Siopa Nadolig yng Nghymru
Yng nghanol holl hwyl y Nadolig, peidiwch â digalonni wrth feddwl am yr holl siopa! Mwynhewch y profiad drwy fynd â ffrind neu rywun annwyl gyda chi a threulio diwrnod neu ddau yn y ddinas.
Fe ddewch chi o hyd i lu o anrhegion ffasiynol yng nghanol bwrlwm Caerdydd gyda'r holl siopau mawr, neu pam na ewch chi i weld beth sydd gan siopau bach Llandeilo i'w gynnig? Gallwch gael rhywbeth i blesio pawb ar daith siopa Nadolig yng Nghymru.
Caerdydd
Cardiff Christmas Market, South Wales gan Craft FolkYng Nghaerdydd mae'r holl siopau mawr y byddech yn disgwyl eu cael mewn prifddinas. Ewch i Ganolfan Siopa Dewi Sant i weld beth gewch chi yn John Lewis, Apple, Jo Malone a Cath Kidston a llawer mwy. Mae amrywiaeth dda o siopau annibynnol yng Nghaerdydd hefyd, i gyd o dan do yn yr arcedau siopa gyda chaffis a delis wrth law i chi gael tamaid i'w fwyta wrth chwilio am ryw anrheg arbennig.
Abertawe
Swansea Christmas Market, West Wales gan Delta WhiskeyMae dewis go helaeth o lefydd i wneud eich siopa Nadolig yn Abertawe. Rhwng siopau adnabyddus y stryd fawr a siopau bach annibynnol y ddinas, chewch chi ddim trafferth dod o hyd i'r anrhegion perffaith i'ch teulu a'ch ffrindiau. Bydd y farchnad Nadolig yn agor ganol mis Tachwedd bob blwyddyn, pan fydd rhes o ddeugain o gytiau bach pren yn codi ar Stryd Rhydychen i werthu amrywiaeth o fwyd blasus, anrhegion a chrefftau Cymreig unigryw.
Llandeilo
Heavenly Chocolates, Llandeilo, Carmarthenshire gan discover carmarthenshireMae tref brydferth Llandeilo yn Sir Gâr yn lle ardderchog i ddod o hyd i anrhegion Nadolig anarferol ac arbennig. Yn y dref fach hon mae peth wmbreth o siopau annibynnol yn gwerthu dillad merched, casgliad o siopau hen greiriau, siopau addurno'r cartref, yn ogystal â Heavenly, sy'n gwerthu siocled a hufen iâ Cymreig blasus. Mae'r hufen iâ pwdin Nadolig yn werth ei gael!
Y Gelli Gandryll
A couple Christmas shopping in Hay on WyeMae strydoedd bach y dref farchnad hon yn llawn dop o siopau annibynnol. Os yw'r ddinas yn rhy brysur i chi, mae'r Gelli Gandryll yn lle perffaith i wneud eich siopa Nadolig. Ewch am dro braf o amgylch y dref a byddwch yn siŵr o ddod o hyd i'r anrheg ddelfrydol. Does unman gwell i gael rhywbeth i rywun sy'n hoff o ddarllen, gan fod y Gelli'n enwog am ei chyfoeth o siopau llyfrau.
Conwy
Conwy Castle, North Wales gan Ashley PerkinsCewch brofiad Nadoligaidd iawn o fewn muriau'r castell yn nhref hyfryd Conwy. Mae llawer o siopau teuluol yma, gan gynnwys siop deganau hen ffasiwn Yesterday’s sy'n llawn o anrhegion difyr i blant. Gwnewch yn siŵr fod gennych chi ddigon o win, cwrw, wisgi a gwirodydd ffrwythau i'r Nadolig yn Vinomondo, lle mae detholiad gwych o ddiodydd Cymreig.
Hoffi hwn? Rhannwch gyda ffrindiau