Stadiwm y sêr
Newidiodd dyfodol y ddinas yn 2020 pan brynodd y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney Glwb Pêl-droed Wrecsam. Wedi’i sefydlu yn 1864, dyma'r clwb hynaf yng Nghymru, ond mae trigolion Wrecsam wedi croesawu a chofleidio’r newid. Mae’r clwb unigryw yn sicr yn agos at galonnau trigolion Wrecsam - ac mae cyfle i'r byd i gyd weld pa mor arbennig ydi'r clwb wrth i Disney+ ddarlledu Welcome to Wrexham.
Eglwys eiconig
Yng nghalon Wrecsam saif Eglwys San Silyn, sef eglwys blwyf y ddinas. Mae’r addoldy rhestredig Gradd I wedi sefyll ar y safle ers y drydedd ganrif ar ddeg o leiaf, ond codwyd y mwyafrif o'r adeilad presennol yn y pymthegfed ganrif. Mae'n cael ei hedmygu am ei phensaernïaeth hyfryd sy’n cynnwys gwydr lliw a bwâu mawreddog. Mae'r tŵr trawiadol yn creu silwét adnabyddus dros y ddinas. Os hoffech ddringo’r tŵr, rhaid archebu’n gyntaf. Mae'r eglwys yn aml yn cael ei enwi'n un o Saith Rhyfeddod Cymru, ac mae'n hawdd gweld pam.
Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gyfarwydd â Phrifysgol Yale yn America, ond oeddech chi’n gwybod y gorwedda bedd ei sefydlydd, Elihu Yale, ym mynwent Eglwys San Silyn?
Am fwy o hanes o ddinas mae arddangosfeydd a chasgliadau Amgueddfeydd Wrecsam yn adrodd straeon cymunedau'r fro. Ar yr un safle mae datblygiad Amgueddfa Bêl-droed Cymru - amgueddfa newydd fydd yn dathlu pêl-droed Cymru ddoe a heddiw, o glybiau llawr gwlad i’r timau cenedlaethol. Mae Caffi’r Cwrt yn gweini prydau ysgafn, coffi a chacennau, ac mae siop yn gwerthu llyfrau, cardiau a mwy wedi'u hysbrydoli gan hanes lleol Wrecsam.
Gardd grand
I barhau gyda thema hanesyddol Wrecsam a'r cysylltiad â Elihu Yale, ewch am dro i un o dai hardd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Neuadd Erddig.
Mae teimlad hudol i Erddig. Wrth grwydro'r adeilad o’r ail ganrif ar bymtheg fe welwch ystafelloedd y teulu Yorke llawn dodrefn crand ochr yn ochr ag ystafelloedd y gweision. Mae'n rhoi cip olwg diddorol i fywyd unigryw gweithwyr a gwŷr mawr Erddig.
Hanner arall apêl Erddig yw'r ardd ogoneddus llawn coed ffrwythau prin, hen waliau hyfryd a llwyth o flodau lliwgar. Am fwy o wybodaeth ac i drefnu eich ymweliad ewch i wefan Erddig.
Ffocws ar gerddoriaeth
Mae FOCUS Wales yn denu miloedd i Wrecsam bob blwyddyn i fwynhau cerddoriaeth fyw. Gŵyl sy'n dathlu talent Cymru law yn llaw ag artistiaid rhyngwladol yw FOCUS Wales, sy'n rhoi platfform i dros 250 o artistiaid. Mae ffocws mawr ar roi llwyfan i artistiaid newydd hefyd, yn ogystal â dangos ffilmiau a chynnal sgyrsiau creadigol yn y maes. Cadwch lygaid ar eu gwefan am docynnau a'r newyddion diweddaraf am gynlluniau'r ŵyl.
Cymuned Pawb
Hwb celfyddydol Wrecsam a gofod cymunedol yw Tŷ Pawb , gyda stondinau marchnad lleol a digwyddiadau amrywiol. Ymysg y stondinau mae Siop Siwan, Candylicious Sweets, House of Retro, Revibed Records ac eraill. Arddangosfeydd celf Tŷ Pawb yw un o'i brif atyniadau - mae'n arddangos gwahanol dalentau a diwylliannau creadigol Wrecsam yn berffaith. Roedd y galeri yn un o bum amgueddfa gorau yng nghystadleuaeth Art Fund Museum of the Year 2022 ac roedd Wrecsam yn rownd derfynol Dinas Diwylliant y DU 2025 - ac mae'n hawdd gweld pam.
Hwyl i'r teulu
Chwilio am weithgareddau hwyl i'r teulu? Mae Tenpin yn ganolfan bowlio deg llawn sbri gyda nifer o gemau a gweithgareddau am brisiau rhesymol. Neu beth am lithro lawr y llithren ddŵr yn Waterworld? Mae'r pwll nofio a chanolfan ffitrwydd wedi'u lleoli yng nghanol y ddinas ac mae yna weithgareddau hamdden i bob oedran yma.
Canolfan wyddoniaeth yng nghanol Wrecsam yw Xplore! Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth. Lle da i’r plant losgi egni a dysgu am wyddoniaeth yr un pryd.
Iechyd da
Mae dewis eang o fwytai a thafarndai annibynnol yn Wrecsam, ond The Fat Boar yw un o’n ffefrynnau i. Mae'n gysurus a chroesawgar ac mae'r fwydlen yn syml ond yn flasus gyda digonedd o ddewis fegan a di-glwten. Maent yn gweini cynnyrch Cymreig a'n cynnig diodydd amrywiol gan gynnwys Wrexham Lager sy'n cael ei fragu 300 llath o'r bwyty! Y lager golau eiconig hwn oedd y cyntaf o’i fath i gael ei fragu ym Mhrydain nol yn 1882, ac roedd yn un o'r cyntaf i gael ei allforio'n fyd-eang. Cafodd ei weini ar y Titanic hyd yn oed!
Mae'r Saith Seren yn lleoliad da am gwrw lleol a digwyddiadau Cymraeg. Dyma Ganolfan Gymraeg Wrecsam - hwb cymunedol sy'n cael ei redeg gan griw o wirfoddolwyr. Mae'r digwyddiadau yn amrywio o noson jamio i nosweithiau cwis - felly mae rhywbeth at ddant pawb yma.
Mae The Lemon Tree yn ddewis arall gwych am bryd o fwyd o safon ac mae'n westy poblogaidd hefyd lle gallwch ymlacio ar ôl diwrnod prysur o grwydro'r ddinas. Mae’r adeilad yn enghraifft o bensaernïaeth Fictoraidd hardd ac mae gan bob ystafell steil soffistigedig, neo-gothig sy'n cynnwys en-suite.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o syniadau ewch i dudalen Facebook twristiaerth Wrecsam a gwefan Dyma Wrecsam. Mae nifer o ddigwyddiadau'r ddinas ar Wrexham Events Guide.