Beth yw croeso.cymru?
croeso.cymru yw prif wefan porth rhyngwladol Cymru ar gyfer twristiaeth.
Mae’n ffynhonnell o ysbrydoliaeth a gwybodaeth i bawb sy’n awyddus i ddysgu mwy am Gymru fel lle i ymweld ag ef am wyliau byr neu wyliau hirach, neu ar gyfer busnes. Dyma hefyd ein porth am ragor o wybodaeth am Ddigwyddiadau Busnes a chyfleoedd ar gyfer y Fasnach Deithio.
Am ragor o wybodaeth fanwl am Gymru fel gwlad i ymweld â hi, ewch i Cymru.com; neu ewch i wefan Masnach a Buddsoddi Cymru i ganfod mwy am gyfleoedd busnes yng Nghymru.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth ynghylch Llywodraeth ddatganoledig Cymru.
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Visit Wales, y tîm o fewn Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu a hyrwyddo'r economi ymwelwyr yng Nghymru.
Ein huchelgais yw tyfu twristiaeth er budd Cymru: cynhyrchu buddion economaidd, amgylcheddol, diwylliannol ac iechyd sy'n cyfoethogi bywydau ein hymwelwyr a'n cymunedau lleol. Ein rôl yw cefnogi a galluogi ein partneriaid i dyfu'r sector twristiaeth ar gyfer y dyfodol.
Ewch i wefan Llywodraeth Cymru am wybodaeth ynghylch Llywodraeth ddatganoledig Cymru. Gellir cael mwy o wybodaeth am ein dull yn y ddogfen – Croeso Cymru: blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020 i 2025 .
Dwi’n chwilio am wybodaeth mewn iaith wahanol
Gwefan ar gyfer cynulleidfa sy'n siarad Cymraeg ydi Croeso.Cymru, gyda mwy o bwyslais ar bobl sydd yng Nghymru eisoes.
Mae VisitWales.com yn wefan Saesneg rhyngwladol sydd wedi’i hanelu at amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd byd-eang sy’n siarad Saesneg.
Mae fersiwn o VisitWales.com hefyd ar gael yn Almaeneg. Bydd ymwelwyr o Ogledd America yn derbyn safle sydd ychydig bach yn wahanol o ran ei gynnwys. Mae pob gwefan wedi’i pharatoi’n benodol i fodloni anghenion y cynulleidfaoedd gwahanol hyn.
Gallwch hefyd ganfod gwybodaeth ragarweiniol sylfaenol am Gymru fel lle i ymweld ag ef ar Dyma Gymru yn Saesneg, Cymraeg, Almaeneg, Ffrangeg a Sbaeneg. Unwaith eto, mae fersiwn arbennig i Ogledd America ar gael hefyd. Mae gwefan annibynnol ar gael mewn Japaneg hefyd.
Ydw i’n gallu dod o hyd i chi ar y cyfryngau cymdeithasol?
Ydw i’n gallu ychwanegu fy musnes at y wefan?
Gallwch – gall busnesau llety, atyniadau a gweithgareddau yng Nghymru greu cofnod ar Croeso.Cymru / VisitWales.com. Mae angen i’r busnesau hyn gwrdd â meini prawf penodol. Ewch i dudalen Gweithio gyda Croeso Cymru i gael mwy o wybodaeth ac i ddysgu mwy am sut i ychwanegu neu ddiweddaru eich cofnod busnes.
Hoffwn weithio gyda chi i hybu Cymru a Croeso.Cymru – sut ydw i’n cymryd rhan?
Mae gennym ffyrdd manwl o weithio gyda Croeso.Cymru / Visit Wales i wneud yn fawr o’ch cofnod ar ein tudalen Gweithio gyda Croeso Cymru.
Beth yw eich agwedd at gynnwys a chynhwysiant?
Mae gwefannau Croeso.Cymru a VisitWales.com yn ffenestri siop ar gyfer Cymru er mwyn tyfu ein heconomi a hybu ein cymunedau. Pwyslais y safle yw archwilio Cymru a’i rhanbarthau, yn hytrach na hybu unrhyw fusnes unigol. Does dim budd ariannol i unrhyw fusnesau sy’n cael sylw.
Rydyn ni wedi datblygu cynnwys ac erthyglau penodol yn seiliedig ar yr hyn y gwyddom mae ein defnyddwyr yn chwilio amdano. Rydyn ni’n defnyddio mewnwelediad data a chwilio’r we a’r cyfryngau cymdeithasol i’n helpu i wneud hynny. Rydyn ni hefyd wedi ystyried nodau a blaenoriaethau strategol a amlinellwyd yn y ddogfen - Croeso Cymru: blaenoriaethau ar gyfer yr economi ymwelwyr 2020 i 2025 .
Rydyn ni’n anelu i gael dosbarthiad daearyddol a chydbwysedd o ran cynnwys er mwyn arddangos y gorau sydd gan Gymru gyfan i’w gynnig ar lefel eang. O ran gweithgareddau awyr agored, anelir yr wybodaeth a’r cynnwys yma at y defnyddiwr cyffredinol yn hytrach na’r arbenigwr. Cafodd nifer o erthyglau’r safle eu comisiynu gan Croeso Cymru a’u hawduro gan awduron teithio annibynnol.
Os teimlwch fod gennych stori gadarnhaol neu ddiddorol i’w rhannu am eich busnes, cysylltwch dros e-bost os gwelwch yn dda: ymholiadau.cymru@llyw.cymru
Rheolau golygyddol
Yn achos rhestri, rhaid i ni gynnwys trawstoriad rhanbarthol da a’u cyflwyno fel ‘rhaid gwneud’, ‘deg peth gwych’ neu ‘peidiwch â cholli’ yn hytrach na’r ‘deg uchaf’ neu ‘pump o’r goreuon’.
Bydd ein holl gynnwys yn cael ei adolygu a’i adfywio’n rheolaidd. Rydyn ni’n gweithio’n barhaus i wella sut fyddwn ni’n llywodraethu a rheoli ein cynnwys.
Rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gan fusnes yr achrediad angenrheidiol, gradd ddigonol neu safonau’r diwydiant i gael ei gynnwys yma.
Gweithgareddau awyr agored
Rydyn ni wedi ceisio bod yn arbennig o ofalus o ran mwynhau’r awyr agored. Mae hynny’n cynnwys sicrhau bod rheoliadau diogelwch ac arferion da yn cael eu dilyn yn llym – ac mae’r delweddau ar y safle’n adlewyrchu hynny. Pan fydd corff llywodraethol cenedlaethol yn bodoli ar gyfer y gweithgaredd perthnasol, rydyn ni wedi darparu dolen. Yn olaf, rydyn ni’n ymdrechu’n fawr i sicrhau bod y cynnwys, y manylion technegol a daearyddol a gynhwysir ynddo’n cael ei wirio gan rywun sy’n gwybod ac yn deall y gweithgaredd dan sylw yn drylwyr.
Ymwadiad
Byddwch yn ofalus allan yna. Er ein bod ni wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod y cynnwys a’r wybodaeth ar y wefan hon yn gywir, yn gyfredol, ac yn unol â rheoliadau, achrediadau ac arferion da perthnasol, ni ellir rhoi cyfrifoldeb arnom ni am unrhyw ddamwain neu anffawd a allai ddigwydd. Mae gennych chi ran fawr i’w chwarae yn eich diogelwch a’ch mwynhad eich hun!