O fewn ei 568 erw mae yna ryfeddodau lu yn aros i gael eu darganfod yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, o sgydau a rhaeadrau i eryrod yn hedfan, yn ogystal â rhai o'r planhigion fwyaf prin ar y blaned. A hithau'n cynnwys llawer o ardaloedd ac iddynt thema arbennig, casgliadau planhigion rhyfeddol, cerfluniau, gwyddoniaeth, bywyd gwyllt, nodweddion dŵr, hanes, treftadaeth, Canolfan Adar Ysglyfaethus Prydain, a chyfleusterau siopa a bwyta, bydd arnoch angen mwy nag un ymweliad i brofi popeth.
Y Gwanwyn
Prif atyniad yr Ardd Fotaneg yw'r gromen wydr anhygoel, sef Tŷ Gwydr Mawr yr Arglwydd Foster, sy'n gartref i un o'r casgliadau gorau yn y byd o blanhigion parth hinsawdd Môr y Canoldir.
Mae'r lleoliad tymherus hwn ar gyfer planhigion parth hinsawdd Môr y Canoldir yn gyforiog o liwiau ym mis Ebrill a mis Mai pan fydd yn llawn blodau o'r Canoldir, Califfornia, De Affrica, Awstralia, Chile a'r Ynysoedd Dedwydd. Mae brwshys poteli coch llachar, boronias a banadl yn llenwi'r greadigaeth anferthol hon ag arogleuon gwyliau tramor, tra bydd gweld pig yr aran enfawr, gwiberlys aruchel, lelog melysber, planhigion pawen cangarŵ a Phrotea'r Brenin yn peri i chi sefyll yn eich unfan.
Y tu allan, o ganol mis Ionawr, cewch hyd i luwchfeydd breuddwydiol o eirlysiau, ynghyd â chyll ystwyth, elebwr, saffrwm a chamelias rhyfeddol, ac, wrth gwrs, llu o gennin Pedr euraidd.
Wrth i'r tywydd gynhesu, mae'r gwahanol ardaloedd yn cael eu dyledus barch. Mae'r gwanwyn yn yr ardd Japaneaidd goeth, sydd wedi ennill Medal Aur yn Chelsea, bellach yn cael ei harddu â garlant o 100 o goed ceirios newydd eu plannu, ac mae Coed y Gwanwyn gerllaw yn ferw o glychau'r gog. Mae'r Ardd Ddeufur unigryw a hanesyddol yn meddu ar fagnolia, tiwlipau, gellesg a garlleg. Ac, wrth i'r tymor fynd yn ei flaen, bydd gwrid cynnil arlliwiau'r Rhodfa yn dechrau ymddangos, gan roi taith llawn hyfrydwch i chi o'r brif fynedfa i galon yr Ardd.
Yn y dirwedd adferedig, mae llawr y coetir yn llawn blodau'r gwynt a chlychau'r gog, ac mae glaw y gwanwyn yn peri i'r nodweddion dŵr gyrraedd cresendo taranllyd. Cadwch eich llygaid ar agor am ddyfrgwn, gleision y dorlan, crehyrod glas, deloriaid y cnau, dringwyr bach, trochwyr ac adar dŵr.
Yr Haf
Cyn pen dim, bydd yr Ardd Wyllt yn doreth o liwiau wrth i'r gwanwyn droi'n haf, a bydd y dolydd blodau gwyllt yn datgelu trysorfa o degeirianau a blodau gwyllt cefn gwlad trawiadol eraill, sydd bron wedi mynd yn angof, megis carpiog y gors, y gribell felen, y bengaled, y bwrned mawr a'r effros.
Mae'r haf hefyd yn amser gwych i archwilio porfeydd y fferm organig. Llawer llai gwyllt yw'r brid prin o ddefaid Balwen wynepwyn sy'n britho'r llechwedd yn eu cnu brown tywyll, ynghyd â gwartheg Duon Cymreig.
Yn y cyfamser, mae pethau'n cynhesu yn y Tŷ Gwydr Mawr a'r Tŷ Trofannol agerog, lle mae blodau egsotig a phlanhigion prin yn dal y llygad. Yng ngwres y dydd, mae ardaloedd claear y coetiroedd yn hoe i'w groesawu, ac felly hefyd daith gerdded dawel ar lan y llynnoedd. O gwmpas pob tro, mae yna elfennau a fydd yn peri i chi sefyll yn eich unfan, boed hynny'n goridorau lliw gogoneddus yr Ardd Ddeufur, y llwybrau tawel trwy welyau llechi hudolus, neu'n hyfrydwch llaith yr Ardd Gors a'r Ardd Glogfeini wefreiddiol, raeanog. Yn y cyfamser, mae lilïau undydd, rhosod crwydrol, planhigion dringol a chrib-y-ceiliog yn ffrwydro yng ngwelyau'r Rhodfa.
Gynted ag y daw gwyliau'r haf, mae'r Ardd yn llawn teuluoedd yn dilyn llwybrau, yn mynd ar deithiau ac yn mwynhau pob math o hwyl a gemau – ac, yn anad dim, yn ymweld â Chanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain i weld yr arddangosfeydd hedfan gwych a chofiadwy gan eryrod, barcutiaid, tylluanod, hebogiaid a gweilch.
Yr Hydref
Wrth i'r tymheredd ostwng, mae toreth o liwiau hydrefol yn ymddangos trwy niwl ysgafn mis Medi. Mae'r golygfeydd o amgylch y Tŷ Gwydr Mawr, ar lan y llynnoedd, yn y coetiroedd, ac yn yr Ardd Japaneaidd Zen-aidd, ynghyd â'r glaswelltau addurnol meddal, siglog, yn ffurfio palet syfrdanol ac iddo broceri poeth, blodau Mihangel, dahlias, masarn a saffrwm yr hydref yn odre iddo.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn dilyn ein Llwybr Coed yr Hydref, a fydd yn mynd â chi o'r Goeden Tiwlip ac yn eich blaen at goed derw a chastanwydd enfawr, oestrwydd, masarn a chochwydd collddail Tsieineaidd.
Allan ar y warchodfa natur genedlaethol, yn y borfa y mae'r defaid wedi ei chnoi, mae yna rywbeth hudol yn digwydd. Bob mis Hydref, daw'r dolydd capiau cwyr gwyllt yn helfa drysor ar gyfer ffyngau prin. Ewch i chwilio am Cae Capiau Cwyr a pharatowch i ryfeddu at y ffyngau coch, gwyrdd a melyn lliwgar sy'n swatio megis gemau annisgwyl yn y glaswellt tuswog.
Man arall y mae'n rhaid ymweld â hi yn ystod yr hydref yw'r Goedfa uchelgeisiol, lle rydym yn tyfu coed a llwyni o bob cwr o'r byd o hadau sy'n cael eu casglu o'r gwyllt – hadau sy'n cael eu plannu ar gyfer y dyfodol ac sy'n tyfu'n gyflym. Yma cewch weld pinwydd Chile, yw De America, pinwydd Himalaia, llwyfenni Japan, a llawer rhagor.
Y Gaeaf
Bydd glaswelltau, cwyros, llwyni bytholwyrdd, cennau a mwsoglau yn gefndir i'ch ymweliad yn y gaeaf, ond cadwch eich llygaid ar agor yn ystod y tymor hwn am jasmin y gaeaf a gwifwrnwydd y gaeaf, a gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys y Tŷ Gwydr Mawr ar eich taith, lle bydd planhigion De Affrica yn dechrau blodeuo o fis Ionawr ymlaen.
Mae'r glawogydd tymhorol yn llenwi'r llynnoedd, gan sicrhau y bydd y sgydau a'r rhaeadr yn atyniadau trawiadol yn nyfnderoedd tawel coetir y gaeaf, ac yn lleoliad perffaith ar gyfer taith gerdded ryfeddol yn ystod y tymor hwn.
Gwybodaeth bellach
Mae'r Ardd Fotaneg yn agored saith niwrnod yr wythnos, 10am-6pm (10am-4pm yn y gaeaf) – ond ar gau Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig.
Mae pob dydd Llun a dydd Gwener yn 'Ddiwrnod i Chi a’r Ci’. Dewch chi â'ch ci i chwilota.
I gael rhagor o wybodaeth am fynediad i'r Ardd, yr hyn sy'n digwydd, a'r Ardd Fotaneg yn gyffredinol ewch i wefan Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru.
Dilynwch am y newyddion diweddaraf: