Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Sir Gaerfyrddin
Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw’r ardd sy’n denu’r mwyaf o ymwelwyr yng Nghymru, a chanddi dros 8,000 o wahanol amrywiadau o blanhigion ar wasgar ar draws 560 erw (227ha) o gefn gwlad prydferth. Mae amrywiaeth drawiadol o erddi thema, y tŷ gwydr un lled mwyaf yn y byd, Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, Tŷ Glöynnod Byw trofannol, ardaloedd chwarae a gwarchodfa natur genedlaethol, a’r cyfan mewn tirwedd Rhaglywiaeth. Cynigir rhaglen orlawn o ddigwyddiadau a chyrsiau drwy gydol y flwyddyn.
Darllen mwy: Byd o ryfeddodau: Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Gerddi Aberglasney, Sir Gaerfyrddin
Bu bardd o’r 15fed ganrif yn canmol ‘naw gardd las’ Aberglasney, ond bu bron i’r trysor canoloesol hwn ddiflannu’n llwyr nes achub y gerddi, a’r plas yn eu canol, yn y 1990au. Fe’u hadferwyd yn brydferth a’u plannu’n ddwsin o ardaloedd thema, yn erbyn cefndir o gloestrau, pyllau, parapedau, bwâu a’r coetiroedd o amgylch.
Dyffryn Fernant, Sir Benfro
Mae’r lleoliad gwych yn rhoi Dyffryn Fernant ar y blaen i erddi eraill, sef gardd sy’n swatio ym mhlygion gogledd Sir Benfro, gyda’r arfordir ar y naill ochr, a Chwm Gwaun a Mynyddoedd y Preseli ar y llall. Cymerodd bron chwarter canrif i’r chwe erw (2.5ha) o ardd ddychmygus hon ddod i’r amlwg o’r dirwedd wyllt, ond, yn ôl The Times, yma mae’r ardd ddomestig orau yng Nghymru.
Hilton Court, Sir Benfro
Cyfres o byllau rhenciog, yn drwch o lili’r dŵr, yw canolbwynt Hilton Court, sydd mewn cwm coediog nid nepell o Fae Sain Ffraid. Mae’r microhinsawdd cynnes yn helpu i gynnal llu amrywiol o blanhigion (ac anifeiliaid), a’r gromen solar yn lloches drofannol i drigolion mwy egsotig.
Castell a Gerddi Pictwn, Hwlffordd, Sir Benfro
Gyda Moryd Cleddau i bob ochr iddo, mae’r 40 erw (16ha) o gwmpas Castell Pictwn o’r 13eg ganrif yn cynnwys coed hynafol, drysfeydd, rhedyn, blodau gwyllt a rhywogaethau prin. Ceir croeso cynnes iawn i blant: mae Llwybr Plant drwy’r gerddi’n aros mewn lle chwarae antur, gardd berlysiau a phwll. Yn ystod yr haf, mae’r Ardd Dylluanod Gudd yn cynnig profiadau hedfan tylluanod.
Gerddi Clun, Abertawe
Gerddi Japaneaidd, llynnoedd, dolydd blodau gwyllt, coedwigoedd clychau'r gog, tyrau, capeli a gwylfa sydd ymhlith y nodweddion trawiadol yn y baradwys hon o’r 19eg ganrif. Mae gan Erddi Clun gasgliad sy'n genedlaethol bwysig o rododendron, pieris ac enkianthus, sy’n danbaid yn eu blodau tua dechrau’r haf. Crëwyd y gerddi gan deulu Vivian, oedd yn ddiwydianwyr/barwniaid.
Gardd Fotaneg Treborth, Bangor
Lluniwyd Treborth yn ardd bleser dros 160 o flynyddoedd yn ôl, ond ataliwyd dyluniad gwreiddiol Syr Joseph Paxton gan broblemau cyllid, a dim ond yn ystod y 1960au y daeth y safle i’r amlwg eto pan gafodd ei brynu gan Brifysgol Bangor. Wedi’i llunio gan arbenigwyr academaidd, mae Gardd Fotaneg Treborth bellach yn sefydliad ymchwil ar gyfer caboli sgiliau garddwriaethol, ac yn lle cwbl ddymunol i ymweld ag ef. Mae ei chwech tŷ gwydr yn amrywio o ran tymheredd i gynnal planhigion anhygoel o Gymru a phedwar ban byd. A pheth arall, mae Llwybr Arfordir Cymru’n rhedeg drwy ei choetir.
Plas Brondanw, Eryri
Mae Syr Clough Williams-Ellis yn enwog am greu pentref ffantasi Eidalaidd Portmeirion, ond roedd ei wir frwdfrydedd yn agosach i gartref. Plas Brondanw yw’r eiddo a etifeddodd dros ganrif yn ôl. Gerddi’r plas yw etifeddiaeth dyn a dreuliodd lawer o’i fywyd, ac a wariodd bob un o’i geiniogau, arnynt hwy. Erbyn hyn, mae eu tirlunio gwych – yn rhan o safle a adeiladwyd yng nghanol yr 16eg ganrif – yn cynnig coed yw, orendy a golygfeydd ysblennydd o’r mynyddoedd.
Gerddi Dewstow, Sir Fynwy
Stori hynod o golli a chanfod yw Gerddi Dewstow. Claddwyd y gerddi Edwardaidd gwreiddiol yn y 1940au cyn eu dychwelyd i dir fferm, a dim ond yn 2000 y cawsant eu hailddarganfod. Datgelodd y cloddiadau byllau, cornentydd, creigerddi, a labyrinth cyfan o dwnelau, grotos a chasgliadau o redyn suddedig o dan y ddaear - a’r cyfan wedi’i adfer yn ddyfal i’w ogoniant blaenorol.
Gardd Gerflunwaith Dyffryn Gwy, Sir Fynwy
Gorwedd heddwch Gardd Gerflunwaith Dyffryn Gwy ymhlith llethrau coediog hynafol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy. Fe’i rheolwyd yn organig ers 40 mlynedd, ac mae iddi lu o forderi blodau, pwll, ardaloedd coetir, perllan a dolydd, a’r cyfan yn cynnig cynefin ffrwythlon a thoreithiog i fywyd gwyllt. Gosodwyd cerfluniau gan yr artist lleol Gemma Wood yn lluniaidd o gwmpas yr ardd.