Grym y goresgynwyr
Ac yntau’n frenin yn anterth ei rym, roedd Edward I am ddangos i’r Cymry mai ef oedd yn deyrn drostynt. I wneud hynny fe gododd gadwyn o gestyll cadarn, yn rhybudd i Gymry’r Canol Oesoedd fod yn rhaid iddynt ufuddhau iddo.
Adeiladodd Edward Gastell Caernarfon yn y 1280au, oddeutu’r un pryd â dau o’i gestyll mawr eraill yn Harlech a Chonwy. Gyda’i gilydd roeddent yn aruthrol o ddrud – 90 y cant o gyllid y wlad mewn blwyddyn. Roedd am i bawb wybod ei fod yn frenin diwylliedig a chyfoethog.
Pensaer o fri
I wneud y gwaith, byddai’n rhaid cael rhywun gwell na chriw cyffredin o adeiladwyr – felly galwodd Edward am ŵr o’r enw Jacques de Saint-Georges d’Espéranche o Safwy ger Llyn Genefa, pensaer milwrol mwyaf y cyfnod. Addurnwyd muriau cadarn a thyrau wythonglog Castell Caernarfon â gwahanol resi o gerrig calch a thywodfaen, cafwyd yr arlunydd a addurnodd Neuadd Westminster i baentio murluniau y tu mewn i’r castell, a rhoddwyd gwydr yn y ffenestri. Cynigwyd pob cyfleuster modern yn y castell hefyd, megis ystafelloedd ymolchi, toiledau a dŵr tap.
Serch hynny, prif swyddogaeth y castell oedd creu argraff a chodi braw, a thawelu unrhyw Gymry a fynnai herio awdurdod y brenin. Yn amddiffyn y brif fynedfa, Porth y Brenin, roedd pont godi fawr a chwe phorthcwlis, yn ogystal ag agenau saethu, tyllau sbecian a thyllau llofruddio y byddai amddiffynwyr y castell yn eu defnyddio i daflu pethau annymunol ar ben unrhyw ymosodwyr.
Yn bwrw cysgod o hyd
Erbyn heddiw, mae’r castell a gododd y Saeson yn un o drysorau pensaernïol mwyaf Cymru. Wrth i chi gerdded at y castell gallwch ddychmygu mor fygythiol y byddai wedi bod yn y canol oesoedd. Mae’n bwrw cysgod dros aber Afon Seiont a thref Caernarfon i gyd, lle mae bellach rhwydwaith o strydoedd o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif o fewn y muriau canoloesol.
Pan gamwch i mewn i’r castell, fe ryfeddwch mor fawr yw’r adeilad, a chymaint ohono sydd wedi goroesi. Cewch rwydd hynt i grwydro yma ac acw, i edmygu’r olygfa o Gaernarfon o ben Tŵr yr Eryr, neu ddringo’r grisiau troellog i gael gwell golwg ar y llecyn glaswelltog lle cafodd Charles ei arwisgo yn Dywysog Cymru ym 1969.
Y Celtiaid a’r Rhufeiniaid
Ceir mwy o drysorau hanesyddol y tu hwnt i gyrion dref. Mae pobl wedi byw yn y rhanbarth o amgylch Caernarfon ers oes y Celtiaid, a daeth y Rhufeiniaid i gipio’r lle oddeutu 70 mlynedd Oed Crist. Ar ben bryn i’r dwyrain o’r castell saif adfeilion Caer Rufeinig Segontium, a sefydlwyd tua 77 OC i ddal tua mil o droedfilwyr. Meddiannwyd y safle am oddeutu tair canrif. Mae modd gweld cynllun llawr y rhan helaeth o’r adeiladau hyd heddiw.
Am brofiad hollol wahanol, ewch i ganol yr holl wyrddni Gelli Gyffwrdd, rhyw dair milltir i’r gogledd-ddwyrain o’r dref. Dyma barc antur yn yr awyr agored gyda thrên gwyllt ecogyfeillgar, cychod bach, saethyddiaeth, gwifrau gwib, cuddfannau yn y coed ac ysgubor fawr i chwarae ynddi. Mae plant wrth eu bodd yma.