Gŵyl y Green Gathering, Cas-gwent
31 Gorffennaf - 03 Awst, 2025. Mae'r Green Gathering yn ddigwyddiad pedwar diwrnod sy'n defnyddio ynni oddi-ar-y-grid. Llwyfannau solar sy'n blatfform i'r artistiaid, DJs a beirdd ac fe geir pob math o weithgareddau eco-gyfeillgar.
Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 2025
02 - 09 Awst 2025. Tro Wrecsam yw hi i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol eleni. Bydd dathliadau o ddiwylliant, iaith a chelfyddyd Cymru yn llenwi Wrecsam a'r fro am wythnos.
Darllen mwy: Ein Eisteddfod Genedlaethol
Gŵyl Lenyddol Llangwm, Sir Benfro
08 - 10 Awst 2025. Cynhelir 8fed Gŵyl Lenyddol Llangwm yn y pentref hardd yn Sir Benfro. Bydd sesiynau ysgrifennu creadigol a gweithdai celf ar gyfer plant ac oedolion.
Sioe Môn, Ynys Môn
12 - 13 Awst 2025. Mae Sioe Môn yn ôl gyda'u dathliad gwledig sy'n cynnwys bwyd, crefftau, ffair, cystadlaethau amaethyddol a hwyl i'r teulu oll.
Gŵyl y Dyn Gwyrdd, Bannau Brycheiniog
14 - 17 Awst 2025. Mae Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ddigwyddiad blynyddol ar Stad Glanusk ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae rhai o enwau mwyaf sin gerddoriaeth Cymru, Prydain a'r byd yn chwarae ar draws nifer o lwyfannau. Yn ogystal â cherddoriaeth mae sesiynau comedi, sgyrsiau, ardaloedd ymlacio a meddwlgarwch a nifer o opsiynau bwyd.
Darllen mwy: Gŵyl y Dyn Gwyrdd – beth i’w ddisgwyl
Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi
16 Awst 2025. Mae Gŵyl Afon a Bwyd Aberteifi yn ôl am y 25ain blwyddyn. Mae gan y digwyddiad amrywiaeth o stondinau sy'n gwerthu bwyd a diod o Gymru, ynghyd â chrefftau lleol. Mae cymysgedd o weithdai ac arddangosfeydd, ynghyd â rhaglen amrywiol o gerddorion a pherfformwyr lleol.
Rasio'r Trên, Tywyn
16 Awst, 2025. Ymunwch a'r her o geisio curo'r trên stêm hanesyddol ar Reilffordd Talyllyn. Mae ras blynyddol Clwb Rotari Tywyn yn digwydd ochr yn ochr â'r trên ar ei daith i Abergynolwyn ac yn ôl. Mae sawl ras gwahanol, gan gynnwys ras 14 milltir a 3.5 milltir.
Gŵyl Machynlleth, Powys
17 - 24 Awst 2025. Mae Gŵyl Machynlleth yn dathlu cerddoriaeth a diwylliant Cymreig a rhyngwladol. Mae yna amrywiaeth o gerddoriaeth, ynghyd ag arddangosfeydd, barddoniaeth, darlithoedd a mwy.
Sioe Sir Benfro
20 - 21 Awst 2025. Sioe Sir Benfro yw sioe sir fwyaf Cymru. Mae hefyd yn un o'r goreuon o'i fath ym Mhrydain, boed eich diddordeb mewn ceir, bwyd neu anifeiliaid. Mae yna gystadlaethau da byw, ceffylau a neidio, stondinau masnach, neuaddau bwyd, ffair a llawer mwy.
Rhwng y Coed, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr
21 - 24 Awst 2025. Cynhelir Rhwng y Coed ym Mharc Candleston, Gwarchodfa Natur Genedlaethol Merthyr Mawr, ger Pen-y-bont ar Ogwr dros benwythnos Gŵyl y Banc. Fe'i cynhelir mewn coetiroedd hynafol, gyda cherddoriaeth, celf, sgyrsiau, a sesiynau natur.
Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd, Llanwrtyd, Powys
24 Awst 2025. Mae Pencampwriaeth Snorclo Cors y Byd Rude Health yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn Llanwrtyd. Mae pobl yn dod o bell i gystadlu yn y digwyddiad unigryw - sy'n un o’r 50 o bethau sy'n ‘rhaid eu gwneud’ gan y Lonely Planet.
