Llwybr Arfordir Cymru

Llwybr Arfordir Cymru yw’r llwybr arfordirol parhaus hiraf yn y byd, gan redeg ar hyd holl arfordir ein gwlad: am 870 milltir (1,400km). Mae’n syfrdanol o hardd, a daw pob cilfach a phentir â’i chwedl ei hun am forladron a smyglwyr, seintiau a llongddryllwyr, pentrefi coll a chestyll a ddiflannodd o dan y tywod – a rhyw 230 o draethau. Oddi ar yr arfordir mae 50 ynys yn fyw gan adar, tra bo’r môr yn llawn o forloi, llamhidyddion a phod mwyaf y DU o ddolffiniaid.

Dyn a phlentyn - Pen Strwmbl, Sir Benfro

Pen Strwmbl, Sir Benfro ar arfordir Cymru

Dan eich stêm

Bu pobl yn cloddio mynyddoedd Cymru ers cyn hanes: copr, aur, arian, plwm, haearn, llechi, glo, calchfaen, gwenithfaen – tynnwyd pob un o’r bryniau hyn. Trenau fyddai’n cludo’r nwyddau gwerthfawr i borthladdoedd yr arfordir, a chafodd sawl lein fach ei chadw i redeg trenau pleser. Mae Rheilffordd Ucheldir Cymru’n mynd rhwng Porthmadog a Ffestiniog ym mherfeddion Eryri. Mae Rheilffordd Talyllyn yn mynd o Dywyn heibio i goedwigoedd a rhaeadrau. Mae llwybr Rheilffordd Cwm Rheidol yn dirwyn o Aberystwyth i Bontarfynach. A bu Rheilffordd Stêm y Friog yn wreiddiol yn cludo brics a morter i adeiladu tref lan-môr y Friog; bellach mae’n cludo ymwelwyr.

Trenau a bysiau’r arfordir

Llinell Arfordir y Cambrian yw un o’r teithiau trên arfordirol gorau ym Mhrydain, gan redeg rhwng Pwllheli ac Aberystwyth (mae prif linell y Cambria’n dipyn o sioe hefyd, gan redeg traws gwlad i Amwythig drwy’r bryniau). I archwilio gweddill yr arfordir, dal y bws sydd orau: mae Bws Arfordir Llŷn yn gofalu am y gogledd ddwyrain, tra bo’r Cardi Bach yn mynd rhwng perlau arfordirol Ceredigion. Gwasanaethir Llwybr Arfordir Sir Benfro’n arbennig o dda gan rwydwaith o Fysiau Arfordirol i ymwelwyr sy’n ymhyfrydu mewn enwau godidog fel Roced Poppit, a’r Pâl Gwibio. Ewch i wefan Llwybr Arfordir Cymru i gael trosolwg lawn o’r cyfan.

Abergwaun: ar drên neu long

Gallech ddal trên yng ngorsaf Paddington yn Llundain adeg brecwast, a bod yn Abergwaun erbyn cinio. Yn rhyfedd ddigon, os daliwch chi’r fferi foreol o Rosslare yn Iwerddon, byddwch chi yn Abergwaun erbyn amser coffi.

Llwybr Mawddach

Os am daith ar feic gyda’r teulu drwy olygfeydd bendigedig, mae Llwybr Mawddach yn ddiguro. Mae’n rhedeg am naw milltir (15km) di-draffig o Ddolgellau i Abermaw ar hyd hen reilffordd, â golygfeydd dros aber afon Mawddach a Chader Idris. Byddwch chi’n pasio dwy warchodfa RSPB ar hyd y daith, cyn croesi pont bren y rheilffordd i mewn i’r Bermo.

Yr anturiaethwr Richard Parks yn cario beic mynydd yn Y Bermo adeg machlud haul.

Yr anturiaethwr Richard Parks, y Bermo, Gwynedd

Straeon cysylltiedig