Chwilio am rywbeth i’r teulu cyfan ei wneud? Angen difyrru plantos bach a rhai yn eu harddegau, a hithau’n arllwys y glaw? Mae canolfannau rhaffau uchel yn fwy na dim ond cyrsiau rhwystr ym mrigau’r coed – maent yn gyfle i’r teulu oll gael diwrnod yn llawn anturiaethau.

Beth yw canolfan rhaffau uchel?

Yn ei hanfod, mae canolfan rhaffau uchel yn cynnig rhyw fath o gwrs rhwystrau sy’n hongian o frigau’r coed. Ar un tro o amgylch y cwrs byddwch yn sgrafangu mynd i fynd ac i lawr ysgolion, yn cripian yn sigledig dros bontydd rhaffau, yn mentro’n bwyllog dros drawstiau sy’n troelli, yn llamu rhwng siglenni trapîs, yn siglo ar raffau ac yn gwibio i lawr ambell i wifren sip. Digonedd o hwyl felly, hyd yn oed i’r genhedlaeth sydd wedi arfer cael ei hadloniant drwy sgrîn.

Mae'n swnio'n beryglus!

Fe fyddwch chi’n ddigon diogel wrth wisgo’ch harnais. Bydd pawb yn cael gwybod y drefn o ran diogelwch cyn cychwyn, ac fe gewch eich clipio’n sownd ar wifren yr holl ffordd o amgylch y cwrs. Pe byddech chi’n disgyn, chewch chi ddim byd gwaeth nac ysgytwad a chwistrelliad o adrenalin cyn dringo’n ôl i’ch lle (yr adrenalin yw hanner yr hwyl, beth bynnag). Ar rai cyrsiau bydd hyfforddwyr yn cadw golwg arnoch wrth fynd drwy’r rhwystrau uchaf oll.

Llun o raffau a rhwydi lliwgar yn hongian rhwng coed a chaban pren yn y coed

Zip World Fforest, Betws-y-Coed

Y rhwystrau uchaf oll? Mae arna i ofn uchder!

Peidiwch â phoeni – wnewch chi ddim disgyn yn bell a chithau wedi’ch clipio i’r wifren. A does dim rhaid i chi oresgyn unrhyw rwystr os byddai’n well gennych beidio, na chwblhau’r cwrs. Bydd y staff yno i roi anogaeth, ond fyddan nhw byth yn rhoi pwysau arnoch chi. Fe gewch chi ddigon o hynny os bydd plant yn eu harddegau gyda chi, ond hwyrach y cewch siom ar yr ochr orau o ran eich sgiliau ym mrigau’r coed.

Beth am blant bach?

Mae pob canolfan yn wahanol, ond mae’r rhan fwyaf ohonynt yn cynnig cyrsiau isel i blant bach sy’n methu trin rhaffau ar eu pennau’u hunain, lle mae’r rhieni’n rhoi help llaw o’r ddaear islaw. Fel arfer mae’r plant hŷn yn cael rhwydd hynt i wneud fel y mynnont. Mae croeso i’r rhieni gadw golwg arnynt, tynnu lluniau a rhoi anogaeth o’r ddaear. Bydd pob cwrs yn cymryd tua dwy awr i’w gwblhau.

Oes croeso i'r rhieni gymryd rhan hefyd?

Wrth gwrs. Mae cyrsiau rhaffau uchel yn bethau da i ddod â’r teulu ynghyd i wynebu her gyda’i gilydd: mae’r plant bach yn magu dewrder ymysg ei gilydd, y rhai yn eu harddegau’n cael cyfle i ddangos eu hunain, a hwyrach y gwêl mam a dad nad ydynt yn rhy hen i wneud rhywbeth fel hyn wedi’r cyfan. Dyma ddiwrnod i’r brenin i’r teulu oll felly, sy’n rhoi cymaint o her i’r meddwl ag y mae i’r corff.

Mae'n swnio'n hwyl. Fyddwn ni'n dysgu rhywbeth hefyd?

Byddwch, a dweud y gwir. Mae canolfannau rhaffau uchel yn rhoi pwyslais ar gadw’n ddiogel yn yr awyr agored, a byddwch yn dysgu llawer o dechnegau a fydd yn fuddiol wrth wneud pethau eraill, fel dringo.

Llwybr o rwydi glas wedi eu clymu rhwng coed
Person ar rwydi glas cwrs rhaffau uchel rhwng coed mewn coedwig.

Zip World Fforest, Betws-y-Coed

Beth os yw hi'n bwrw glaw?

Fe gewch chi fwy o hwyl, yn ôl ambell i hyfforddwr. Mae glaw yn creu mwd, ac mae hynny yn ei dro’n creu cyrsiau mwy llithrig – bydd y rhai yn eu harddegau wrth eu bodd. Anaml iawn y gwelwch chi gwrs rhaffau uchel ar gau oherwydd tywydd gwael, oni bai fod gwyntoedd eithriadol o gryf, mellt a tharanau, eira neu rew - fe gewch chi rywfaint o gysgod rhag y glaw o dan frigau’r coed. Dewch â’ch dillad glaw beth bynnag, a mwynhewch yr her.

Dyna setlo'r peth, dwi'n mynd. Beth sydd ei angen arna i?

Dillad cyfforddus nad oes ots gennych eu baeddu. Esgidiau â gafael sy’n cau dros fodiau’ch traed. Menig o bosib. Chwant am antur, yn bendant.

Dringo yn y Gogledd

Dringo yn y Canolbarth

Dringo yn y Gorllewin

Dringo yn y De

Straeon cysylltiedig