Dringo, abseilio neu wibio ar wifren wib

Yng nghanolfan Absolute Adventure ym Mhen-y-Cae, Powys, gallwch feithrin eich sgiliau dan oruchwyliaeth arbenigwyr, ac aros dros nos mewn llety hunanarlwyo modern. Gallwch hyd yn oed wibio drwy'r nen yng Nghanolfan Weithgareddau Llangors, ar hyd rhwydwaith o 14 o wifrau sip a mwynhau golygfeydd heb eu hail o Fannau Brycheiniog. Mae gwahanol gyrsiau ar gyfer pawb, beth bynnag eu hoed a'u gallu.

Mae digon o gyffro i'w gael ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Ewch i Ddolygaer i fentro i'r ogofâu a chrwydro'r ceunentydd godidog. Cewch setlo am y noson mewn pabell neu mewn byncws, ac ymlacio wedi diwrnod cyffrous o anturiaethau. Yna mae Pendarren, hen blasty gwledig yn ysblander Dyffryn Wysg. Gallwch roi cynnig ar y wal ddringo neu'r tŵr abseilio ar y safle, neu fynd am dro a chrwydro'r ardal.

Rhaffau rhagorol

Yn y parthau hyn mae hen blasty Sioraidd o'r enw Glasbury, a saif yng nghanol saith erw o dir sy'n rhoi digon o le i chi gael hwyl a sbri. Fe fuon nhw'n cynnal gweithgareddau yn yr awyr agored yma am dros hanner can mlynedd, gan gynnig rhywbeth i bawb, beth bynnag eu gallu. O gripian dros greigiau geirwon, i edmygu'r olygfa mewn ceunant, mae digon o ddewis yma.

Cadwch hi'n syml wrth aros yn Fforest yn Aberteifi, safle gwersylla ecogyfeillgar sy'n rhoi cyfle i ymwelwyr ddod yn ôl at eu gwreiddiau ym myd natur. Gallwch roi cynnig ar ddringo ac abseilio ar y creigiau a'r clogwyni, rhuthro ar hyd y rhaffau ym mrigau'r coed hynafol, a dysgu crefftau'r coedwigwr.

Llun o babell siâp cromen a chaban bychan mewn cae
Tipi a chadeiriau gyda bryniau a machlud haul mewn pellter.

Fforest, Aberteifi

Siglo drwy'r coed

Gallwch aros mewn iwrt, tipi neu babell gloch ar eich gwyliau gwersylla traddodiadol yn Outdoors at Hay, yng nghanol prydferthwch y Gelli Gandryll. Gadewch i'r hyfforddwyr profiadol fynd â chi dros y creigiau wrth ddringo ac abseilio ar gyrion Tref y Llyfrau. Maent wedi hen arfer helpu dringwyr newydd i fagu hyder, ac maent yn ddigon clên i gynnig pecyn bwyd i chi hefyd. Fe gewch chi ddigon o gefnogaeth felly, a'r teimlad braf o gyflawni rhywbeth gwerth chweil.

Straeon cysylltiedig