Bythynnod gwyliau hygyrch yng Ngogledd Cymru
Bythynnod Bryn Dowsi, Conwy
Bythynnod Bryn Dowsi, y Gyffin, Conwy LL32 8YF
- Cadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar gais
- Cawodydd hygyrch, cadeiriau breichiau sy’n codi a lledorwedd a chanllawiau bachu
Fferm organig weithredol yn Nyffryn Conwy yw Bryn Dowsi, ychydig dros filltir o dref castell Conwy. Troswyd nifer o adeiladau yn fythynnod hunanarlwyo ar lefel y ddaear. Ysgubor oedd y Bwthyn yn wreiddiol, ond mae bellach yn fyngalo clyd â dwy ystafell wely. Adeilad ecogyfeillgar yw hen adeilad y Beudy, gyda gwres geothermol a thair ystafell wely. Mae gan y ddau gawodydd hygyrch, cadeiriau breichiau codi a lledorwedd a chanllawiau bachu. Mae cadeiriau olwyn ar gael i’w llogi ar gais.



Llety byngalo a fflat hygyrch yng Ngogledd Cymru
Beach Bungalow, Bae Cinmel
Alexandra Court, Southlands Rd, Bae Cinmel, Conwy LL18 5BG
- Llety un llawr sy'n addas i gadeiriau olwyn
- Cawod ystafell wlyb hygyrch
Mae Beach Bungalow ar ffordd bengoll dawel gyda mynediad i draeth tywodlyd hyfryd. Mae ganddo bum ystafell wely en-suite, a phob un ar y llawr gwaelod gyda drysau tân mynediad eang, a chawod ystafell wlyb fawr gyda chyfleusterau i westeion anabl, gan gynnwys cadair comôd yn y gawod (hunan-yrru) a chanllawiau bachu. Mae'r traeth a'r harbwr 200 llath o'r eiddo, ac mae safle bws, tafarndai a bwytai, archfarchnad a swyddfa bost gerllaw.

Manaros, Aberdaron
1 Tŷ Dolfor, Ffordd Capel Deunant, Aberdaron, Pwllheli LL53 8BP
- Bygi pob tir Tramper ar gael am ddim i westeion sy’n brin eu symudedd
- Gwely addasadwy trydan a chadair freichiau sy’n codi a lledorwedd
- Cawod hygyrch gyda chadair gawod hunan-yrru
Byngalo gwyliau pedair seren gyda phedair ystafell wely yw Manaros ger trwyn Pen Llŷn mewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol. Mae'n cynnig dewis o lety hunanarlwyo neu lety gwely a brecwast â gwasanaeth, a gall gwesteion sy'n cael trafferth cerdded fanteisio ar fygi pob tir am ddim am drip i'r pentref neu'r traeth. Mae nodweddion hygyrchedd yn cynnwys gwely addasadwy trydan a chadair gawod hunan-yrru. Ceir rhagor o fanylion yn y Datganiad Hygyrchedd ar wefan Manaros.



Fflat y Gromen, Portmeirion
Pentref Portmeirion, Minffordd, Penrhyndeudraeth, Gwynedd LL48 6ER
- Fflat llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi wedi'i haddasu
Yng nghanol pentref arfordirol Eidalaidd hudolus Portmeirion mae Fflat y Gromen, sef ystafell ddwbl ar y llawr gwaelod gydag ystafell ymolchi wedi'i haddasu a golygfeydd godidog o'r pentref a'r arfordir. Ceir llawer o lethrau a grisiau serth ym Mhortmeirion, felly gall fod yn werth codi map o'r llwybr sy'n addas i gadeiriau olwyn drwy'r pentref.

Gwestai hygyrch yng Ngogledd Cymru
Gwesty Ramada Plaza, Wrecsam
Ellice Way, Wrecsam LL13 7YH
- Pedair ystafell hygyrch gyda chanllawiau bachu drwyddi draw
- Cawodydd cerdded i mewn gyda sinciau a thoiled is
Mae’r ystafelloedd gwely yng ngwesty Ramada Plaza ar y lloriau uchaf a cheir atynt mewn lifft. Maent yn cynnwys pedair ystafell hygyrch ar y llawr cyntaf gyda chordiau argyfwng, canllawiau bachu, cawodydd cerdded i mewn a sinciau a thoiledau is. Mae'r ystafelloedd hygyrch yn cydgysylltu ag ystafell â phâr o welyau, pe bai angen llety ychwanegol.


Estuary Lodge, Talsarnau
Stryd Fawr, Talsarnau, Harlech, Gwynedd LL47 6TA
- Ystafelloedd llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau i ystafell fwyta a chyfleusterau eraill
- Ystafelloedd cawod hygyrch ystafell wlyb
Mae'r holl ystafelloedd yn Estuary Lodge ar y llawr gwaelod gyda lleoedd parcio yn syth y tu allan. Mae gan un ystafell ddrws llydan am fynediad hawdd i gadeiriau olwyn, ac mae cyfleusterau cawod ystafell wlyb yn yr ystafell hon ac un ystafell arall. Mae gan ddwy ystafell arall gawod yn hytrach na chyfleusterau bath. Mae’r ystafell fwyta a chyfleusterau eraill ar y llawr gwaelod gyda mynediad heb risiau.
Gwesty'r Imperial, Llandudno
Vaughan Street, y Promenâd, Llandudno LL30 1AP
- Gwesty cwbl hygyrch gyda lifftiau i bob llawr
- Dewis o ystafelloedd hygyrch gyda chyfleusterau cawod rholio-i-mewn wedi'u haddasu
- Mynediad hygyrch i gyfleusterau pwll nofio ar gael ar gais
Mae gwesty'r Imperial yn meddu ar olygfeydd gwych o'r môr, a'r holl staff wedi'u hyfforddi i fod yn ymwybodol o anabledd. Mae ystafelloedd hygyrch ar gael, gan gynnwys ystafell sy'n wynebu'r môr gyda chyfleusterau cawod rholio i mewn, ac un arall yng nghefn yr adeilad. Mae canllawiau bachu ar gael, ynghyd â matiau cawod gwrthlithro. Mae'r gwesty'n gwbl hygyrch i gadeiriau olwyn, gyda lifftiau i bob llawr. Mae bwytai a bariau ar y llawr gwaelod, a gellir gwneud cyfleusterau'r pwll nofio yn hygyrch drwy drefnu ymlaen llaw.



Gwesty Trefeddian
Aberdyfi, Gwynedd LL35 0SB
- Pob ystafell wely ar un llawr
- Un ystafell gydag ystafell ymolchi wedi'i haddasu gan gynnwys cawod sy'n hygyrch i gadeiriau olwyn, canllawiau bachu a system rybuddio
- Bar, derbynfa, lolfeydd ac ystafell fwyta ar un lefel ar y llawr gwaelod
- Mynediad lifft i bob llawr
- Dolen sain yn y dderbynfa i’r rheini â nam ar y clyw
Mae Gwesty Trefeddian yn agos at bentref glan môr bach tlws Aberdyfi, sy'n ei wneud yn lle delfrydol i archwilio arfordir Bae Ceredigion. Mae'n cynnig amrywiaeth o nodweddion hygyrchedd i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a gwesteion sy’n brin eu symudedd, yn ogystal â’r rheini â nam ar eu golwg a'u clyw.


Parciau carafanau hygyrch yng Ngogledd Cymru
Presthaven Sands, Gronant
Presthaven Beach Resort, Shore Road, Gronant, Prestatyn LL19 9TT
- Carafanau hygyrch wedi'u haddasu gydag ystafelloedd ymolchi wedi'u haddasu
- Croeso i gŵn cymorth
Mae gan barc gwyliau Presthaven Sands leoliad arfordirol gwych, gyda golygfeydd dros y twyni i Fôr Iwerddon. Mae carafanau eang, hygyrch ar gael gyda mynediad ramp, ystafelloedd cawod/toiled wedi'u haddasu a drysau llithro mewnol. Mae dolen lifft trapîs ar gael ar gais. Gall cynghorwyr anghenion arbennig Haven eich cynghori ynghylch pa rai o'u carafannau wedi'u haddasu fydd yn gweddu orau i chi. Croeso i gŵn cymorth cofrestredig.
Parc Carafanau Garreg Goch, Porthmadog
Morfa Bychan, Porthmadog, Gwynedd LL49 9YD
- Un garafán sefydlog wedi'i haddasu
- Toiled ac ystafell gawod sy'n addas i'r anabl.
Mae Garreg Goch yn agos at draeth hyfryd Morfa Bychan neu Traeth y Graig Ddu. Mae un garafán sefydlog wedi'i gwneud yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn, gyda lleoliad canolog a mynediad ramp. Mae gan y parc hefyd doiled ac ystafell gawod i westeion anabl. Heb fod yn bell i ffwrdd mewn car, mae pentref arfordirol hardd Cricieth, harbwr a thref Porthmadog a phentref mynydd Beddgelert.

Dolenni defnyddiol
Piws: Gwefan ddefnyddiol iawn i gael gwybod am leoedd hygyrch i ymweld â nhw, bwyta allan neu fynd i siopa yng Ngogledd Cymru.
Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU
Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o'r Cynllun Allwedd Cenedlaethol/RADAR
Tourism For All: Gwybodaeth i deithwyr anabl ar y trenau sy'n teithio i Gymru
Gallwch bob amser chwilio ein gwefan i ddod o hyd i lety, gweithgareddau, atyniadau a digwyddiadau hygyrch yng Nghymru.