Dwi erioed wedi bod yn nwmismatydd (sef casglwr darnau arian i chi a fi), felly doeddwn i ddim yn siŵr beth i’w ddisgwyl o’m hymweliad â’r Royal Mint Experience yn Llantrisant. Fel y bu hi, mae’r holl glod i’r amgueddfa ddiddorol hon o’r arian yn ein pocedi, ers iddi agor yn 2016, yn gwbl haeddiannol.
Gwneud arian
Yn dilyn archwiliad diogelwch trwyadl (wedi’r cyfan, mae’r cadw-mi-gei hwn ymhlith y mwyaf yn y DU) dechreuodd y profiad gyda fideo byr. Wedi’i gyflwyno gan yr hanesydd teledu Dan Snow, mae'r fideo yn rhoi cyflwyniad cryno i waith a hanes y Bathdy, yn frith o ffeithiau a ffigurau syfrdanol. A wyddech chi fod y Bathdy’n cynhyrchu bron pum biliwn o ddarnau arian y flwyddyn, a’r rheini i’w defnyddio yn y DU ac mewn mannau fel Jamaica, Tanzania a Gwlad Thai? Wel, rydych chi'n gwybod nawr!
Ymlaen â ni wedyn i lawr y ffatri i gael gweld yn union sut mae darnau arian yn cael eu gwneud. Fel mae’n digwydd, mae cynhyrchu arian yn broses weddol gymhleth sy’n mynnu technegau gweithgynhyrchu rhyfeddol o fanwl gywir, peiriannau a fyddai’n gweddu’n iawn i ffilm ffuglen wyddonol, a chrefftwaith ddifrifol o arbenigol. Wrth wylio staff y Bathdy wrth eu gwaith, cewch weld yn union sut mae gwneud arian. Mae gwybod bod pob un darn arian yn y DU wedi’i wneud yma yn gwneud i chi ystyried y mân newid yn eich poced o safbwynt hollol newydd.
Craig o arian
Ond nid staff y Bathdy sy’n cael yr hwyl i gyd. Ar ddiwedd y daith, rhoddwyd y cyfle i ni fathu ein darn arian ein hunain, yn gofrodd barhaol o’n hymweliad. Roedd yn nodwedd arbennig o boblogaidd ymhlith yr ymwelwyr ieuengach yn fy ngrŵp, ac felly hefyd y cyfle i gael tynnu eu llun ymhlith cewyll tryloyw yn llond o £1 miliwn mewn darnau punt sgleiniog. Craig o arian yn wir.
Ond nid oedd y profiad ar ben ar ôl i’r daith orffen. Roedd arddangosfa’r Bathdy i’w harchwilio o hyd. Ochr yn ochr ag arddangosiadau o rai o ddarnau arian hynaf a mwyaf gwerthfawr y byd, cawsom weld ychydig o’r darnau arian tramor a wneir ar y safle, yn ogystal â medalau Gemau Olympaidd Llundain 2012 (un o gynyrchiadau eraill y Bathdy Brenhinol). Ceir hefyd lu o arddangosion a gemau rhyngweithiol eraill i ddiddanu’r plant (a’r oedolion). Fy hoff un i oedd clorian arbennig sy’n mesur y disgrifiad o fod yn werth eich pwysau mewn aur. Os sefwch arno, dywedir wrthych eich union werth mewn aur. Rwy’n dal i geisio deall a oeddwn i’n siomedig neu’n falch o’m gwerth ariannol i.
Ar ôl seibiant cyflym yn y caffi, a phori yn y siop roddion, roeddwn ar fy ffordd adref gyda meddyliau am ddarnau arian yn tincial yn fy mhen. Mae'n brofiad arbennig sy'n medru gwneud i chi edrych eto ar rhywbeth roeddech cynt yn ei ystyried yn ddigon cyffredin (os oeddech chi'n meddwl amdano o gwbl, hynny yw), ond mae hyn yn gamp sy'n cael ei gyflawni gan y Royal Mint Experience. Ers fy ymweliad, dwi ddim wedi gallu talu am goffi neu bapur newydd heb graffu ar y darnau arian yn fy llaw. Efallai y gwnawn nhw nwmismatydd (arbennigwr darnau arian) ohona i eto.