Mae'r olygfa i lawr dyffryn Tal-y-Llyn tuag at Llyn Mwyngil yn un sy'n serennu mewn cannoedd o gardiau post ac Insta Stories. Mynyddoedd creigiog, serth i bob ochr, a'r llyn yn llafn o fetel llwyd ar y gwaelod, y lôn fach yn nadreddu tua'r gorwel. Dyma fy ffordd adref. Ar yr union orwel yna, heibio'r llyn a'r mynyddoedd sy'n gwarchod y fro, mae tref Tywyn. Dwi'n caru'r olygfa yna er ei bod hi mor boblogaidd, achos fod teithio ar y lôn yna i'r cyfeiriad yna'n golygu un peth- Dwi'n mynd adref. Sut bynnag fo'r tywydd ar y daith, mae Bro Dysynni'n oleuni ar y gorwel, fel petai haul caredig, parhaus ar ben y lôn.

Golygfa trwy ffenestr car gyda mynyddoedd a llyn ar y gorwel.

Yr olygfa i lawr ffordd Tal-y-Llyn

Hanesion hynafol

Y môr sy'n denu'r mwyafrif, boed nhw'n ymwelwyr neu'n bobol leol. Promenâd hir yn ymestyn fel bys yn pwyntio tua Aberdyfi i'r de, Llwyngwril i'r gogledd, ac mae diwrnod hir a thesog ar y tywod meddal gydag ambell ymweliad i'r caffis ar y prom yn brofiad breuddwydiol o hyfryd. Does dim rhaid mynd yn bell cyn dod o hyd i berlau bach unigryw. Pan fydd y llanw'n isel, mae'r hen fawndiroedd yn ymddangos yn y tywod o'r de i'r promenâd- cyfres hir o sgwariau sydd wedi eu torri'n ofalus, fel sylfeini hen dai, ac wedi eu britho gan weddillion coedwig hynafol. Mae'r lle hwn yn procio atgofion o hen stori (un dwi'n mynnu credu sy'n wir) Cantre'r Gwaelod, tir hen a ffrwythlon a gollwyd i'r dyfroedd. Ar lefel mwy ymarferol ac ychydig yn llai sentimental, mae'r sgwariau yma o fawrn yn dal dŵr y môr pan ddaw'r trai, ac erbyn diwedd diwrnod o haul poeth, maen nhw'n creu fersiwn bendigedig o naturiol o dwba poeth.

Traeth gyda cherrig sgwar ac awyr las.
Mawndiroedd gyda gwymon ar draeth.

Mawndiroedd Tywyn

Ar ben arall y dref, mae Eglwys Sant Cadfan, addoldy hynafol ac anarferol o ddifyr. Yn ei fudandod, fe ddewch chi o hyd i drysorau - Carreg Sant Cadfan, o'r nawfed ganrif neu'n gynt, a dyma drysor cenedl, achos mai ar Garreg Sant Cadfan ceir y Gymraeg ysgrifenedig cynharaf y gwyddom amdano. Crwydrwch ychydig yn bellach i'r eglwys er mwyn cwrdd â delw o Gruffudd ab Adda. Mewn tywydd llaith, bydd Gruffudd yn wylo. Na, dim rhan o nofel arswyd mo hwn a na, does neb eto wedi selio cyfres arswyd amdano ar S4C. Mae daearegwyr yn dweud mai nam yn y garreg dros lygad chwith Gruffudd sy'n gyfrifol am y dagrau sy'n llifo lawr ei rudd, ond efallai eich bod chi fel finnau'n mynd yn ddigon rhwystredig gyda'r tueddiad i resymu'n gall. Mae o'n crïo, a dyna pam fydda i'n ymweld â fo mor aml.  

Lluniaeth a Llyfrau

Os ydy gweld carreg yn wylo wedi gadael ei hoel arnoch chi, mae digon o gaffis a bwytai yn Nhywyn i chi gael dod at eich coed. Mae'r The Retreat Bar and Cafe yn gwneud coffi bendigedig ac yn gweini prydau blasus a rhesymol (mae'r pizza, yn enwedig, yn hyfryd.) Mae trip i'r Proper Gander yn troi pryd o fwyd yn achlusur arbennig, a'r prisiau yma hefyd yn rhesymol iawn am fwyd ffres, pob cynhwysyn wedi ei ddewis yn ofalus er mwyn creu'r blas gorau un. Mae gan dafarn y Whitehall fwydlen eang, o fyrgyrs enfawr i bysgod bendigedig (a dyma le sy'n berffaith os ydych chi eisiau pryd da o fwyd, tra hefyd yn plesio plentyn ffyslyd!)

Os ydy'r pres yn llosgi twll yn eich poced, mae gan y stryd fawr digon o siopau sy'n gwerthu crefftau a thrugareddau lleol. Mae Clock Tower Books yn siop lyfrau bychan sy'n dal yr union awyrgylch mae rhywun yn gobeithio amdano mewn siop lyfrau. Wedi ei leoli yn neuadd y farchnad, mae'n gwerthu llyfrau newydd ac ail-law (gan gynnwys llyfrau Cymraeg) - holwch Karl fydd wrth y til, ac mi fydd o'n sicr o ddod o hyd i'r llyfr gorau wnewch chi ddarllen byth.

Tŷ lliw hufen gyda ffenestri gwyn a drws glas.
Neuadd y farchnad a thŵr Eglwys.
Tafarn, Eglwys a Sinema yn sgwâr y dref

Proper Gander, Neuadd y Farchnad, y Whitehall a Sinema'r Llusern Hud, Tywyn

Mae Tywyn yn dref i'r bolgwn, felly peidiwch â cholli'r cyfle i ymweld â Tywyn Foods, siop sy'n gwerthu bwyd lleol, tymhorol- mae crwydro'r siop yma yn siwr o dynnu dŵr i'ch dannedd chi.  Yn siop Holgates ar gyrion y dref, mae'r hufen ia mêl anhygoel ac enwog, sy'n blasu fel hen hafau a lliwiau llachar. Chewch chi ddim gwell cig nag yn y siop gigydd lleol, T Rowlands and Son, ac am Oliver's Bakery - wel. Wn i ddim beth maen nhw'n rhoi yn eu bara, cacenni a phestris, ond dwi wedi torri pob un deiat y bûm i arno erioed yn fanno, ac mae o wastad wedi bod werth pob owns. Trïwch y byns menyn- neu'r Tywyn bun- eu harbenigedd. Gewch chi ddiolch i fi wedyn.

Crwydro'r Fro

Ar ôl cael llond bol o fwyd, mae 'na ddigon o lwybrau a throeon. Mae llwybr arfordir y Cambria i'r gogledd yn mynd â chi i Donfannau, ble mae adfeilion yr hen wersylloedd rhyfel. Bydd deng munud yn y car yn mynd â chi i Graig y Deryn, sy'n codi'n hy ac yn ogoneddus o'r tir, neu dawelwch a heddwch Castell y Bere. Gallwch fynd ar drên bach Talyllyn o Dywyn i Abergynolwyn a chrwydro llwybrau coediog, hardd Nant Gwernol. Os nad ydych chi am ddefnyddio car neu drafnidiaeth gyhoeddus, mae'n bosib cerdded i bentref cyfagos Aberdyfi ar hyd y traeth. Yna fe welwch bentref prysur a thlws ar hen harbwr. Mae Aberdyfi'n brysur iawn yn yr haf, ac mae'r pentref ar ei orau yn y gaeaf, pan fo bob man ychydig yn dawelach. Mae'n bosib hefyd cerdded o Dywyn i Ynysmaengwyn, sy'n barc ac yn goedwig ble mae blodau gwylltion a chreaduriaid bychain yn byw yn hen adfeilion y plasty.

Ffos gyda'r arfodir ar y gorwel.
Tren ar drac gyda'r arfordir yn y cefndir.
Adfeilion castell yn edrych tuag at yr arfordir.

Tywyn o'r Morfa, Rheilffordd Tal-y-Llyn a Chastell y Bere 

Coctêls hudol

Ond os oes un peth mae'n raid i chi wneud pan ddewch chi draw i Dywyn, dyma fo - ewch i'r pictiwrs. Mae Sinema'r Llusern Hud wedi cael ei adnewyddu'n ddiweddar, ond tydy'r lle heb golli dim o'i gymeriad unigryw. Mae'r murluniau mawrion ar y waliau yn gelfyddyd hardd a bendigedig, ardal y bar yn eich atgoffa o hen ddyddiau da, a'r rhestr coctêls... Wel. Trïwch y Rocketman. Wnewch chi ddim difaru.

A felly, dyna i chi Dywyn, fy adref i - delw marchog yn wylo, traeth hir â thywod meddal, coctêl a Tywyn bun. Mi allwn i ddweud gymaint mwy am y dref fach yma, wedi ei chuddio ar ben y lôn fach yna i lawr bwlch Tal-y-Llyn, ond fe ddewch chi o hyd i'ch anturiaethau eich hun yma.

                            

Tips Tywyn

Ceir mwy o wybodaeth am Manon Steffan Ros ar wefan Y Lolfa.

Gallwch deithio i Dywyn yn hawdd ar drafnidiaeth gyhoeddus - mae yna orsaf reilffordd a bysiau rheolaidd. Gall Traveline Cymru eich helpu i gynllunio'ch taith. Os oes gennych gar trydan, mae gorsafoedd gwefru EV yn Rheilffordd Tal-y-Llyn, Abergynolwyn, Hendy Farm Cottages a Cynfal Farm Cottages.

Mae traeth Tywyn yn wych ar gyfer adeiladu cestyll tywod, darganfod pyllau creigiog a phadlo. Fel pob tro, paratowch o flaen llaw a darllenwch gyngor yr RNLI ar ddiogelwch ar y traeth. Nid oes modd i gŵn ymweld â rhannau o'r traeth rhwng Ebrill a Medi, ond mae digon o le iddynt redeg o gwmpas pen gogleddol a de'r traeth.

Os ydych yn mentro allan i gerdded neu heicio, mae gan Adventure Smart UK pentwr o gyngor ac rydym yn argymell eich bod yn ei ddarllen cyn cynllunio eich antur. Mae llawer o'r llwybrau troed o amgylch Tywyn yn mynd ar draws tir fferm felly dangoswch barch a dilynwch y Côd Cefn Gwlad.

Rhestr o lefydd i aros a phethau i'w gwneud o amgylch Tywyn

 

Machlud haul dros Aber Dysynni.

Machlud o draeth Tywyn

Straeon cysylltiedig