Mae’r ‘dafarn leol’ wedi wynebu cryn fygythiadau dros y blynyddoedd diwethaf. Yn go aml, mae hi wedi diflannu’n llwyr o’r map.

Eto i gyd, mewn sawl rhan o Gymru, nid yn unig y mae’r dafarn leol yn ffynnu. Mae ambell un sy’n mynd â’r gair ‘lleol’ hwnnw gam ymhellach.

Llefydd ydi’r rhain y mae’r gymuned ei hun yn berchen arnyn nhw; tafarndai sy’n llawer mwy na dim ond bar rhwng pedair wal. Mae nhw’n cael eu cynnal gan y bobl, er mwyn y bobl. Ac mae nhw’n rhoi curiad calon i’w cymdeithas.

Dyma ddetholiad o’u plith – er bod y rhestr yn prysur dyfu!

Tafarn y Fic, Llithfaen

Dewch am dro i Lithfaen yr wythdegau. O’ch cwmpas, mae hen bentref chwarel sydd wedi gweld dyddiau gwell. Hanner ffordd i lawr y stryd, dyna dafarn y Victoria Hotel. Ond fydd hi ddim yno am yn hir; yn nhyb y bragdy sy’n ei rhedeg, does dim dyfodol i unrhyw dŷ potes yn y darn hwn o gefn gwlad Llŷn.

Yn ffodus, roedd gan drigolion y cylch farn wahanol. Prynodd y pentrefwyr yr adeilad i gadw’r lle ar agor, ac mae’n anodd gorbwysleisio arwyddocâd hynny. Dyma’r fenter gydweithredol hynaf yn Ewrop gyfan sy’n rhedeg tafarn. Ryw ddegawd wedyn, rhoddwyd cynllun ar waith i adnewyddu ac ymestyn y dafarn yn helaeth er mwyn iddi allu gwasanaethu’r gymuned yn well. Fis Tachwedd 2004, ail-agorodd y Fic ar ei newydd wedd, dair gwaith yn fwy na’i maint gwreiddiol, gydag ystafell gymunedol yn rhan o’r dyluniad.

Yn ogystal â’r nosweithiau adloniant cyson, y cwis enwog, yr ŵyl ddiwedd haf, a phrydau bwyd y Daflod, mae’r toreth o lwybrau cerdded cyfagos yn atyniadau heb eu hail. Ewch am dro i Nant Gwrtheyrn neu Dre’r Ceiri, neu crwydrwch Lwybr Arfordir Llŷn, Llwybr Eglwys Carnguwch a llwybr yr Eifl. Mae hanes ym mhobman o’ch cwmpas, ac arloeswyr cymunedol Tafarn y Fic yn rhan fawr o hwnnw.

Tu allan i dafarn gerrig hynafol y Fic, Llithfaen.
Arwydd Tafarn y Fic. Mae'r arwydd yn ddu, yr ysgrifen yn wyn ac mae cwlwm Celtaidd coch a gwyn yn y canol.

Tafarn y Fic, Llithfaen

Yr Heliwr, Nefyn

Ers canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd Yr Heliwr – neu’r ‘Sportsman Arms’ – wedi sefyll yn dalog yng nghanol Nefyn. Wrth i’r llongau a’r cychod pysgota fynd a dod, roedd y gwesty’n fwrlwm, ac felly hefyd balmentydd y dref. Trowch y cloc i 2009, ac mae’n stori dra gwahanol. Y stryd fawr yn dirywio’n gyflym a’r Heliwr, fel y canodd Anweledig, ‘wedi cau’.

Ond yn 2018, daeth tro arall ar fyd. Yn dilyn cyfarfod cyhoeddus, ffurfiwyd cymdeithas er budd cymunedol a aeth ati i hel cyfranddaliadau. Llwyddwyd i brynu’r adeilad. Ac wedi gwaith adeiladu helaeth, ailagorodd Yr Heliwr ym mis Gorffennaf 2021, a’r sglein yn ôl ar y cerrig gwyn. Mae yma bellach dafarn a gwesty sy’n ceisio rhoi gwerth cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd i’r fro, gan hybu’r Gymraeg ar yr un pryd.

Poblogaidd tu hwnt ydi’r bwyd cartre a’r ‘pop-ups’ achlysurol, ac felly hefyd yr arlwy o bympiau Cwrw Llŷn, sy’n cael ei fragu i lawr y lôn. Ond yr un mor bwysig ydi’r gweithgareddau sy’n cefnogi achosion lleol – yn nosweithiau i ddysgwyr, yn foreau coffi, yn weithdai celf, yn gaffi digidol, ac yn ardd gymunedol. Mae hyn cyn sôn am y llu o ddigwyddiadau diwylliannol sy’n cael eu cynnal gydol y flwyddyn. Mae pawb wedi ‘mynd i’w gwlâu’ meddai Anweledig. Diolch i’r drefn, maen nhw’n gallu gwneud hynny bellach gan wybod y bydd Yr Heliwr ar agor yfory eto.

Y Pengwern, Llan Ffestiniog

Lle sy’n drwm o hanes ydi tafarn Y Pengwern ym mhentref Llan Ffestiniog. Mae’n sefyll ar un o hen lwybrau’r porthmyn, ac yn y ddeunawfed ganrif, roedd yn fan i gael hoe cyn y daith hir dros y Migneint. Nid cwrw’n unig oedd ar gael yr adeg honno, ond gwasanaeth gof hefyd: roedd angen pedolau cadarn ar y gwartheg cyn y siwrnai arw o’u blaenau. Yn 1862, tarodd George Borrow heibio i’r dafarn ar ei daith drwy’r Gymru wyllt. Mae’n wir iddo ysgrifennu am y meddwdod a welodd, ond fe soniodd am atyniad y lle hefyd.

Mae’r atyniad hwnnw’n para hyd heddiw – ar newydd wedd. Fe gaeodd y dafarn ei drysau yn 2009 ond roedd gan drigolion yr ardal syniad arall. Bwriwyd ati i sefydlu menter gymunedol, ac er bod y lle’n mynd a’i ben iddo, ymlafniodd gwirfoddolwyr i gael y busnes yn ôl ar ei draed. Yng ngwanwyn 2011, agorodd y dafarn drachefn fel adnodd economaidd, cymdeithasol, addysgol a diwylliannol i'r pentref. Mae’n cynnig bwyd; mae yno lofftydd i aros; ac mae’n denu pobl o bob cwr – yn union fel y gwnâi hi ddau gan mlynedd a mwy yn ôl.

Nosweithiau bwydydd tramor; cwisus; partïon coctel; oriau hapus; diwrnodau garddio – dyma ychydig yn unig o arlwy’r tŷ potes hwn sy’n un gonglfeini’r fro. Ar ôl profi croeso’r Pengwern, ewch am dro i weld rhyfeddod Rhaeadr Cynfal, neu nepell o Lyn Trawsfynydd, hen gaer Rufeinig Tomen y Mur.

 

Yr Hydd Gwyn, Llandudoch

Digwyddodd sawl peth difyr yn 1769. Dyma’r tro olaf i Mozart ymweld â’r Eidal. Cyrhaeddodd James Cook Tahiti ar HMS Endeavour. Cafodd James Watt ei batent cyntaf i’r injan stêm a fyddai’n cychwyn y chwyldro diwydiannol. Yn yr un flwyddyn, dechreuodd yr Hydd Gwyn yn Llandudoch fasnachu.

Erbyn mis Mai 2019, roedd y muriau wedi bod yn dyst i ddau gant a hanner o flynyddoedd o letygarwch. Ond roedd y drws ffrynt ar fin cau am byth. I wneud sefyllfa ddrwg yn waeth, dyma’r unig dafarn draddodiadol a oedd ar ôl yn y pentref glan-môr ar gyrion Aberteifi.

Yn lle derbyn y dynged, fe dorchodd y gymuned ei llewys. Ddwy flynedd yn ddiweddarach, ar ôl cyfnod dygn o ymgyrchu a chodi arian, roedd y dafarn yn ei dwylo hi. Er cael cyfraniadau hael yn lleol, a chymorth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Sir Penfro, cyrhaeddodd rhoddion hefyd o weddill Cymru, Lloegr, Awstralia, Seland Newydd, yr Unol Daleithiau a Chanada.

Mae’r weledigaeth ar gyfer y dyfodol yn syml: creu canolfan gymunedol i’r holl bentref a lle cwrdd i deuluoedd, cymdogion ac ymwelwyr. Mae yma gwrw da a bwyd lleol, rhesymol, a’r cyfan yn ceisio hybu’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig. Ymlaen i’r chwarter mileniwm nesaf!

 

Tafarn Sinc, Rosebush

Yn 2017, roedd muriau coch eiconig Tafarn Sinc yn wynebu dyfodol digalon, a’r stori’n un rhy gyfarwydd. Dyma dafarn Gymreig, wledig, yn berwi o hanes, ond neb ag awydd ei phrynu. Newidiodd hynny pan ddaeth criw lleol ynghyd ym Maenclochog i drefnu ymgyrch godi arian. Rhoddodd selébs drwy Gymru benbaladr hwb i’r ymgyrch, a Rhys Ifans, un o sêr Hollywood, yn eu plith. Roedd y targed wedi’i gyrraedd mewn cwta bedwar mis, a’r cyfraniadau wedi glanio o’r pedwar ban. Mae’r dafarn bellach yn nwylo elusen sy’n ei rhedeg er budd y gymuned.

Mae cyrraedd Tafarn Sinc ynddo’i hun yn brofiad. A hithau’n sefyll yng nghanol mynyddoedd y Preseli, hon ydi’r dafarn uchaf yn Sir Benfro gyfan. Mae hynny’n galw am siwrnai ar hyd heolydd cul a throellog sy’n rhoi golygfeydd godidog o’r fro. Ac ym mhen draw’r daith, mae mwy o ryfeddodau fyth. Rhwng yr hen offer amaethyddol a’r llwch lli ar lawr, dyma dafarn sy’n atgof byw o oes a fu.

Heddiw, mae’r pwyslais ar y naws Gymreig, ar gynnyrch lleol, ac ar gefnogi’r gymdeithas gyfagos. Mae rhywun yn teimlo y byddai rhai o arwyr Merched Beca, yn eu hysbryd cymunedol mwyaf tanbaid, wedi bod wrth eu boddau yma.

Tu allan i dafarn wedi'i adeiladu o sinc coch
Arwydd bar ar ddrws tafarn wedi'i greu o sinc coch
Arwydd croeso ar lamp tu allan i dafarn wedi'i chreu o sinc coch.

Tafarn Sinc, Rosebush

Yr Eagles, Llanuwchllyn

 

‘Eicon cenedlaethol’ ac ‘un o dafarndai mwyaf adnabyddus Cymru’ meddai gwefan Yr Eagles yn falch. Ac yn falchach fyth, i ddilyn hynny, ceir cyhoeddiad bod y gymuned wedi dod ynghyd i sicrhau bod drysau honno’n parhau’n llydan agored.

Roedd yma far, bwyty a siop eisoes, a’r rheini’n gwasanaethu pawb yn y gymdogaeth, o’r cylch meithrin i’r henoed. Ond wrth i’r cyn-berchnogion chwilio am werthwyr, fe welodd y gymuned ei chyfle. Drwy gael gafael yn yr awenau, byddai modd sicrhau bod y dafarn yn parhau’n rym er gwell yn y pentref a’r fro am sbel go lew eto.

Nid bod y broses wedi bod yn hawdd. Bu’n rhaid cynnal ymgyrch anhygoel a lwyddodd i godi £450,000 i brynu’r adeilad. Hyd yn oed ym myd tafarndai cymunedol Cymru, dyna ffigwr i godi aeliau. Fis Rhagfyr 2023, cynhaliwyd noson agoriadol y dafarn yn nwylo’r trigolion lleol.

Ar ôl mwynhau’r arlwy cartrefol yn un o bentrefi Cymreiciaf Cymru, ewch am dro i Lyn Tegid gerllaw, neu gamu ar y trên bach i’r Bala os am fwynhau’r golygfeydd mewn steil.

Y Plu, Llanystumdwy

Mae sawl peth i ddenu rhywun i Lanystumdwy. Y troeon cerdded braf ar hyd lan afon Dwyfor i gychwyn, a’r Lôn Goed enwog fan draw. Yn y pentref hwn y treuliodd Jan Morris, yr awdur o fri, ei degawdau olaf. Ac yn bennaf oll, fan hyn hefyd y mae bedd David Lloyd George, yr unig wleidydd o Gymro a fu’n Brif Weinidog Prydain. Tŷ Newydd, ei hen gartre, ydi Canolfan Ysgrifennu Genedlaethol Cymru erbyn hyn. Mae Amgueddfa Lloyd George hefyd yn atyniad amlwg.

Ond lle tlotach o lawer fyddai Llanystumdwy heb Y Plu, ei unig dafarn. Yn 2018, roedd pethau’n edrych yn go ddu. Ar ôl torri syched ei chwsmeriaid am ddau gan mlynedd, roedd y drysau dan glo a chymuned arall yn wynebu cnoc i’w diwylliant. Ond diolch i fentergarwch criw bach lleol, llwyddwyd i gasglu £200,000 mewn cyfranddaliadau, a hynny’n ddigon i gael gafael ar oriadau’r hen ‘Feathers Inn’ gynt.

Ar ei ennill heddiw y mae pawb sy’n gwirioni ar gwrw da, ond hefyd sawl grŵp lleol – clwb y te p’nawn i’r henoed, y tîm darts, y clwb technoleg gwybodaeth, y clwb garddio, y clwb darllen, a grŵp y siaradwyr Cymraeg newydd yn eu plith. Ar ôl ymgyrch arall i godi arian, mae’r fenter wedi prynu’r ‘Capel Bach’ cyfagos i gynnig llety, ac wedi gweddnewid yr ardd i greu lleoliad cerddoriaeth fyw. Fel y gweddill ar y rhestr, tafarn sy’n llawer mwy na thafarn ydi hon.

Tu fewn i dafarn mewn cwt pren gyda meinciau pren a goleuadau.
Seating on a patio outside a pub.

Tafarn y Plu, Llanystumdwy

Tafarn Dyffryn Aeron, Felinfach

Dyma un o dafarndai cymunedol newyddaf Cymru, a agorodd fel menter leol yn 2022. Roedd hynny’n dilyn ymgyrch lwyddiannus a arweiniodd at godi £380,000 mewn siariau. Ond mae twyll yn y gair ‘newyddaf’ hefyd. Bu hon yn dafarn ‘gymunedol’ ei naws ers tro byd, ac yn gartref answyddogol i nifer o glybiau a mudiadau lleol, gan gynnwys y Clwb Pêl-droed, y Clwb Ffermwyr Ifanc a Chwmni Theatr Troedyrhiw. Yr hyn sy’n wahanol, bellach, ydy mai yn nwylo’r gymdeithas ei hun y mae’r awenau a’r dyfodol.

Gyda chynifer o dafarndai eraill Dyffryn Aeron wedi cau, mae gwerth diwylliannol a chymunedol hynny’n ddifesur. Mae’n golygu bod modd cynnal yr ysbryd Cymreig a fu’n gymaint rhan o gefndir y dafarn dros y blynyddoedd. Heddiw, mi fedrwch gerdded i mewn i noson lawen neu Steddfod ddwl, i gig gwerin neu noson peint a chlonc i ddysgwyr. Mae yma ‘pop-yps’ bwyd o dro i dro. A dyma’r lle perffaith am lymaid cyn (ac ar ôl) perfformiad yn Theatr Felinfach gerllaw.

Teipiwch enw’r dafarn i beiriant chwilio, ac mae’r canlyniadau’n siŵr o’ch hysbysu bod y ‘Vale of Aeron’ yn un o hoff dai potes Dylan Thomas ’slawer dydd. Cerdded yma dros y caeau o’i gartref yn Nhal-sarn a wnâi’r bardd. Mae llwybrau cadarnach ar gael i chi. Yn bennaf yn eu plith, mae’r troeon cerdded a seiclo braf sy’n cysylltu Felinfach, Aberaeron ac Ystâd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Llanerchaeron.

Yn sbeshal i chi y penwythnos ma // This weekend's specials ⭕ Cwrw Teifi ar tap 🌊 IPA Porth Neigwl Cwrw Llŷn 🐲 Seidr...

Posted by Tafarn y Vale on Thursday, May 19, 2022

Y Salusbury Arms, Tremeirchion

Mae enw’r Salusbury Arms yn Nhremeirchion, Sir Ddinbych, yn drymlwythog o hanes. Bu teulu Salusbury yn uchelwyr amlwg yn y rhan hon o Glwyd ers dechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg. Roedden nhw’n unigolion blaenllaw yng nghyfundrefn y Tuduriaid, ond efallai mai’r mwyaf drwgenwog yn eu plith oedd Thomas Salusbury, a ddienyddiwyd am gynllwynio i ddiorseddu’r Frenhines Elisabeth I yn 1586.  

At hynny, y dafarn hon fu canolbwynt y fro ers degawdau. Ac ers tro, hi oedd y dafarn olaf yn y pentref. Ond roedd y cyfan yn y fantol yn 2021 wrth i’r perchnogion chwilio am brynwyr. Camodd cymuned Tremeirchion i’r adwy. Er bod grant ar gael gan Lywodraeth Prydain i helpu, llwyddwyd i godi bron i ddau gan mil o bunnoedd mewn cyfraniadau cyfatebol. Erbyn haf 2023, roedd y dafarn yn nwylo’r gymuned a’r nod wedi’i gyrraedd mewn steil.

Fel cynifer o fentrau tebyg, mae’n fwriad bellach gwneud mwy na chynnal tŷ potes yn unig. Mae cynlluniau uchelgeisiol ar y gweill i agor caffi cymunedol a siop, ac yn y pen draw i ddarparu gwasanaethau bancio, post a chyngor ar bopeth.

 

Y Saith Seren, Wrecsam

Mae arwyddair y Saith Seren yn dweud popeth y mae angen i rywun ei wybod amdani: ‘Canolfan Gymraeg a Chymreig’. Rhoi canolbwynt i adloniant byw, cynnal gwersi Cymraeg i ddysgwyr, a rhoi cyfle i bobl hamddena mewn awyrgylch Cymreig yng nghanol tref Wrecsam: dyna holl hanfod y lle.

Codwyd yr adeilad rhestredig Gradd II ar drothwy’r ugeinfed ganrif ym mrics coch trawiadol Rhiwabon. Theatr gerdd oedd yma’n wreiddiol, ac o’r stryd, mae’r arddull celf a chrefft, y murlun ar y talcen, a’r tŵr bach ar y gornel yn rhoi naws eiconig i’r lle. Ers 2021, eiconig hefyd ydy’r arwydd newydd y tu allan, sef darlun Owain Fôn Williams o dîm pêl-droed Cymru yn Ewros 2016.

Un o’r cwmnïau tafarndai cadwyn oedd yn berchen ar y ‘Seven Stars’ tan 2012. Yr haf blaenorol, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol wedi’i chynnal yn Wrecsam, a dyna oedd y sbardun i geisio sicrhau gwaddol parhaus i’r brifwyl yn y dref. Saith Seren ydi’r gwaddol hwnnw, diolch i ymroddiad menter gydweithredol a lwyddodd i gael eu dwylo ar yr awenau. Mae yma adloniant Cymraeg cyson, nosweithiau barddoniaeth, cwisus, sesiynau jamio, clwb clebran i ddysgwyr, a chwrw o fragdai lleol ar y tap. Ond mae yma hefyd un peth sy’n bwysicach na’r rhain i gyd: croeso gwresog i bawb, waeth pa iaith yn y byd maen nhw’n ei siarad.

Criw o bobl tu allan i dafarn y Saith Seren - tafarn brics coch ar gornel stryd.

Saith Seren, Wrecsam 

Gwesty’r Llew Gwyn, Cerrigydrudion

Gwaetha’r modd, roedd y Llew Gwyn yn un o gannoedd o dafarndai a gaeodd eu drysau ar drothwy’r pandemig, a hynny heb fwriad ailagor. Yn fuan wedyn, digwyddodd rhywbeth arall, rhy gyffredin o lawer: cafwyd cynnig gan ddatblygwr i droi’r lle yn fflatiau. Dyma dafarn hanesyddol mewn pentre Cymreig ar gyrion Eryri. Nepell o’r A5, roedd David Lloyd George wedi aros yma mewn storm eira. Roedd yn westy poblogaidd ac yn lle prysur am fwyd. Eto i gyd, roedd ar fin diflannu o wyneb y gymdeithas.

Cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i geisio achub y sefyllfa. Roedd brys. Cwta dri mis a roddodd y gwerthwr i’r gymuned i ddod o hyd i’r arian i brynu’r lle. Yn rhyfeddol, diolch i 65 o gyfranddalwyr, codwyd dros hanner miliwn o bunnoedd i gael gafael ar y goriadau ac i wneud y gwaith atgyweirio cychwynnol. O fewn chwe mis i’r cyfarfod cyhoeddus, roedd y dafarn ar agor drachefn, a hynny ar ei newydd wedd.

Mae diddanwyr a cherddorion lleol eisoes wedi bod yma rif y gwlith. Ymhlith y digwyddiadau cymunedol, mae nosweithiau codi arian elusennol, nosweithiau cwis, bingo a boreau coffi. Mae yma ofod i fudiadau a busnesau lleol gynnal cyfarfodydd. Mae gan Siop Mynydd Mostyn beiriannau llaeth a nwyddau yma. Ac er nad ydy’r dafarn yn gwneud bwyd ar hyn o bryd, mae arlwywyr lleol yn gallu darparu ar gyfer partïon, tra bydd faniau bwyd yn y maes parcio o dro i dro.

I'r anturwyr yn eich plith, mae Llyn Brenig, Zip World, Cartio Glan y Gors a Chanolfan Tryweryn i gyd yn y cyffiniau. Cofiwch alw yn y Llew Gwyn i dorri’ch syched wedyn!

Cwmdu Inn, Cwmdu

Fuoch chi erioed mewn pentref mor bentrefaidd â Chwmdu? Rhes o dai bach twt ar lan afon Dulais, a dim ond llif y dŵr a thrydar yr adar i dorri ar y tawelwch. Yma, ym mherfeddion mwyaf gwledig Sir Gâr, fedrech chi ddim creu cerdyn post prydferthach. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy’n berchen ar y teras yng nghanol y pentref, ac yn ei ganol, mae siop a thafarn leol sydd wedi bod yn nwylo’r gymuned ers y flwyddyn 2000.

Mae’r siop – sy’n gwerthu pob math o hanfodion dyddiol, crefftau a chynnyrch ffres – hefyd yn swyddfa bost. Am y dafarn, y Cwmdu Inn, mae hi’n bopeth y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn lleoliad mor unigryw. Fe ddaw’r cwrw ar y cyfan o fragdy lleol Evan Evans, tra bo cynnyrch bragdai gwadd, seidr a diodydd lleol eraill hefyd ar gael. Nos Sadwrn ydy’r noson wledda – gyda bwydlen wahanol o’r naill wythnos i’r llall a byrddau y tu mewn ac yn yr ardd. Aelodau’r gymuned sy’n coginio. Mae cwisus, digwyddiadau tymhorol, gwyliau cwrw, partïon coctel a sawl math arall o adloniant ar gael yn gyson. Dyma hefyd fan cwrdd y clwb gwnïo a’r clwb canu gwerin lleol.

Pentre bach, tafarn lai fyth, ond rhywle lle mae’r croeso’n hynod o fawr ydy hwn. I’r haneswyr yn eich mysg, ar ôl mwynhau harddwch Cwmdu, mae Abaty Talyllychau ryw filltir neu ddwy i’r gogledd, a Chastell Dinefwr, ger tref farchnad Llandeilo, ychydig filltiroedd i’r de.

Yr Iorwerth Arms

Mis Mai 2014 oedd hi pan godwyd arwydd o flaen yr Iorwerth Arms ym Mryngwran yn cyhoeddi bod y lle ar werth. Tafarn ydy hon ar lwybr yr hen ffordd fawr i Gaergybi, mewn pentref oedd wedi bod yn un byrlymus ddegawd neu ddau ynghynt. Ond bellach, roedd pob siop wedi diflannu, y post wedi cau, a’r rhagolygon i’r dafarn hithau’n llwm. Heblaw am yr ysgol, fyddai dim o gwbl yn y pentref cyn hir.

Drwy ddyfalbarhad gwirfoddolwyr lleol, sefydlwyd menter nid-er-elw Bryngwran Cymunedol i brynu’r dafarn ac i gadw’r drysau ar agor. Ewch yno heddiw ac mae’r ffyniant yn dyst i lwyddiant y criw. Mae’n cynnig popeth y byddech chi’n ei ddisgwyl mewn tafarn bentref dda, rhwng y bwyd traddodiadol, y timau darts, y cwrw lleol a’r croeso Cymreig i’r teulu cyfan.

Ond lawn cyn bwysiced â’r pethau hyn ydy’r elfen gymunedol sydd i’r fenter. O’r dechrau’n deg, roedd y cyfarwyddwr am i’r Iorwerth Arms fod yn ganolfan i’r holl bentrefwyr, ac nid yn dŷ potes yn unig. Dyna pam eu bod nhw’n cynnig te p’nawn (weithiau gyda gwasanaeth llyfrgell), dosbarthiadau ymarfer corff, groto Siôn Corn a bingo. Heb sôn am y gigs enwog sydd ers blynyddoedd wedi denu cerddorion gorau Ynys Môn (a’r tu hwnt) i godi’r to. Mae hi’n gallu mynd yn fywiog iawn yno, a diolch i hynny, mae pentref Bryngwran yntau yn dal yn fyw.

Arwydd mewn tafarn gyda'r geiriau 'does unman yn debyg i'r Iorwerth - adra!'

Iorwerth Arms, Ynys Môn

Glan yr Afon, Pennal

Rydan ni’n dueddol o gysylltu pentref Pennal ym Mro Dyfi ag Owain Glyndŵr. Oddi yma yr ysgrifennodd Owain ei lythyr enwog at Frenin Ffrainc yn 1406, yn cyflwyno’i gynlluniau ar gyfer Cymru annibynnol.

Byddai ‘annibynnol’ ac ‘arwrol’ yn eiriau y gallen ni’u cysylltu â thrigolion Pennal heddiw hefyd. Ryw bum blynedd yn ôl, diflannodd y siop leol. Wrth i’r dafarn fynd ar werth, doedd neb am weld honno’n dioddef yr un ffawd. Llwyddwyd i godi dros £400,000 i brynu Glan yr Afon – er gwaetha’r ffaith mai dim ond tua 300 o bobl sy’n byw yn y pentref cyfan.

Gyda chymorth Matthew Rhys, y seren Hollywood, sydd â chysylltiadau teuluol â’r ardal, daeth cyfraniadau helaeth o’r tu allan i’r fro leol. Ond mae’n golygu bod y fro honno bellach ar ei hennill, a holl elw’r busnes yn cael ei fuddsoddi yn ôl yn y gymuned ei hun.

Y gobaith yw creu llawer mwy na thafarn yma: mae’n fwriad troi’r adeilad yn ganolfan gymunedol i’r holl bentrefwyr, yn ogystal ag agor siop.

 

Ty’n Llan, Llandwrog

Pentref hardd neilltuol ydy Llandwrog, ychydig filltiroedd o Gaernarfon a dafliad carreg o lan môr enwog Dinas Dinlle. Hynny gan ei fod yn ‘bentref model’ a godwyd yn unswydd i gartrefu gweithwyr ystâd Glynllifon yn hanner cynta’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Hardd hefyd ydy Ty’n Llan, y dafarn drawiadol sy’n sefyll yng nghanol y pentref. Yn y 1860au y codwyd yr adeilad hwnnw, er bod hanes o dŷ potes ar y safle mor bell yn ôl â 1652.

Hardd neu beidio, petaech chi wedi galw heibio i Dy’n Llan rhwng dechrau 2018 a diwedd 2021, digon oeraidd fyddai’r croeso. Y drysau ar glo, y ffenestri’n llwch, a dim siw na miw o neb yn y cysgodion y tu mewn. Fedrai hyd yn oed statws rhestredig Gradd II y lle ddim cuddio digalondid y sefyllfa.

Mor wahanol ydi pethau heddiw. Mae’r golau yn ôl yn yr ystafelloedd, y cwrw’n llifo, a’r bwyd yn dod yn boeth o’r gegin. Ac yn bwysicach na dim, mae gan Landwrog ofod cymdeithasu drachefn. Clwb ymarfer corff, clwb cinio i bobl hŷn, clwb cerdded, clwb Ffrangeg, clwb ieuenctid, boreau coffi, nosweithiau karaoke, clwb dysgwyr, cwisus: dyna ychydig yn unig o’r arlwy rhyfeddol. Fe ddigwyddodd y cyfan yn sgil ymgyrch lwyddiannus yn ystod 2021 i godi £400,000 mewn cyfranddaliadau, gan arwain at greu cymdeithas budd cymunedol i brynu a rhedeg y dafarn.

Fel yr holl fentrau ar y rhestr hon, mae’n dangos beth sy’n bosib pan ddaw pobl – a grym ewyllys – ynghyd.

Straeon cysylltiedig