Pan ofynnwyd i mi sgrifennu am fwytai Michelin Cymru, ges i fy nhemtio i weiddi ‘jacpot!’. Oherwydd er bod gan Gymru fwytai ardderchog i siwtio pob poced, dyma gasgliad o gyrchfannau godidog. Buddsoddiad o brofiad yn amlach na pheidio, yw ymweliad â bwyty ‘serennog’. Megis gwyliau dros-dro neu docyn tymor pêl-droed, cynigir gwefr y tu hwnt i’r arferol. Dewisa rai ymweld â’r bwytai serennog hyn yn gyson, yna eraill unwaith y flwyddyn. Ond i ambell un mae profi bwyty ‘Michelin’ yn uchafbwynt ‘unwaith mewn bywyd’. Beth ddweda i’n sicr yn sgil fy ngwibdaith ddiweddar, yw bod y bwytai ardderchog hyn yn haeddu pob clod, a phob un yn taenu’i hud unigryw.

The Walnut Tree

Ar gyrion y Fenni, yn Llanddewi Ysgyryd, mae bwyty ardderchog The Walnut Tree sy’n hawlio seren ers 2010. Mae yno wastad groeso cynnes, décor syml hynod chwaethus, a chynnyrch lleol a thymhorol, y gorau o Sir Fynwy, ar fwydlen ddyddiol y cogydd Shaun Hill. Dros yr hydref a’r gaeaf, mae’r pwyslais ar gynnig ‘bwyd cysur’; seigiau helgig cyfoethog a bara godidog, a phwdinau gludiog fel tarten afal a Calvados. Llecyn braf a hamddenol sydd â bwydlen resymol mewn pris os am brofiad Michelin ganol dydd (£40-£45).

Tu mewn i fwyty gyda thân mawr yn ganolbwynt.
Tu allan i fwyty wedi'i beintio mewn lliw hufen. Mae arwydd 'Walnut Tree' ar yr adeilad.

The Walnut Tree, Llanddewi Ysgyryd

Chapters

Os ddilynwch chi’r afon Gwy nes y cyrhaeddwch chi’r Gelli Gandryll, gewch chi swper serennog ym mwyty Chapters. Dyma fusnes a sefydlwyd toc cyn y pandemig a gipiodd seren werdd gan feirniaid Michelin eleni, am ‘gyfrifoldeb cymdeithasol a chynaladwyedd’. Mae ethos y bwyty bychan yn hynod syml; ceir yno wledd o gynhwysion o safon gan gynhyrchwyr lleol. Yn eu plith, jin cartref o’r enw Penodau, ynghyd â’r cig, llysiau a ffrwythau gorau yn eu tymor. Bwydlen flasu sydd ar gynnig (£52) gyda’r hwyr yn unig – esgus perffaith i aros dros nos yn nhre’r llyfrbryfaid!

Pentwr bach o salad ar drizzle o saws.
Darlun o afon wedi'i hamgylchynu gan wahanol fathau o blanhigion.
Caws gyda chracyrs tenau a saws.

Chapters, Y Gelli Gandryll

Home

Am brofiad mwy dinesig, neu am ddathliad go arbennig, trowch am ‘adre’ – bwyty Home ym Mhenarth. Ceir elfen o gyfrinachedd sy’n fy rhwystro rhag datgelu gormod, gan gynnwys y ffaith na chewch chi fwydlen ffurfiol – er, croeso i chi ddweud os oes ganddoch anghenion bwyta. Digon yw dweud fod yr elfen ‘annisgwyl’ yn rhan o’r pleser, wrth i Chef James Sommerin a’i ferch Georgia, sydd hefyd yn gogydd, eich atgoffa mai’r blasau sy’n bwysig. Ymhlith y seigiau ffantastig a brofais ym mis Hydref; pwdin bara menyn gyda madarch a chloron, draenog y môr gyda moron a sinsir - a’r risotto pys cysurlon, adnabyddus. Os yw’r elfen o ddrama yn tanio’ch chwilfrydedd, ewch am brofiad bwyd theatrig ym Mro Morgannwg. (£60-£110)

Dau blisgyn wy wedi'u llenwi â saws, mewn powlen wedi'i llenwi â gwellt.
Bwydlen wedi'i gorchuddio â lledr brown golau gyda dyluniad cylchoedd ar y blaen.
Pwdin siocled o ddau ddisg ar blât gwyn, ar fwrdd bwyty.

Home by James Sommerin, Penarth

Beach House

Ymhellach i’r gorllewin ar hyd yr arfordir mae na drysor yn eich disgwyl ar Benrhyn Gŵyr, yn Oxwich. Mae’n anodd curo Beach House am leoliad ac awyrgylch, heb sôn am safon eithriadol y bwyd ardderchog. Mae’r cogydd Hywel Griffiths yn ymfalchio yn ei Gymreictod, ac mae’r cynhwysion gorau o Gymru a Gŵyr ar bob bwydlen ddwyieithog. Ei gyngor i bawb ar eu hymweliad â’r Beach House yw ‘ewch am y fwydlen flasu’ (£80-£110). Rhwng y bara lawr a’r soufflé bara brith, gewch chi brofi pleserau di-ri. Ar fy ymweliad diweddar innau, ges i gimwch o fae Oxwich, cig oen o gastell Weble, a chawl pwmpen fferm Paviland, i gyd yn hyfryd o hydrefol. Mae’r siwrne i gyrraedd y tŷ a'r traeth yn wir yn werth bob tamaid.

Rholyn bar mewn bocs, gyda phot bach o gawl a phot o fenyn ar yr ochr.
Bwyty pren ar draeth gyda theras allanol.

Beach House, Oxwich, Penrhyn Gŵyr

Ynyshir

Yn 2022, am y tro cyntaf mewn hanes dyfarnwyd dwy seren i fwyty o Gymru – canolfan o arloesi, cynhyrfu a rhyfeddu. Ble arall ond Ynyshir? Ydy, mae pris y fwydlen (£350) yn goblyn o ddrud ac mae’r wledd yn 30 cwrs o hyd. Ond daw gwesteion a chogyddion i Ogledd Ceredigion ar bererindod o bedwar ban byd. O ran ansawdd, ceir yno’r agwedd ‘nid da lle gellir gwell’, gan gyfuno cynnyrch glannau Dyfi â blasau dwys y Dwyrain Pell. Felly ar y cyd â physgod a chig oen o Geredigion ceir cig eidion Wagyu A5 a ‘Bluefin Tuna’ Siapan. Siaradais â’m cyd-westeion oedd yn syfrdan wedi’r wledd; erioed wedi bod i Gymru o’r blaen, roedden nhw’n wên o glust i glust. Ewch yno â meddwl agored – ceir pelen ddisgo sgleiniog uwchben! Disgwyliwch yr annisgwyl, wir, yn neuadd Ynyshir.

Cogydd yn coginio gyda gwreichion lluosog o dân
exterior of restaurant with rooms.
beautiful presented food on table.

Ynys Hir, Eglwys Fach

Palé Hall

O flasau’r dyfodol i gysur traddodiadol! Neuadd arall yng nghanolbarth Cymru a blesiodd beirniaid Michelin eleni oedd Palé Hall, Llandderfel, a gipiodd seren werdd. Mae myned yr henblas fel cymryd gwibdaith ’nôl mewn hanes. Ond does dim byd hen-ffasiwn am fwydlen flasu bwyty Henry Robertson (£80-100), dan arweiniad y cogydd Gareth Stevenson. Sôn am wledd o flasau tymhorol, o ardd gefn Palé, a’r ffermydd lleol. Ond yn fwy na dim ceir synnwyr o gyffro – mae’r seigiau i gyd yn gwbl ragorol. Afal a chregyn bylchog; lwyn porc T J Roberts ardderchog, parfait eirin ac almwn, espuma mwyar duon... i enwi dim ond pedwar! A rhaid archebu’r cwrs caws, cracyrs a’r bara brith; fe’u cyflwynir ar ffurf tirlun o fryniau’r Berwyn. Cwbl wych.

Plasty gwledig wedi'i adeiladu o gerrig hufen a gwair a choeden o'i flaen.
Coctel gin ar fwrdd, o flaen tân yn llawn canhwyllau mawr.
Ystafell fwyta addurnedig, gwyrdd golau wedi'i phaentio gyda ffenestr fawr.

Palé Hall, Llandderfel

Sosban and the Old Butchers

Dros bont Menai, ar groesffordd Porthaethwy ceir ffatri syniadau Sosban a’r Hen Gigydd. Wir, mae dychymyg y cogydd arobryn Stephen Stevens yn ddiderfyn. A serch y gofod bychan, mae’r cogydd yn perfformio i’w gynulleidfa, wrth dywallt a gratio a pherffeithio’i greadigaethau o’i lwyfan yn yr ystafell fwyta. Profiad hypnotig yw ei wylio wrth ei waith, ac wrth ein herio i ddyfalu cynhwysion ambell saig. Ceir pwyslais ar flasau o Gymru ar ei fwydlen flasu (£175), fel caws Hafod a gwin pefriog Ancre Hill. Ond wrth weini ambell saig fel cwstard cregyn gleision gyda choffi a chynffon oen, mae'r cogydd yn amlwg yn ei elfen wrth ddyrchafu blasau Ynys Môn.

Pelen o sorbet ar ben llysiau.
Cogydd yn paratoi bwyd mewn cegin y tu mewn i fwyty.
Plât gyda physgodyn mewn briwsion bara.

Sosban and the Old Butchers, Porthaethwy 

Straeon cysylltiedig