltiedig