Mae'r digwyddiad blynyddol hwn yn llwyfan i brofi diwylliant o bedwar ban byd, a chyda'r nos cynhelir cyngherddau gyda pherfformwyr syfrdanol ar draws y sbectrwm cerddorol - o jazz i indie-rock.
Sefydlwyd yr Eisteddfod Ryngwladol ym 1947, gyda'r bwriad o ddathlu heddwch rhyngwladol a chyfeillgarwch newydd ar draws Ewrop yn y cyfnod anodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Creodd tref fechan Llangollen gyfuniad unigryw o berfformiadau a chystadlaethau diwylliannol ar hyd wythnos yr ŵyl.
Gwahoddwyd yr Almaen i fod yn bresennol yn yr Eisteddfod gyntaf. Cawsant groeso cynnes gan y gynulleidfa, ac fe'u cyflwynwyd fel ‘ein ffrindiau o'r Almaen’. Mae straeon fel hyn, o gyfnod ymhell cyn fy amser i, yn cydnabod sefyllfaoedd gwleidyddol hanes, ac yn atgyfnerthu ystyr yr Eisteddfod hyd heddiw a'i gwreiddiau mewn ymdrechion i hyrwyddo heddwch.
Ymlaen â ni at y presennol, ac mae'r Eisteddfod yn dal i gynnal y gwerthoedd craidd hyn o heddwch. Rydym yn croesawu 26 o wledydd i'n cartref tlws yn Llangollen. O Albania i Zimbabwe, Canada i Indonesia a llu o lefydd eraill. Mae darllen rhestr o'r rhai sy'n cymryd rhan yn hynod gyffrous wrth i'ch meddwl grwydro i wledydd pell fel Cote d’Ivoire neu Ghana, a bydd eu perfformwyr ar y llwyfan yma yn ein tref fechan o fewn ychydig wythnosau. I mi, y gwisgoedd yw'r elfen fwyaf gyffrous - mae'r lliw a'r ystyr y tu ôl i wisgoedd traddodiadol y grwpiau yn stori ynddi'i hun. Wrth gwrs, yn goron ar hynny mae perfformiad o gân neu ddawns na fyddwch byth yn ei brofi eto yn eich oes. Nid gor-ddweud yw teimlo eich bod yn cael eich cofleidio'n llwyr gan ddiwylliant! Er bod llawer o bobl ond yn dod yma ar gyfer y cyngherddau gyda'r hwyr, byddwn yn eich annog yn gryf i gyrraedd yn fuan ac ymgolli yn awyrgylch yr ŵyl yn ystod y dydd. Mae'n brofiad cwbl unigryw.
Er bod llawer o bobl ond yn dod yma ar gyfer y cyngherddau gyda'r hwyr, byddwn yn eich annog yn gryf i gyrraedd yn fuan ac ymgolli yn awyrgylch yr ŵyl yn ystod y dydd. Mae'n brofiad cwbl unigryw."
Mae thema wahanol i bob cyngerdd gyda'r nos er mwyn cynnig amrywiaeth ac i apelio at gynulleidfa eang yn ystod yr wythnos. Mae'r rhestr o berfformwyr yn cynnwys rhai o sêr mwyaf byd cerddoriaeth. Mae Gala Glasurol nos Fawrth wedi dod â rhai enwau nodedig i lwyfan Llangollen gan gynnwys un o berfformwyr mwyaf gwefreiddiol y byd opera, Rolando Villazon. Ar ddydd Mercher rydyn ni’n dathlu cerddoriaeth Cymru ac yna cerddoriaeth y byd ar ddydd Iau. Ac yn olaf, bydd Tlws Pavarotti yn cael ei dyfarnu i Gôr y Byd ar y nos Sadwrn.
Fel bob blwyddyn, rwy’n edrych ymlaen yn arw at weld wynebau cyfarwydd yn yr Eisteddfod unwaith eto fis Gorffennaf, ond rydym hyd yn oed yn fwy balch o weld wynebau newydd. Mae'r digwyddiad yn wledd ddiwylliannol unigryw, sy’n croesi ffiniau rhyngwladol a sefyllfaoedd gwleidyddol. Gydag ystod eang o ddoniau a sêr yn perfformio, mae yma rhywbeth i bawb o bob oed a chefndir, a does dim esgus i beidio ag ymweld â Llangollen o leiaf unwaith yn ystod yr wythnos!
Eisteddfod Ryngwladol Llangollen 2024
Bydd Eisteddfod Ryngwladol Llangollen yn ôl ddydd Mawrth 02 – dydd Sul 07 Gorffennaf 2024.
Yn ogystal â'r Eisteddfod mae'r ŵyl yn dod ag enwau mawr i Langollen fel Jess Glynne, Nile Rodgers & CHIC a Manic Street Preachers.
Mae tocynnau a mwy o wybodaeth ar wefan Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.