Swistir fach?

Dechreuwn y daith ym Mharc Coedwig Afan yng Nghwm Nedd. Mae’r llwybrau’n ymestyn am fwy na 62 milltir (100 cilometr) mewn coedwig 39 milltir sgwâr (64 cilometr sgwâr) ar lethrau’r cwm cul, serthochrog hwn. Buan iawn y gwelwch chi pam fod pobl yn galw’r ardal yn Swistir Fach.

Mae gennych chi ddewis amrywiol yma, fel y llwybr Skyline sy’n ymestyn am 29 milltir (46 cilometr) ac yn cynnwys dringfa 2,000 metr, neu un neu ddau o lwybrau i ddechreuwyr yng nghanol y parc. Mewn lle fel hyn mae’r ymwelwyr yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnont. Ar ôl i chi roi’ch punt yn y peiriant parcio, wnaiff neb sefyll yn eich ffordd chi.

Os ydych chi'n rhywun a fyddai'n elwa ar gael arbenigwr i’ch rhoi ar ben y ffordd, ewch yn syth i Sied Feiciau Cwm Afan, lle gallwch logi beic, trwsio'ch beic, a threfnu taith dywys neu wersi. Fel hyn efallai cewch chithau gwrdd â Ben Threlfall, gŵr bonheddig sy'n hanu o Portsmouth, sy'n feistr ar y sgiliau i gyd ac yn llawn angerdd wrth sôn am ei gariad at y lle, ac yntau wedi penderfynu ymgartrefu yma gyda'i deulu bach.

Ben sy'n ein tywys i'r lle ymarfer. Buan iawn mae dyn yn sylweddoli bod hyder yn bwysig wrth geisio dod dros y bryncyn bach lleiaf, neu gymryd tro sydyn. Fel mae'n digwydd, dydi beicio mynydd ddim hanner mor hawdd â disgyn oddi ar gefn beic. 

Y wers gyntaf i'w dysgu: er mwyn dod i lawr, mae'n rhaid i chi fynd i fyny, ac mae dringo ar hyd y traciau sengl yn dipyn o gamp ynddo'i hun, wrth i chi geisio dod dros yr holl gerrig chwâl a gwreiddiau'r coed a chymryd y troeon sydyn. 'Technegol' yw hyn, mae'n debyg. Llafurus, ddywedwn i, ac wrth i stêm ddod allan o 'nghlustiau, rwy'n dwrdio'n hun am adael i fy nghoesau fynd i'r fath gyflwr truenus.

Rwy'n cael gair doeth iawn o gyngor gan Ben: wrth i chi wibio i lawr allt, mae'n well peidio â gwasgu'r brêcs. ‘Bob tro dwi'n clywed sŵn brêcs yn gwichian, mae hynny'n dweud wrtha i fod y reidiwr wedi colli rheolaeth ar y beic,’ meddai.

Awn yn ôl i'r Sied Feiciau wedi elwa ar y profiad. Gofynna Ben ble'r ydyn ni'n mynd nesaf. Ar ôl i ni ateb daw rhyw wên ddireidus dros ei wyneb, wrth iddo ddweud 'Hm, pob lwc, dyna'r cyfan ddyweda' i!'.

Wrth gael llymaid yn Afan Lodge, gwesty hyfryd yn y dull Alpaidd, nid nepell o fynedfa'r parc, rwy'n pendroni beth oedd gan Ben mewn golwg pan ffarwelion ni. Ychydig ddiwrnodau'n ddiweddarach, mae'n dod yn ddychrynllyd o amlwg.

Tipyn o gamp, o’r dechrau i’r diwedd

Fe welwch chi lechi o chwareli Eryri ar doeau ymhob cwr o’r byd, ac ym Mlaenau Ffestiniog mae chwarel Llechwedd yn bwrw cysgod mawreddog dros y dref. Mae un genhedlaeth ar ôl y llall wedi bod wrthi fel lladd nadroedd yma, boed wrth weithio neu chwarae; maent wedi gadael eu holion ar hyd y traciau sengl sy’n igam-ogamu drwy’r hen chwarel.

Fe’u crëwyd gan Antur Stiniog, mudiad lleol egnïol sy’n cynnal pob math o weithgareddau, gan gynnwys gwersylla gwyllt, pysgota, caiacio a theithiau cerdded.

Mae trac ymarfer gwych i feicwyr mynydd, croeso cynnes yn y ganolfan ymwelwyr a chaffi lle gallwch lenwi’ch bol â carbs cyn rhoi cynnig ar y pedwar llwybr mawr: dau ddu a dau goch (caiff pob llwybr ei raddio’n ddu-coch-glas-gwyrdd, a’r rhai du yw’r caletaf). Gallwch hefyd fanteisio ar fan a threlar i fynd â chi i’r entrychion uwchlaw Blaenau Ffestiniog.

Maen nhw’n siarad bymtheg yn y dwsin yn y fan, yn hollol i’r gwrthwyneb i daith ar y tiwb yn Llundain, er enghraifft. Mae pob un yn gwisgo’i ddillad pwrpasol gyda’i helmed ar ei lin, a gallwch deimlo’r holl adrenalin yn llenwi’r fan, yn ddigon bron i redeg yr injan.

'Dyma yw beicio mynydd go iawn i mi,' meddai Ben gyda’i acen Swydd Lincoln. 'Mae’n dipyn o gamp o’r dechrau i’r diwedd, mae’r cyfleusterau’n benigamp ac mae gwên ar wyneb pawb.'

Mewn chwinciad mae’n tynnu ei feic oddi ar y trelar ac i ffwrdd ag ef i wibio ar hyd y Du. Mae’r llwybr hwn wedi’i raddio’n ddu, wrth reswm, a bydd Ben yn dychwelyd i’r ganolfan ymwelwyr yn hanner yr amser a gymerodd i’r fan gyrraedd y copa. Mae’n wych gweld y beicwyr mynydd beiddgar yn mynd drwy’u pethau, yn codi a disgyn fel gwenoliaid ar eu ffordd i lawr y trac.

Dau feiciwr yn beicio i ffwrdd o'r camera i lawr y trac
Llun o feiciwr mynydd ar feic yn reidio dros y mynydd

Antur Stiniog

Mynd yn wyllt ar y beic

Fe gafodd un o feicwyr gorau’r wlad, Gee Atherton, ras yn erbyn hebog i lawr y traciau hyn yn 2013. Cymerwch olwg ar y fideo uchod ar YouTube – mae’n wallgof. Ni fyddai malwen mewn pot jam yn cael llawer o drafferth dal i fyny â fi, wrth imi bwffian fy ffordd yn llafurus i lawr y Drafft, y llwybr lleiaf brawychus o’r pedwar, a chymryd troeon sydyn wrth wibio dros y cerrig garw.

Holwch unrhyw feiciwr mynydd sy’n gwneud ar i waered, ac fe gewch wybod mai creu trafferth i chi’ch hun a wnewch chi wrth fynd yn araf ar hyd traciau fel hyn. O leiaf hanner dwsin o weithiau rwy’n gorffen darn heriol o’r trac ac yn meddwl i fi’n hun, ‘Ydw i newydd wneud hynny go iawn?’ Serch hynny, dwi’n dal mewn un darn wrth gyrraedd y gwaelod, lle rwy’n gweld Ben a’i ffrindiau’n mynd yn ôl tua chopa’r mynydd i chwilio am wefr arall. Dwi’n hapus i fodloni ar gael paned yn y caffi, ac fel gwobr am gyrraedd y gwaelod dwi’n tretio fy hun i un o’r pasteiod Cwrdaidd adnabyddus o’r becws gerllaw.

Diolch i Antur Stiniog mae gwestai a llefydd gwely a brecwast Blaenau yn deall yn iawn beth sydd ar feicwyr mynydd ei angen – yn bennaf, lle diogel i gadw eu hannwyl-garedig feiciau (sydd hefyd yn bethau drud iawn).

Rydyn ni’n aros yn lle gwely a brecwast Capel Pisgah, hen gapel sydd bellach dan oruchwyliaeth Glenys Lloyd. Chwarelwr yn Llechwedd oedd ei thad, fel ei thaid o’i flaen. Mae’n rhoi croeso cynnes imi, ynghyd ag allwedd i’r drws ffrynt a chaniatâd i fynd a dod fel y mynnaf. Rywdro arall, efallai, fe fyddwn i'n mentro tua Cell B, hen garchar a llys sydd bellach yn cynnig bar bendigedig, canolfan gelfyddydau a lle ar gyfer gigs. Heno, fodd bynnag, mae’n ddigon imi ddringo’r grisiau’n araf i’r cae sgwâr.

Gee Atherton a'r hebog tramor

'Whistler' Cymru

Does dim rhaid imi deithio mwy na 30 milltir o ganol Caerdydd, i gyrraedd Coed Gethin ger Merthyr Tudful, lle mae criw bach dethol wedi bod wrthi’n ddiwyd yn y gornel dawel hon o’r Cymoedd. Ffrwyth eu llafur yw’r amrywiaeth fwyaf cyflawn o draciau sengl a llwybrau i deuluoedd ym Mhrydain. Mae rhai’n galw’r lle yn ‘Whistler’ Cymru ar ôl y mynydd enwog yng Ngholumbia Brydeinig. Ond gallwch chi, fel finnau, ei alw yn BikePark Cymru.

Hyd yn oed am naw o’r gloch y bore mae’r lle’n fwrlwm o bobl yn tynnu beiciau o’u faniau ac oddi ar doeau’u ceir, yn defnyddio teclynnau cymhleth iawn yr olwg i gywiro rhyw fân bethau, ac yn galw heibio’r ganolfan ymwelwyr am baned fach o goffi cyn mynd am reid gyntaf y dydd.

Eto, mae digonedd o sgwrsio ac mae pawb yn glên iawn. Gallaf glywed acenion o Lundain ac Essex, mae criw wedi dod o Wlad yr Haf, criw arall o Northampton a chasgliad o wŷr bonheddig o Swydd Surrey. Pensiynwr yw Dave, sydd wedi teithio 30 milltir o Gasnewydd. Mae’n mynd allan ar ei feic ryw dair neu bedair gwaith bob wythnos, ac yn mentro i Ogledd Cymru bob mis dros yr haf.

'Fe gei di hwyl heddiw,' meddai â gwên. 'Mae’n arbennig o le.'

Mae BikePark Cymru’n gwerthu tocyn diwrnod sy’n cynnwys bws i ben y bryn, neu gallwch dalu’r pris mynediad arferol a mynd ar eich beic i’r copa, naill ai ar y ffordd fawr neu ar y trac sy’n mynd i fyny’r rhiw, ‘Beast of Burden’. Ar y copa mae gennych chi ddewis o draciau ar i waered i fynd â chi’n ôl i’r gwaelod.

Un o’r pethau gorau am y lle yw bod y llwybrau glas, coch a du yn cwrdd mewn sawl man, felly gallwch neidio o un trac i’r llall fel y mynnwch (a chael seibiant am sgwrs arall, fel mae llawer yn ei wneud).

Mae’r cyfleusterau yn y ganolfan ymwelwyr llawn cystal â’r traciau bendigedig. Ble arall allech chi logi beic £3,000 am bris rhesymol am y dydd, a llowcio telpyn anferth o gacen foron ar yr un pryd? Wrth i mi eistedd y tu allan yn mwynhau’r awyrgylch, mae plant ysgol yn gwibio o gwmpas y trac ymarfer gyda’u helmedi lliwgar, llachar ar eu pennau.

Does ryfedd fod pobl wrth eu bodd â’r gamp arbennig hon. Wyddoch chi, dwi’n rhyw amau y bydd tipyn o fynd ar y busnes beicio mynydd yma.

Llun agos o feic mynydd a helmed yn hongian o gyrn y beic
Delwedd o ddau feiciwr yn eistedd ar eu beiciau yn gwisgo gêr beicio

BikePark Wales

Straeon cysylltiedig