Ar 20 Mawrth, sef cyhydnos y gwanwyn, mae’r dydd a’r nos ill dau’n ddeuddeg awr o hyd ac mae’r haul yn codi’n syth yn y dwyrain ac yn machlud yn syth yn y gorllewin, ble bynnag yr ydych yn y byd.
Mae gan Gymru lawer o fannau hardd o bwys hanesyddol sy’n berffaith i wylio’r wawr. Gosodwch eich larwm yn gynnar, paratowch ddiod boeth i fynd gyda chi, a chewch gyfle i fwynhau eiliad arbennig o lonyddwch pur. Cyfle i groesawu’r gwanwyn a thynnu’r llun perffaith.
Castell Dinas Brân, Llangollen
Bwâu canoloesol a chewri crac
Ar gyrion gogleddol Llangollen mae yna fryn pigfain sydd ag adfeilion castell canoloesol ar ei ben. Mae’n amlwg bod hwn yn gopa y mae angen ei goncro – mae yna brawf bod olion caer bren dan yr adfeilion, yn ogystal â bryngaer o’r Oes Haearn.
Dim ond am gyfnod byr o ddeuddeg mlynedd y cafodd y castell ei ddefnyddio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, yn ôl yr hanes, roedd y dywysoges Myfanwy Fychan yn byw yma. Amdani hi y cyfansoddwyd y gân enwog ‘Myfanwy’, y mae corau meibion Cymru yn ei chanu’n aml.
Mae sôn am Gastell Dinas Brân mewn stori o’r 12fed ganrif. Mentrodd criw o farchogion Normanaidd aros dros nos yn yr adfeilion hyn lle’r oedd bwgan, er mwyn trechu’r cawr Gogmagog. Mae’n debyg iddo adael trysor ar ei ôl, felly cadwch lygad amdano.
Mae’r bryn yn serth ond nid yw’r ffordd yn bell, ac mae’r olygfa fendigedig o’r copa yn werth yr ymdrech. Mwynhewch wylio’r wawr yn torri drwy’r bwâu, yna ewch yn ôl i lawr i’r dref i fwynhau paned gan wybod bod y gwanwyn ar y gorwel.
Darllen mwy: 8 safle treftadaeth gwerth eu gweld.
Siambr Gladdu Llwyneliddon, Caerdydd
Cerrig yn troelli a’r haul yn dychwelyd
Mae’r siambr gladdu hon ger Caerdydd, sy’n 6000 o flynyddoedd oed, yn hŷn na Chôr y Cewri a’r pyramidiau. Roedd y cerrig yn rhan o garnedd Neolithig a oedd yn ymestyn yn syth o’r dwyrain i’r gorllewin. Yn ystod pob cyhydnos mae’r haul yn codi’n syth gyferbyn â’r fynedfa, a byddai wedi goleuo’r siambr ar ei hyd. Yr awgrym yw bod y garnedd yn cynrychioli croth seremonïol.
Mae capfaen enfawr pedwar metr Siambr Gladdu Llwyneliddon yn dal i bwyso ar dri maen hir. Dyma hanes yn ei ffurf fwyaf syml – does yma ddim cyfleusterau ac nid yw’r safle wedi’i gloddio erioed. Parciwch mewn cilfach, cerddwch ar draws y cae a mwynhewch y wawr mewn tawelwch: dim ond chi, y meini a beth bynnag sydd danynt.
Mae yna adegau da eraill i ymweld â’r siambr hefyd. Ar noswyl canol haf, mae’n debyg bod y capfaen yn troelli deirgwaith tra bydd y meini eraill yn mynd i’r afon i ymdrochi! Ac os byddwch yn ymweld â’r lle adeg Calan Gaeaf, bydd unrhyw ddymuniad y byddwch yn ei sibrwd wrth y meini’n siŵr o gael ei wireddu.
Y Maen Chwyf, Pontypridd
Clogfaen rhewlifol o Oes yr Iâ
Yn ystod Oes yr Iâ, gosodwyd carreg enfawr ar yr hyn a ddaeth yn Faes coed Penmaen. Mae’r adfeilion megalithig hyn wedi ei angori yn y ddaear hyd heddiw.
Y Maen Chwyf neu'r Garreg Siglo oedd man cwrdd yr Orsedd yn 1814, a drefnir gan y saer maen Edward Williams, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol - Iolo Morganwg.
Cafodd cylch Meini'r Orsedd, sy'n cynnwys meini llai, ei godi yn 1849 gan Evan Davies - sef Myfyr Morganwg. Daeth y cylch sanctaidd yn llwyfan ar gyfer achlysuron barddol. Dewch i weld dros eich hunain ar Daith Gylchol Pontypridd.
Yr Heol Aur, Bryniau’r Preseli, Sir Benfro
Cerrig gleision garw a moch hud
Llwybr Neolithig saith milltir o hyd yw’r Heol Aur, sy’n ymestyn ar hyd cefn gwlad Bryniau’r Preseli, rhwng copaon sy’n frith o gerrig gleision garw. Mae’n ymestyn o’r gorllewin i’r dwyrain, felly gallai’r llwybr adeg y gyhydnos fod yn heol aur yng ngwir ystyr y gair. Ewch i Foel Eryr i ddechrau troedio llwybr haul y bore.
Mae llawer i’w weld wrth i chi gerdded. Mae’r llwybr yn mynd heibio carneddau pwysigion yr Oes Efydd; heibio Moel Drygarn a’i chaer drawiadol o’r Oes Haearn; a heibio caer Castell Henllys sy’n amgueddfa. Mae’r ardal yn amlwg iawn yn chwedl Arthur, a byddai’r Twrch Trwyth a oedd mor fawr â cheffyl rhyfel wedi crwydro’r llwybr hwn.
Hwyrach fod yr Heol Aur hefyd wedi bod yn llwybr masnachu ar gyfer porthmyn a’r sawl a fyddai’n cludo aur o Iwerddon i Wessex. Hwyrach hefyd mai ar hyd y llwybr hwn y cludwyd y cerrig gleision enfawr sydd i’w gweld yng nghylch mewnol Côr y Cewri, 160 o filltiroedd i ffwrdd.
Ond yn fwy diddorol na dim, canfuwyd yn ddiweddar bod llawer o gerrig gleision yn canu fel clychau pan fyddant yn cael eu taro â cherrig morthwylio bach. Felly, tybed a oedd pobl yma’n mwynhau cerddoriaeth mewn ambell ddefod neu barti 4000 o flynyddoedd yn ôl?