Mae sawl peth i’w gwneud ar hyd arfordir ac yng nghefn gwlad Cymru i unrhyw un sy'n chwilio am weithgareddau hygyrch, llawn antur.

Anturiaethau hygyrch yng Nghymru

Gwnewch sblash

Gyda mwy na 1,600 milltir (2,500km) o arfordir, mae gan Gymru gyfleusterau chwaraeon dŵr gwych. Diolch i ddarparwyr fel Surfability UK mae’n hawdd i anturwyr sydd â namau corfforol neu feddyliol gael blas ar yr hyn sydd gan ein moroedd i’w gynnig.

Wedi ei leoli ym Mae Caswell ar Benrhyn Gŵyr, mae Surfability UK yn darparu amrywiaeth o opsiynau addasol i syrffwyr sydd â galluoedd ac anghenion amrywiol. Gall unigolion sy’n gallu sefyll rhoi cynnig ar syrffio unigol a thandem gyda chymorth, tra bod byrddau tandem eistedd wedi’u haddasu ar gael i’r rhai sydd â symudedd mwy cyfyngedig.

Dyn ifanc yn syrffio.
Dyn ar fwrdd syrffio gyda grŵp o bobl yn helpu.

Dysgu i syrffio ym Mae Caswell gyda Surfability UK

 

‘Rydyn ni mor ffodus yng Nghymru i gael ein hamgylchynu gan yr holl dir gwyrdd a glas yma,’ meddai sefydlydd Surfability, Ben Clifford. ‘Yr hyn sydd wir yn gwneud y gwahaniaeth i fywydau pobl yw’r gallu i gael mynediad iddo. Waeth pwy ydych chi na pha anghenion ychwanegol sydd gennych, gallwch ddod yma a theimlo’r awyr iach a mwynhau’r golygfeydd hyfryd hyn.’

Yn ogystal â chynnig offer arbenigol gan gynnwys cadeiriau olwyn traeth ac ardaloedd newid penodedig sydd â pheiriant codi, mae Surfability UK yn darparu ei sesiynau yn benodol i’r unigolion sy’n cymryd rhan. Weithiau gall wneud rhywbeth mor syml ag arafu’r wers sicrhau fod pobl yn cael profiad gwych. ‘Rydyn ni’n gweld newidiadau anferth yn yr unigolion sy’n cymryd rhan,’ meddai Ben. ‘Rydyn ni wedi clywed pobl yn dweud eu brawddegau cyntaf erioed a symud mewn ffyrdd nad oedd byth yn ddisgwyliedig ganddynt. Mae pethau fel hyn yn digwydd yn ddyddiol bron.’

Mae Cymru’n agored iawn ac yn croesawu pobl sydd ag anghenion ychwanegol. Mae yna lawer o weithgareddau anhygoel y gall bobl gymryd rhan ynddynt tra maen nhw yma."

Dynes ifanc yn cael cymorth i ddefnyddio bwrdd syrffio.

Dysgu i syrffio ym Mae Caswell gyda Surfability UK

 

Marchogaeth

Os yw’n well gennych chi gael hwyl ar dir sych nag ar ddŵr yna mae digon o opsiynau ar gael. Mae canolfannau Cymdeithas Marchogaeth i’r Anabl (CMA) i'w gweld ledled Cymru lle gall ymwelwyr â phroblemau corfforol a datblygiadol farchogaeth mewn amgylchedd ddiogel a chynhwysol.

Gyda merlod wedi’u hyfforddi’n arbennig ac offer fel blociau mowntio a thac wedi’u haddasu ar gyfer marchogwyr sydd ond yn gallu defnyddio un llaw, mae canolfannau CMA yn cynnig ffordd rhwydd a hygyrch i mewn i fyd marchogaeth. ‘Mae’n gwella iechyd meddwl pawb ac yn gwneud i bobl deimlo’n hapusach ac yn well amdanyn nhw eu hunain,’ meddai Anneli Jeynes o CMA Mount Pleasant Pencoed ger Pen-y-bont ar Ogwr. 

Dim ond rhan o beth gallech ei wneud mewn canolfan CMA yw marchogaeth. ‘Os nad ydych yn gallu neu ddim eisiau marchogaeth ond eisiau treulio amser gyda’r merlod, gallwch wneud hynny drwy drin a gwarchod,’ meddai Anneli. ‘Mae’n wych ar gyfer ymlacio ac mae’n awyrgylch dawel braf i fod ynddo.’

Person ifanc yn marchogaeth ceffyl.
Merch ifanc yn cael help i farchogaeth. Mae hi ar gefn ceffyl du a gwyn.

Pobl ifanc yn marchogaeth yng nghanolfan Cymdeithas Marchogaeth i’r Anabl Mount Pleasant, Pencoed

Beicio a mwy...

Mae mwy o weithgareddau hygyrch i’w gael, y tro hwn ar olwynion, ym Mharc Gwledig Pen-bre ger Llanelli yn Sir Gaerfyrddin. Trwy’r cynllun Beicio i Bawb, gall ymwelwyr logi beiciau addasol yn y ganolfan sgïo a gweithgareddau er mwyn archwilio llwybrau beicio di-draffig y parc. Yn ogystal â llogi beiciau, mae yna hefyd staff ymroddedig wrth law i helpu beicwyr o bob gallu i fwynhau eu hamser.

‘Mae Cymru’n enwog am fod yn gyrchfan gwyliau gweithgareddau lle gallwch fwynhau’r awyr agored,’ meddai Zoe o Barc Gwledig Pen-bre. ‘Yr hyn rydym yn ei wneud yma yw sicrhau bod yr awyr agored yn rhywbeth all bawb ei fwynhau. Mae unrhyw un sydd eisiau ychydig o antur yn gallu cymryd rhan.’

Mae modd llogi beiciau addasol o lefydd eraill yng Nghymru hefyd:

Plentyn yn cael cymorth i ddefnyddio beic addasol.
Merch ifanc yn reidio beic allan yn y wlad.

Plant yn mwynhau’r cyfleuster beicio addasol yn Beicio i Bawb ym Mharc Gwledig Pen-bre, Sir Gaerfyrddin

 

Dim ond un elfen o’r anturiaethau hygyrch sydd ar gael ym Mharc Gwledig Pen-bre yw’r beicio. Gall ymwelwyr logi cadeiriau olwyn traeth hefyd i fentro ar dywod traeth Cefn Sidan neu wibio’n gyflym i lawr llethr sgïo sych y parc. Mae Ski 4 All Cymru yn cynnal sesiynau wythnosol ym Mhen-bre sy’n rhoi cyfle i bobl o bob gallu sy’n hoff chwaraeon eithafol i fwynhau rhywfaint o weithgareddau lawr-allt.

Gydag offer a hyfforddiant sy’n addas ar gyfer sgïwyr sydd ag ystod eang o anghenion, mae Ski 4 All Cymru’n troi sgïo, sy’n gallu codi ofn ar rywun, yn rhywbeth hwyl sy’n agored i bawb. ‘Roedden ni eisiau i’r llethrau fod mor hygyrch â phosib, ac rydym yn ymdrechu’n barhaus i sicrhau ein bod o safon uchel,’ meddai Bethan Drinkall o Ski 4 All Cymru. ‘Mae gennym rhai sgïwyr sydd ddim yn siarad, ond mae eu rhieni’n dweud eu bod yn dechrau cynhyrfu cyn gynted ag y maent yn cerdded trwy’r giatiau, ac maent yn gallu ymlacio a chysgu’n well ar ôl gadael y sesiwn. Mae cael bod tu allan yn yr awyr iach yn atgyfnerthol.’

 

Plentyn mewn sled / pram sgïo wedi’i addasu yn cael ei wthio gan ddyn ar lethr sgïo sych.
Nifer o bobl yn sgïo i lawr llethr sgïo sych.

Defnyddio pram sgïo addasol a sesiwn Ski 4 All Cymru yn y Ganolfan Sgïo & Gweithgareddau

Dim ond wedi crafu wyneb yr hyn sydd ar gael yma yng Nghymru ar gyfer ymwelwyr ag anghenion ychwanegol sy'n chwilio am antur ydyn ni mewn gwirionedd. Am fwy o wybodaeth am bethau hygyrch i’w gwneud ledled y wlad, dilynwch y dolenni isod.

Ble bynnag y byddwch yn dewis mynd, byddwch yn teimlo’n gartrefol ac yn dod o hyd i nifer helaeth o bethau i’w profi. ‘Mae Cymru’n agored iawn ac yn derbyn pobl sydd ag anghenion ychwanegol,’ meddai Ben Clifford o Surfability UK. ‘Mae llawer o weithgareddau anhygoel y gall bobl gymryd rhan ynddynt.’

Straeon cysylltiedig