Edrych yn Ôl ar Ras Cefnfor Volvo Gwelwyd Ras Cefnfor Volvo yn gadael Alicante, Sbaen, fis Hydref diwethaf ac yn rasio o gwmpas y byd gan ymweld â 12 dinas ar chwe chyfandir. Am y tro cyntaf erioed, daeth y ras i Gaerdydd, a dyma’r tro cyntaf mewn 12 mlynedd iddi ddod i Brydain. Credir mai dyma farathon môr anoddaf a mwyaf heriol y byd, gyda’r timau’n hwylio pellter o 46,000 o filltiroedd morol dros gyfnod o wyth mis. Maent yn cystadlu yn y dosbarth One Design Volvo Ocean 65, sef dosbarth o gychod o’r un ffurf yn union na ellir eu haddasu o gwbl. Roedd awyrgylch hwyliog iawn ym Mae Caerdydd yn ystod yr ymweliad, gydag adloniant a chyfle i ryfeddu ar y cychod anhygoel hyn. Maent bellach wedi gadael ar gymal 10 i Gothenberg, a dyma i chi flas o’r hwylio, y rasio a’r amodau eithafol mae’r hwylwyr yn eu hwynebu! Hoffi hwn? Rhannwch gyda ffrindiau Eitemau Cysylltiedig Cynghrair Pencampwyr Mae gêm bêl-droed fwyaf 2017 ar y gorwel, felly mae'n bryd trefnu eich ymweliad â Chaerdydd Caerdydd: dinas chwaraeon Mae Caerdydd yn ddinas sy'n llawn arwyr cartref: dyma ble mae arwyr chwaraeon yn cael eu gwneud. 2017 Chwedlonol 20 o ddigwyddiadau a dathliadau chwedlonol yng Nghymru i’ch cyffroi yn 2017. Wrexham to Caerphilly Taking the world's top riders through the heart of Wales Tafwyl 2018 Mae gŵyl Gymraeg Caerdydd yn ôl yng Nghastell Caerdydd eleni Rali Cymru Prydain Fawr Rali GB Cymru – ras fawr 2017