Bryn Williams Porth Eirias, Conwy

Mae bwyty'r cogydd adnabyddus Bryn Williams ar y traeth i bob pwrpas, gyda ffenestri gwydr o’r llawr i’r nenfwd sy’n gwneud yn fawr o olygfeydd panoramig dros Fae Colwyn. Bydd yn rhaid i chi dynnu eich llygad oddi ar y tonnau godidog i lafoerio dros y fwydlen, sy’n rhoi pwyslais ar bopeth lleol, fel pysgod a bwyd môr newydd eu dal, ynghyd â ffrwythau a llysiau a dyfir yng ngardd y gegin. Gellir yfed cwrw o fragdy lleol Pen y Gogarth, ynghyd â dewis o goctels i dynnu dŵr o’r dannedd. Gallwch archebu ‘te prynhawn ar lan y môr’ hefyd. 

Peidiwch â cholli: Corgimwch rhost â garlleg, tsili, a mayonnaise bara lawr. Mae bara lawr yn gynnyrch gwirioneddol Gymreig - digon tebyg i wymon ‘nori’ Japan, sy’n cael ei ferwi i greu past sawrus - ac mae’n ychwanegu dyfnder a blas rhagorol i fwyd môr.

Café Môr, Sir Benfro

I gael y profiad bwyta arfordirol eithaf, ewch i’r cwt glan-môr ble lleolir Café Môr ar draeth godidog Freshwater West yn Sir Benfro. Cwmni Bwyd Traeth Sir Benfro (Pembrokeshire Beach Food Company) sy’n ei redeg, ac maen nhw’n cynhyrchu cynnyrch bwyd anhygoel, sy’n amrywio o ‘berlysiau’r môr’ i ‘gonffeti’r forforwyn’. Mae’r môr yn amlwg iawn yn y fwydlen, sy’n cynnwys cimwch a chranc ffres, er y gallwch hefyd ddewis byrgyr blasus (â bara lawr). Mae’r caffi ar agor o fis Ebrill tan ddiwedd Medi. 

Peidiwch â cholli: Rôl cimwch enwog Môr: cig o hanner cimwch Sir Benfro wedi’i weini mewn rôl wedi’i thostio’n ysgafn â menyn du’r môr (bara lawr wedi’i goginio mewn menyn gydag ychydig o sbeis); fel arfer fe’i gweinir o fis Mehefin ymlaen. 

The Beach House, Bae Oxwich

Agorodd The Beach House yn 2016 a’r un tîm sydd y tu ôl i’r lle â Coast uchel ei glod yn Saundersfoot (un arall o berlau’r arfordir) a’r Grove yn Arberth. Lleolir y Beach House ar Fae Oxwich, un o draethau harddaf Penrhyn Gŵyr, a cheir golygfeydd rhagorol o’r bwyty. Ond y bwyd sy’n denu pobl yma, diolch i seigiau dychmygus y Prif Gogydd Hywel Griffith a’i dîm. 

Peidiwch â cholli: Mae’r ‘ffriter courgette sy’n blodeuo’ gyda chranc Môr Hafren yn seren, a bydd pysgod-garwyr yn dwlu ar y fwydlen flasu ‘Fish 5’. Yn ystod y misoedd cynhesach, efallai y gwelwch gig oen morfa heli Gŵyr ar y fwydlen; ŵyn blasus sydd wedi pori ar weiriau hallt aberoedd a phorfeydd glannau’r penrhyn, gan roi blas rhagorol i’r cig.

Dylan’s, Cricieth, Porthaethwy a Llandudno

Pe baech chi’n mynd ati i gerdded Llwybr Arfordir Cymru o gwmpas y gogledd, byddech chi’n pasio tair cangen ragorol o fwyty Dylan’s, un ym Mhen Llŷn yng Nghricieth, un ym Môn ym Mhorthaethwy, a’r gangen fwyaf diweddar mewn lleoliad rhagorol yn Llandudno hardd. Mae’r bwydlenni yr un mor addas ar gyfer noswaith ramantus i ddau neu ginio cymdeithasol gyda’r teulu, a gweinir ystod eang o seigiau ‘o’r môr’ ynghyd â phitsa a byrgyrs blasus. 

Peidiwch â cholli: Arbenigedd y lle, cregyn gleision gorau Menai, mor ffres a lleol ag y gallant fod, wedi’u tyfu’n lleol iawn. Gallwch eu bwyta yn arddull Ffrengig ‘Marinière’, neu yn y dull Cymreig, naill ai’n ‘feddw’ (wedi’u coginio mewn seidr) neu ‘ddraig’ (â phuprod coch a garlleg o Gymru).

Castell Cricieth, Gwynedd

Cricieth

The Griffin Inn, Dale, Sir Benfro

Am bysgod a bwyd môr sydd mor ffres ag y gall fod, ewch i’r Griffin Inn, mewn tafarn hanesyddol ag estyniad modern deniadol, sy’n edrych allan dros harbwr hen-ffasiwn o bert. Mae gan y bwyty nodwedd unigryw, sef ei bysgotwr ei hun, Mark. Bydd yn hwylio yn y ‘Griffin Girl’ bob dydd i ddal popeth o fecryll i leden, a weinir ar y fwydlen gyda thatws newydd Sir Benfro. Mae gan Mark dros 100 o botiau cimychiaid - a’r cwestiwn y bydd angen i chi ei holi fydd: hanner cimwch ynteu un cyfan?

Peidiwch â cholli: Mae gan y Griffin fwydlen dafarn, sy’n cynnwys cawl a phastai, ond mae bwydlen bysgod ychwanegol a’i chynnwys yn dibynnu ar yr hyn a ddaliwyd y diwrnod hwnnw. Penhaearn (gurnard) yw un dewis lleol blasus na welir mohono’n aml, ond os ydych chi’n dwlu ar gimwch, gallwch gael un cyfan, hanner un neu gynffon i ddechrau.  

The River Café, Y Clas-ar-wy

Does dim angen bod yn dditectif i weld nad ar lan y môr y mae’r River Café, ond yn hytrach mae’r lleoliad hyfryd ar lan Afon Gwy yn berffaith ar gyfer cerddwyr ar hyd Llwybr Dyffryn Gwy neu seiclwyr ar rwydwaith Sustrans, gerllaw. Mae cynhwysion y bwyd yma’n lleol ac yn falch o hynny: Caws Cenarth a seidr Mynwy yn eu plith. Mae ansawdd y bwyd yn rhagorol, y croeso’n gynnes a’r lleoliad yn heddychlon. Perl go iawn.

Peidiwch â cholli: Efallai y gwelwch gig carw ar y fwydlen, o Ganolfan Cig Carw Cymru i lawr y lôn.

Byrddau a chadeiriau tu fewn i River Café

River Café, Y Clas-ar-Wy

Restaurant James Sommerin, Penarth

Mae gan James Sommerin lawer iawn o brofiad, felly rydych chi ar dir diogel wrth i chi eistedd yn hafan Restaurant James Sommerin ar esplanade Penarth. Cychwynnodd y cogydd ar ei yrfa pan oedd ond yn 12 oed, mewn bwyty Eidalaidd yng Nghasnewydd, gan hyfforddi y tu allan i Gymru cyn dychwelyd i’w famwlad hoff gyda’i wraig a’i ferch ifanc (bryd hynny). Bellach mae ei ferch yn hŷn ac yn gweithio yng nghegin ei thad, gan barhau â’r traddodiad o feithrin awch at goginio o’r crud! Mae’r bwyty wedi ennill llu o wobrau a seren Michelin, gan weini bwydlenni blasu chwe chwrs a naw cwrs ar y penwythnos: taith o flasau anhygoel a fydd yn gofyn i chi ailymweld â nhw dro ar ôl tro.

Llun o gogydd yn cwblhau paratoi pryd o fwyd

Restaurant James Sommerin

Straeon cysylltiedig