Rydym ni’n adnabyddus am ein casgliad lliwgar o gestyll yng Nghymru o bob siâp a phob maint, rhai yn dai bonedd wedi eu trawsnewid, eraill yn orthyrau carreg ag ôl traul arnyn nhw. Ond mae pedair caer sy’n hoelio sylw, a gellid dadlau mae’r rhain yw’r enwocaf a’r mwyaf godidog o holl gestyll y wlad. Cafodd cestyll Biwmares, Conwy, Caernarfon a Harlech – i gyd wedi eu lleoli o fewn hen ffiniau Gwynedd yng ngogledd Cymru – eu codi ar orchymyn brenin Lloegr, Edward I, yn ystod ei ymgyrch i oresgyn Cymru yn y 13eg ganrif. Y pensaer canoloesol, James o St George, fu’n gyfrifol am y strwythurau, ac fe godwyd y cestyll i atgyfnerthu goresgyniad milwyr Lloegr o’r tir.

Heddiw, heb fyddinoedd rhyfelgar ar gyfyl y lle, mae’r caerau cadarn yn ein hatgoffa o nerth a gweledigaeth ein cymdogion dros y ffin ac yn cofnodi cryfder a gwytnwch y Cymry a frwydrodd yn eu herbyn. Ond yn bwysicach na dim i ymwelwyr heddiw, o bosib, yw’r ffaith bod y pedwar strwythur mawreddog, sy’n ffurfio un o Safleoedd Treftadaeth Byd UNESCO Cymru, yn atyniadau gwych i’w harchwilio, â’u bylchfuriau i edrych drwyddyn nhw a’r stafelloedd brenhinol gynt i grwydro o’u hamgylch.

Ar ben hynny, gan fod y cestyll i gyd yn weddol agos at ei gilydd, gallwch chi ymweld â’r pedwar mewn un penwythnos gan ddilyn llwybr bythgofiadwy os ydych chi’n ymddiddori mewn cestyll.

Castell Harlech

Gan ddechrau â’r castell mwyaf deheuol o’r pedwar, roedd Castell Harlech, a godwyd yn uchel ar glogwyn creigiog sy’n edrych dros Fae Ceredigion, yn adnabyddus am fod yn un anodd i’w oresgyn yn ei anterth. Mae sôn fod y castell wedi gwrthsefyll y gwarchae hiraf yn hanes Prydain, pan ddaliodd y Cadlywydd Dafydd ab Ifan ab Einion ei dir yn gadarn yn erbyn byddinoedd Efrog am saith mlynedd yn ystod Rhyfel y Rhosynnau, gweithred a ysbrydolodd y rhyfelgan genedlaetholgar enwog, Gwyr Harlech.

Mae’r castell yn haws cael mynediad ato heddiw, lle mai un ffordd arbennig o serth (a ddaliodd y record byd am fod y ffordd fwyaf serth yn y byd gynt!) yw’r unig rwystr i’w oresgyn bellach. Unwaith rydych chi i mewn yno, anelwch i fyny i’r rhagfuriau i weld golygfeydd syfrdanol o’r arfordir ac o gopaon pell mynyddoedd Eryri – golygfa anodd ei churo, fel y castell ei hun gynt.

Grisiau troellog tu mewn i Gastell Harlech
Waliau a llwybrau ar ochr fewnol Castell Harlech
Llun o'r tu allan i'r castell wrth iddi nosi

Castell Harlech

Mynediad hygyrch yng Nghastell Harlech

  • Mae maes parcio â gofodau hygyrch wedi ei leoli gyferbyn â’r castell.
  • Mae’r ganolfan ymwelwyr, y caffi a llawr gwaelod y castell i gyd yn addas i gadeiriau olwyn.
  • Mae yn y ganolfan ymwelwyr doiledau hygyrch.

Castell Caernarfon

Anelwch i’r gogledd o Harlech ac fe gyrhaeddwch chi Gastell Caernarfon, y mwyaf mawreddog o bedwar castell Edward I sy’n ffurfio’r gadwyn yng ngogledd Cymru – ac mae rheswm da am hynny. Yn sefyll ar lan afon Seiont, cafodd y castell hwn ei godi, yn gam neu’n gymwys, i fod yn bencadlys yng Nghymru i’r brenin o Loegr (dyna’r rheswm am y waliau sydd fel llen drwchus), mewn arddull bensaernïol imperialaidd oedd yn ffefryn gan y Rhufeiniaid (a fu unwaith yn trigo yn yr ardal hon ac a adawodd eu caer eu hunain yma).

O dreiddio drwy furiau amddiffynnol allanol y castell, gall ymwelwyr gylchu’r buarth gwair y tu mewn cyn dringo i ben tyred y castell, Tŵr yr Eryr. Dyma ble bu brenhinoedd a breninesau yn gorwedd, a ble y ganwyd Edward II, y Sais cyntaf i’w alw’n dywysog Cymru, yn ôl y sôn. Mae’r castell hefyd yn gartref i amgueddfa sy’n cyflwyno hanes chwedlonol y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, catrawd gwŷr traed hynaf Cymru.

Llun o Gastell Caernarfon o'r de, gyda chychod yn yr harbwr o flaen y castell

Castell Caernarfon

Mynediad hygyrch yng Nghastell Caernarfon

  • Nid oes maes parcio penodol ar gyfer y castell, ond mae meysydd parcio i’w cael yn y dref â chanddynt i gyd ofodau hygyrch.
  • Mae llawr gwaelod y castell a’r ganolfan ymwelwyr yn addas i gadeiriau olwyn drwy ddefnyddio ramp, yn dilyn gwaith uwchraddio diweddar.
  • Mae amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig hefyd yn addas i gadeiriau olwyn.
  • Mae toiledau hygyrch ar gael. 
  • Mae lifft yn nhŵr porth y Brenin yn caniatáu mynediad hygyrch i ail lawr y castell rhwng y Granar a'r Tŵr Ffynnon (mwy o fanylion ar wefan Cadw).

Castell Conwy

Dilynwch yr arfordir i’r dwyrain o Gaernarfon ac fe sylwch chi yn o fuan ar furiau uchel Castell Conwy ar y gorwel. Er mor grand yw’r castell hwn ac er ei leoliad hardd â’i waliau uchel yn adlewyrchu yn nŵr yr aber lle mae cychod yn siglo’n hamddenol, nid oes llawer o ymwelwyr brenhinol wedi bod yma ers iddo gael ei gwblhau yn 1287. Unwaith yn unig yr ymwelodd y Brenin Edward I ei hun â’r castell drwy gydol ei hanes, pan dreuliodd Nadolig digon digalon yn gaeth rhwng y muriau â’r castell dan warchae (mae’n debyg mai un gasgen o win oedd ganddo yn unig gysur!)

Ond ni ddylai unrhyw un sy’n gwirioni ar gestyll feddwl nad oes gwerth ymweld â’r gaer hon y credir iddi fod yn un o’r caerau canoloesol sydd wedi ei chadw orau yn Ewrop. Prawf o hynny yw bod dal modd i ymwelwr heddiw ddringo grisiau troellog y castell, crwydro drwy hen goridorau’r gweision a busnesa yn y stafelloedd gwlâu brenhinol, sydd ymhlith yr ystafelloedd canoloesol mwyaf cyflawn yng Nghymru.

Llun o bell o Gastell Conwy a'r dref yn y cefndir
Llun o Gastell Conwy a'r môr

Castell Conwy

Mynediad hygyrch yng Nghastell Conwy

  • Mae modd parcio mewn maes parcio sy’n cael ei redeg gan y cyngor sir gyferbyn â mynediad y castell. Mae gofodau hygyrch penodol yn y maes parcio hwn.
  • Mae’r ganolfan ymwelwyr yn gwbl addas i gadeiriau olwyn, ond mae’r llwybr o’r ganolfan ymwelwyr i’r castell ei hun yn cynnwys ychydig o risiau.
  • Mae toiledau hygyrch ar gael ar y llawr gwaelod.

Castell Biwmares

Bydd yn rhaid i chi adael y tir mawr i gyrraedd Castell Biwmares, gan groesi’r ‘uchelgaer uwch y weilgi’, Pont y Borth, draw i Ynys Môn. Y castell hwn oedd prosiect mwyaf uchelgeisiol Edward I wrth i’r brenin gyflogi gweithlu o dros 2000 o ddynion a gwario dros £7000 (fyddai’n cyfateb i tua £3.75 miliwn heddiw) ar waith adeiladu yn y misoedd cyntaf yn unig. Yn anffodus, i’r rheiny ohonoch chi sy’n ymddiddori mewn pensaernïaeth ganoloesol, ni chafodd y castell erioed ei orffen, a rhoddwyd y gorau i’r gwaith oddeutu 1330 er mwyn rhoi arian tuag at oresgyn yr Alban.

Er hynny, mae’r castell yn dal yn dipyn o gampwaith, yn berffeithrwydd o ran cymesuredd â wal allanol o ddeuddeg tŵr carreg, yn cynnwys dros 300 o safleoedd saethu ar gyfer y saethwyr amddiffynnol, a’r wal honno’n cylchu chwe thŵr mwy sy’n ffurfio’r wal fewnol. Mae’r wal allanol ei hun wedi ei hamgylchynu gan ffos, oedd ar un adeg yn cysylltu’r gaer â’r môr. Os ydych chi’n ymweld â’r castell, mae gwerth hefyd ymweld â charchar Biwmares, carchar Fictorianaidd llawn cymeriad sy’n atyniad mawr arall yn y dref.

Golygfa o'r awyr o gastell Biwmares, Ynys Môn

Golwg uwchben Castell Biwmares, Ynys Môn 

Mynediad hygyrch yng Nghastell Biwmares

  • Nid oes maes parcio penodol ar gyfer y castell, ond mae llefydd parcio ar ochr y ffordd ar gael ger y castell a rhai o’r gofodau’n rhai hygyrch. Fel arall, mae meysydd parcio â mwy o ofodau hygyrch wedi eu lleoli dafliad carreg o’r castell.
  • Mae’r ganolfan ymwelwyr fechan ar y safle yn addas i gadeiriau olwyn.
  • Ceir mynediad at y castell dros bont ramp, gan olygu bod llawr gwaelod y castell yn addas i gadeiriau olwyn. Dylid nodi mai gwair yw’r llawr y tu mewn i’r castell, ond mae’n cael ei gadw’n fyr gydol y flwyddyn.
  • Nid oes unrhyw doiledau ar safle’r castell, ond mae toiledau cyhoeddus hygyrch ar gael 50 metr o’r safle.

Trefi caerog Caernarfon a Chonwy

Nid digon i Edward I oedd adeiladu cestyll mawreddog a fyddai’n gwrthsefyll traul amser, fe ffurfiodd drefi cyfan gwbl gaerog yng Nghaernarfon ac yng Nghonwy, gyda’r syniad o greu llefydd diogel i’w filwyr o Saeson fyw.

O ganlyniad, mae gan y ddwy dref waliau tal caregog yn freichled o’u cwmpas, â phyrth i ganiatáu mynediad i gyfeillion a thyrau i gadw gwrthwynebwyr draw. Er mai eu pwrpas oedd amddiffyn y trefi, mae’r ddwy wal wedi goroesi yn gyfan gwbl bron fel ag yr oedden nhw, lle gall ymwelwyr gerdded cylchdro llawn ar hyd y wal sy’n ffin o amgylch Conwy.

Tu mewn i’r waliau, mae cynllun igam-ogam y strydoedd yn cyfleu rhyw naws ganoloesol yn sicr, ond mae’r siopau bwtîc bychain a’r caffis cartrefol sy’n britho’r strydoedd cul yn dod â naws fodern gyferbyniol i’r trefi. Yn wir, mae’n dangos sut mae’r aneddiadau hyn sy’n rhestredig gan UNESCO wedi trawsnewid o fod yn cynrychioli grym militaraidd Lloegr i fod yn symbolau o falchder Cymreig – sy’n llawer mwy croesawgar i ymwelwyr heddiw.

Straeon cysylltiedig