Mae traethau tywodlyd Sir Benfro yn ddelfrydol ar gyfer rhedeg drostynt – ar bedair coes neu ddwy.
Dwi’n ffyddiog fod rhywbeth yn newid ym meddwl ci pan fydd yn dod i gyffwrdd â thywod meddal traeth hir. Bydd fy nghi i, Arty, yn clywed ac arogli’r traeth cyn iddo’i weld, a bydd ei gorff yn newid bron ar unwaith – mae’n dechrau tynnu ar y tennyn, fel pe’n cael ei dynnu i’r lan gan ryw seiren anweledig, tu hwnt i fy nghlyw i.
Pan fyddwn ni yno, â’r tywod rhwng ein bodiau a’n pawennau, ac mae e’n cael rhyddid o’r diwedd rhag cyfyngder y tennyn, bydd yn rhedeg – ond nid ei rediad arferol. Bydd e’n carlamu fel ceffyl rasio. Mae’n gryn olygfa i’w gwylio, ac os ydych chi’n berchen ar gi, fe fyddwch chi’n deall y cyfuniad unigryw hwnnw o ryfeddod a llawenydd gewch chi o brofi’r fath lesmair ar waith. Dyna pam yr oeddwn i’n caru arfordir Sir Benfro.
Cawsom ein blas cyntaf ar Ddinbych-y-pysgod, ble mae tywod euraid yn ymestyn yn braf ar hyd arfordir deheuol y dref. Uwchlaw, ar y clogwyn mae rhes o dai deniadol – y cyfeiriadau crandiaf yn y dref, sbo – a gyda golygfeydd allan dros Ynys Bŷr, dyma’r math o dref ble gallech dreulio oriau ynddi.
Byr fu ein hymweliad – dim ond hoe fach i ymestyn ein coesau ar ein taith drwy Barc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro – ond dyma ble daeth Arty o hyd i’w goesau ar lannau Cymru, tra ’mod i’n ailegnïo gyda 99 o’r fan hufen iâ.
Tasen ni wedi aros ychydig mwy, gallem fod wedi mynd ar y cwch allan i Ynys Bŷr i ymweld â’r abaty hanesyddol, neu roi cynnig ar ystwythder – i gŵn a phobl – yn Heatherton World of Activities. Ond roedd tywod Freshwater East yn galw, felly ymlaen â ni.
Mae Freshwater East yn ddarn tywodlyd gwych tua 900 metr o hyd â chlogwyni i’r ddwy ochr ac ogofeydd creigiog ar hyd ei ymylon. Dyw’r traeth ddim mor adnabyddus â thraethau diguro Bae Barafundle neu Broad Haven. Ond i gŵn, mae fel breuddwyd. Yn enwedig ben bore.
Yn yr un modd ag y byddwn ni bobl yn ymgasglu mewn tafarndai ar ôl gwaith, bydd cŵn yn ymgasglu yn Freshwater East cyn iddi wawrio. Bydd peli’n hedfan ar hyd glan y dŵr, labradors yn bownsio drwy’r tonnau a phob math o sniffian a chyfarth o ganlyniad. Does fawr y gall perchnogion ei wneud wrth i’r cŵn gael eu dos o gymdeithasu boreol.
Y peth gwych am Sir Benfro yw’r nifer o draethau sy’n croesawu cŵn. O byllau creigiau Maenorbŷr i dwyni tywod Freshwater West, fyddwch chi byth ymhellach na rhai milltiroedd o’r bae neu gildraeth agosaf sy’n falch o weld cŵn. Ond mae digon i’w wneud heblaw traethau hefyd. Ym Maenorbŷr buom ni’n crwydro muriau hynafol y castell Normanaidd, yn dringo’r grisiau i gael golygfa o’r môr o Dŵr y Neuadd. Ym Mhenfro, buom ni’n archwilio cadarnle canoloesol y dref cyn picio i ddeli Wisebuys i gasglu ffrwythau, llysiau a chwrw lleol – a phice mân.
Ond ar y môr y digwyddodd ein hantur bennaf. Y tu hwnt i ben pellaf Sir Benfro ar ben deheuol Bae Sain Ffraid, mae encil o ynys: Sgomer. Ychydig yn brin o 3 km sgwâr (1.8 milltir sgwâr) mae’r ynys fechan hon yn cynnwys bywyd gwyllt i ryfeddu mewn ardal mor gyfyng, heb sôn am y miloedd o flodau gwyllt godidog a welir yn y gwanwyn a’r haf, yn glychau glas a’r blodyn neidr.
Ond y gwir uchafbwynt yw’r adar sy’n byw yma. Mae’r ynys bellennig hon yn denu rhyw chwe mil o balod rhwng Ebrill ac Awst, sy’n dod yma i baru, dodwy wyau mewn tyllau cwningod yn y ddaear, a magu’u rhai bach cyn troi am y de unwaith eto. Efallai nad yw’n swnio fel lle delfrydol i fynd â chi – ond o’r dŵr y cewch chi’r olygfa orau o fawredd y coloni.
Wrth gyflymu allan o Orsaf Bad Achub Llanstinan, ar gyrion dinas leiaf y DU, Tyddewi, gwelsom lamhidyddion yn nhonnau’r cefnfor cyn cyrraedd Sgomer. “Mae hyn yn brin” esboniodd ein tywysydd o Voyages of Discovery wrth i aderyn drycin Manaw dorri drwy’r awyr uwch trwyn ein RIB. “Maen nhw mas dros y môr drwy’r dydd fel arfer, felly mae gweld un mor agos â hyn i’r tir cyn iddi nosi’n rhyfeddod".
Fe arafon ni nes dod i stop ar waelod clogwyn dramatig ar Ynys Sgomer, ac o’n cwmpas ymhobman roedd yr adar pig oren yr oedd pawb ohonom wedi dod i’w gweld. O’r clogwyni i wyneb y dŵr i’r awyr uwch ein pennau, roedd palod ymhobman.
O gwmpas ochr arall yr ynys ble roedd ambell graig agored yn berffaith ar gyfer lolian, roedd casgliad bach o forloi llwyd yn mwynhau yn y tonnau. Cododd rhai’u pennau wrth glywed sŵn injan y cwch yn dynesu a llithrodd ambell un bach i’r dŵr i ddod i roi llygad dros ein bad. “Dyma gŵn y cefnfor,” meddai ein tywysydd. “Maen nhw’n deillio o’r un teulu.” Edrychais ar Arty – y dŵr-garwr lleiaf o blith holl greaduriaid Duw, a oedd erbyn hyn wedi’i lapio mewn blanced rhag y dafnau lleiaf o heli – a meddwl rhaid bod miliynau o flynyddoedd o esblygiad rhyngddo fe a’r creaduriaid blonegog del ar y creigiau.