Canolfan Grefftau Corris
Cewch ddewis o blith naw gweithdy crefft yng Nghanolfan Grefftau Corris, gan ymweld â'r artistiaid yn eu stiwdios a'u gwylio wrth eu gwaith. Mae dewis helaeth o nwyddau unigryw wedi'u gwneud â llaw, gan gynnwys crochenwaith a mân bethau del - rhowch gynnig ar wneud rhai eich hunan. Os ydych chi'n llwglyd wedi hynny, mae dewis da o fwyd lleol yng nghaffi'r ganolfan.
Melin Tregwynt
Fe ddechreuon nhw gynhyrchu gwlân ym Melin Tregwynt dros dri chan mlynedd yn ôl, ac mae'n dal yn un o'r mannau gorau i weld brodwaith cain, dillad, cyfwisgoedd, blancedi, carthenni a llawer mwy. Yn ogystal â'r gwaith gwlân celfydd mae yma gaffi lle gallwch ymlacio, oll o fewn tafliad pellen weu o'r arfordir, y clogwyni a golygfeydd godidog.
Craft in the Bay
Mae Urdd Gwneuthurwyr Cymru yn cynrychioli 74 o artistiaid yng Nghymru, ac yn rhedeg Craft in the Bay gyda'r nod o roi lle amlwg i'r crefftau cyfoes gorau yn y wlad mewn stiwdios ac arddangosfeydd, a thrwy roi cyfle i bobl gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithdai. Dewch i ddysgu popeth am decstilau, neu tretiwch eich hun i ambell beth.
Pennau Crafts
Mae Pennau Crafts yn lle bach clyd yma ar odre'r bryniau wedi ennill sawl gwobr. Mewn un adeilad mae trysorfa o emwaith disglair, crefftau ac anrhegion, gydag uned wedi'i neilltuo'n arbennig ar gyfer croesbwytho. Mae digonedd o ddewis, a bwydlen helaeth o fwyd cartref yn y caffi drws nesaf. Cyfuniad perffaith o fwyd a chrefftau traddodiadol Cymreig.
Castle Welsh Crafts
Mae'r Cymry wedi defnyddio llwyau caru i ddatgan eu teimladau rhamantus ers yr 17eg ganrif – ac fe welwch chi rai o bob lliw a llun yn y siop yma gyferbyn â Chastell Caerdydd. Ar ben hynny mae gan Castle Welsh Crafts addurniadau, arfwisgoedd, mân bethau hanesyddol ac eitemau anghyffredin fel llusernau glowyr, yn ogystal â gemwaith Cymreig a Cheltaidd.
Canolfan Cwiltiau Cymru
Mae’r Ganolfan Gwiltiau’n olrhain hanes y cwilt Cymreig o’r 17eg ganrif hyd at ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, a hynny mewn ffordd liwgar, bywiog ac yn llawn dychymyg. Agorwyd y ganolfan yn 2009 yn adeilad urddasol Neuadd Tref Llanbedr Pont Steffan, ac mae’n cyflwyno amrywiaeth o gasgliadau rhyngwladol, arddangosfeydd sy’n newid drwy’r amser a chyfleusterau o’r radd flaenaf.
Canolfan Grefft Rhuthun
Mae'n werth dod i Ganolfan Grefft Rhuthun dim ond i weld yr adeiladau modern trawiadol, ond wrth fynd drwy'r drws fe welwch chi pam enwyd y lle ar y rhestr fer am Wobr y Gronfa Gelf. Mae'n lle ysbrydoledig i gael golwg ar y crefftau cyfoes gorau yng Nghymru, gydag arddangosfeydd sy'n newid bob amser a hyfrydwch Bryniau Clwyd yn gefndir i'r cyfan.
Crefftau a Dylunio Model House
Agorodd y ganolfan brysur hon ym 1989, ac erbyn heddiw mae Crefftau a Dylunio Model House yn fwrlwm o artistiaid a gweithdai ac yn denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn. Mae yma ddwy oriel hefyd lle gallwch edmygu gwaith y crefftwyr, a phrynu ambell i anrheg anarferol.
Craft Renaissance
Efallai’n wir mai hon yw un o’r orielau harddaf a welwch chi erioed, ac mae Craft Renaissance mewn casgliad o hen ysguboriau yn llawn ystafelloedd braf, golau. Dyma le dymunol iawn i gynnal arddangosfeydd o waith gwneuthurwyr galluog o Gymru, ac maen nhw hefyd yn cynnal dosbarthiadau ac yn gwerthu rhoddion prydferth yn y siop. Mae’n braf ymlacio yn y caffi, hefyd.
Oriel Grefftau Court Cupboard
Mae Oriel Grefftau Court Cupboard wedi'i gosod mewn hen adeiladau fferm sy'n bum canrif oed, ac yn sefyll drws nesaf i hen lys gyda chell danddaearol i garcharorion. Yma mae amrywiaeth o grefftwyr yn dangos eu doniau wrth nyddu, gweithio aur ac arian, gwneud gemwaith, gwneud gwaith gof, lliwio gwydr a gwneud mwclis, ac mae'r siop goffi'n braf iawn hefyd.