Nod y canllawn hwn yw rhoi ychydig o arweiniad i unrhyw un fydd yn ysgrifennu neu’n cyfieithu cynnwys Cymraeg ar gyfer Croeso Cymru. Bydd yn eich helpu i ddeall pwy ydyn ni, a sut i gyfleu tôn ein llais wrth siarad neu ysgrifennu. Mae’n cynnig eglurhad o ran arddull a fformat ar gyfer ein cyhoeddiadau a’n gwefannau ac ar gyfer ein cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol neu lwyfannau eraill.
Brand Croeso Cymru
Y brand yn gryno
Gwerthoedd y brand, yn gryno, yw: Gwreiddiol; Creadigol; Byw.
Gwreiddiol: Gwlad go iawn, gwlad agored a gonest. Mae Cymru wedi’i chodi ar seiliau balch ei hanes a’i threftadaeth, ac wedi’i saernïo gan dirwedd hardd a thrawiadol. Mae cymuned, diwylliant a chynefin yn bwysig i ni ac rydyn ni am arwain y byd yn y ffordd rydyn ni’n eu gwarchod. Dyma’r adnoddau sy’n ein cynnal: twf gwyrdd, allforion creadigol byd-eang, atyniadau antur, cynnyrch lleol o safon. Ein gwreiddioldeb ni yw’r allwedd i’n dyfodol.
Creadigol: Creadigrwydd sydd wrth wraidd ein llwyddiant fel cenedl. Mae ein diwylliant cyfoethog a pharhaus yn ffynnu: ym myd cerddoriaeth, llenyddiaeth, celf, ffilm, teledu a theatr. Ond mae’n llawer mwy na hynny. Ble bynnag yr edrychwch yng Nghymru, mae syniadau newydd ar waith. Mae’n digwydd mewn stiwdios dylunio ac mewn hen loddfeydd llechi, ffatrïoedd a labordai ar draws y wlad. Mae ysbryd mentrus ar droed. Mae hyn yn fwy na breuddwydio – rydyn ni’n gwireddu ein breuddwydion.
Byw: Mae Cymru ar ei newydd wedd. Gyda’r gorffennol yn ysbrydoliaeth, rydyn ni’n edrych i’r dyfodol gyda chyfrifoldeb a chreadigrwydd. Mae ein tir yn fyw o natur ac o antur. Mae dychymyg byw yn sail i’n diwylliant. Mae’n cymunedau’n fwrlwm o arloesi a chyfleoedd. Mae cenhedlaeth newydd yn buddsoddi mewn dyfodol disglair a chynaliadwy wedi’i bweru gan dalent a sgiliau. Egni. Yn llawn bywyd.
Mae cymuned, diwylliant a chynefin yn bwysig i ni ac rydyn ni am arwain y byd yn y ffordd rydyn ni’n eu gwarchod."
Tôn llais: llais y genedl
Mae ein llais yn rhan bwysig o’n brand. Mae’n dangos pwy ydyn ni i’r byd, yn y ffordd y byddwn ni’n siarad ac yn ysgrifennu. Fel arfer, dyma’r peth cyntaf y bydd pobl yn ei weld neu’n ei glywed, felly mae’n bwysig ein bod yn gwneud hyn yn iawn ac yn creu argraff dda o’r cychwyn cyntaf.
Mae ein llais yn cynnwys y geiriau rydyn ni’n eu defnyddio, y geiriau rydyn ni’n eu hosgoi a’r ffordd y byddwn ni’n llunio ein brawddegau. Mae’n dod o’n personoliaeth. A daw hynny o’n gwerthoedd.
Beth yw sŵn ein llais?
Mae’n gynnes. Mae’n ennyn chwilfrydedd. Mae’n hyderus. Dyna ni – ein llais. Rydyn ni’n ddynol, rydyn ni’n siarad â phobl ac yn rhoi cyngor cyfeillgar. Nid corfforaeth mohonom, yn cyhoeddi datganiadau oeraidd.
Mae lleisiau niferus yn gefndir i’n llais ni ac rydyn ni’n ymfalchïo yn ein hanes disglair. Nid byw yn y gorffennol mohonom chwaith, ond rydyn ni’n falch iawn ohono. Rydyn ni’n llawn brwdfrydedd ac yn edrych i’r dyfodol – yng Nghymru, mae pobl o bob cefndir yn gwneud i bethau diddorol ddigwydd. Mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo – harddwch cefn gwlad a’r arfordir, dinasoedd cyfeillgar y bydd pobl yn gwirioni arnynt – ond dydyn ni ddim yn ymffrostio. Rydyn ni’n hyderus, ond dydyn ni ddim yn clochdar. Dyw hynny ddim yn ein natur.
Mae’r cymysgedd hwn o hyder tawel a mentergarwch yn greiddiol i’n gwaith. Mae’n siarad drosto’i hun. Er mwyn ysgrifennu ar ran Cymru, meddyliwch am yr hyn sy’n gwneud ein gwlad ni mor wych.
Mae iaith yn arf pwerus. Ac mae hennym ni ddwy. Mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’n hanes a’n dyfodol. Mae wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn ein stori a’n diwylliant ac yn ein gwneud ni’n unigryw – ymfalchïwch ynddi a defnyddiwch hi’n dda. Mae’n ffordd wych o ennyn chwilfrydedd, felly os byddwch chi’n ysgrifennu yn Saesneg, beth am gynnwys ambell air o Gymraeg?
Diffinio ‘Cynnes, Ennyn Chwilfrydedd a Hyderus’
Sut mae cyfleu hyn?
Cynnes: Mae croeso i bawb. Waeth pwy ydych chi neu o ble rydych chi’n dod, mae croeso cynnes i chi yma. Felly pan fyddwn ni’n ysgrifennu ar ran Cymru, byddwn ni’n ysgrifennu at ffrind. Ysgrifennwch yn syml, gan olygu’n ddidrugaredd (mwy am hyn yn y man). Rydyn ni’n onest ac yn ddiymhongar; ond ein nod yw ysbrydoli, denu a throi pobl yn dwristiaid.
Ennyn Chwilfrydedd: Mae cyffro yn ein gwaed dros Gymru, ac rydym am gyfleu hyn. Mae cyfleoedd diddiwedd i’w cael, ac rydym yn hoff o danio’r cyffro hwn mewn pobl eraill hefyd.
Defnyddiwch ni a chi (lluosog), byrhewch bethau’n naturiol a defnyddiwch lais gweithredol (rydyn ni’n codi cestyll) nid goddefol (caiff cestyll eu codi).
Amrywiwch hyd y brawddegau. Mae llunio brawddegau hirach, myfyriol, sy’n cynyddu’r tensiwn ac yn denu’r darllenydd, ochr yn ochr â brawddegau byr, yn cynnig amrywiaeth ddiddorol. Llai undonog. Mwy cyffrous.
Denwch lygaid y rheini sy’n pori’n gyflym ar-lein. Defnyddiwch ddyfyniadau apelgar i amrywio’r testun ac adlewyrchu naws yr erthygl. Gall y penawdau a’r dyfyniadau helpu pobl wrth chwilio’r we. Helpwch ni i helpu Google drwy ddefnyddio enwau cynnyrch a llefydd yn eich teitlau a’ch disgrifiadau.
Mwynhewch adrodd y straeon – mae cymaint ohonynt i’w cael – ein chwedlau o’r gorffennol a’n rhagolygon i’r dyfodol.
Darllenwch yr hyn rydych chi wedi’i ysgrifennu ar goedd. Ydych chi am barhau i wrando? Cofiwch fod tua 70 y cant o’n cynulleidfa yn darllen ar ddyfeisiau symudol, felly cofiwch ddefnyddio brawddegau bachog, gyda lluniau o ansawdd.
Gofynnwch gwestiynau (I ble hoffech chi fynd? Beth wnawn ni nesa?) – dechreuwch sgwrs gyda’ch cynnwys i greu cyswllt emosiynol.
Hyderus: Rydyn ni’n graff, ond yn ddiymhongar. Yn hyderus, nid yn drahaus. Mae ein hyder yn ysbrydoli eraill. Mae’n dawel, yn urddasol, ac yn ddibynadwy.
Dylech amlygu’r hyn a wyddoch. Defnyddiwch eich gwybodaeth a’ch profiad wrth ysgrifennu. Pryd yw’r amser gorau i ymweld ag Eryri? Beth sydd i’w wneud yno? Beth sy’n unigryw am Eryri – pethau na allwch eu gwneud yng Nghernyw neu’r Peak District?
Ffeithiau nid ffuglen. Os ydych yn gwneud datganiad, byddwch yn siŵr o’ch ffeithiau. Os ydyn ni’n dweud wrth bobl mai ein cestyll ni yw’r hynaf yn y byd – gwnewch yn siŵr bod hyn yn wir.
Ysgrifennwch mewn ffordd fanwl gywir, yn benodol ac yn afaelgar.
Defnyddiwch ansoddeiriau fel byw, hynod, anturus, arloesol, yn lle ‘da’ neu ‘hyfryd’. Ond peidiwch â’i gorwneud hi – bydd pobl yn dechrau eich amau. Ceisiwch osgoi’r ystrydebau amlwg sy’n perthyn i faes twristiaeth.
Mae’n gynnes. Mae’n ennyn chwilfrydedd. Mae’n hyderus. Dyna ni – ein llais"
Adrodd straeon - pwy yw’r bobl sydd gennym mewn golwg?
Ystyriwch y person rydych chi’n ysgrifennu ar ei g/chyfer. Beth sydd angen iddo/i ei wybod? Sut rydych chi am iddo/i deimlo a meddwl, a beth rydych chi am iddo/i ei wneud?
Weithiau mae’n hawdd meddwl am y person rydych chi’n ysgrifennu ar ei g/chyfer (e.e. canllaw i fyfyrwyr o dramor i fyw yn Abertawe / canllaw adarydda yn y Canolbarth). Ond gydag erthyglau mwy cyffredinol, mae’n werth deall pwy yw’r bobl rydych yn ysgrifennu ar eu cyfer.
Marchnad y DU yw hon, mae gennym enghreifftiau eraill ar gyfer ymwelwyr o dramor. Cofiwch fod ysgrifennu cynnwys Cymraeg yn wahanol i ysgrifennu cynnwys Saesneg weithiau. Rydych yn ysgrifennu ar gyfer siaradwyr Cymraeg a dysgwyr Cymraeg sydd hefyd yn byw y tu allan i Gymru, yn ogystal â’r rheini sy’n byw yng Nghymru.
Pethau i’w cofio
Mae’r rhestr ganlynol o amcanion brand yn werth ei hystyried wrth ysgrifennu cynnwys Croeso Cymru. Ydy’r cynnwys...
- yn dyrchafu ein statws
- yn syfrdanu ac yn ysbrydoli
- yn newid canfyddiadau
- yn gwneud pethau da
- yn teimlo’n unigryw i Gymru?
Yn olaf, dyma’r prif bethau i’w cofio wrth ysgrifennu ar gyfer Croeso Cymru:
- Dangoswch yr hyn a wyddoch am Gymru. Ein hanes, ein diwylliant, ein cyfleoedd.
- Ysgrifennwch mewn ffordd syml ac agos atoch. Rydyn ni’n ddigon hyderus i osgoi gor-ddweud a gwamalu gan adael i’n personoliaeth ddod i’r amlwg.
- Darllenwch eich gwaith ar goedd. Os nad yw’n swnio’n iawn, rhowch gynnig arall arni.
- Dangoswch yr hyn rydych chi’n ei garu am Gymru. Beth sy’n ei gwneud yn wych? Yna ategwch hyn gyda rhagor o wybodaeth.
- Pan fyddwch chi’n ysgrifennu yn Saesneg, ceisiwch gynnwys ambell air o Gymraeg. Mae’n ffordd wych o ddenu sylw yng nghanol y prysurdeb, a gall ychwanegu gwerth go iawn at y stori.
Cadwch hi’n syml
Y nod pennaf yw testun clir, cryno a chyfeillgar. Cofiwch olygu a chael gwared ar eiriau diangen. Symlrwydd yw’r nod.
Oedran darllen hanner poblogaeth y DU yw 11 oed neu’n iau, a chofiwch y bydd nifer o ddysgwyr am ddarllen cynnwys Cymraeg Croeso Cymru hefyd. Y symlaf oll, gorau oll. Dylech chi feddwl am lunio brawddegau o ryw 12 gair, gyda digon o amrywiaeth, wrth gwrs. Ceisiwch osgoi brawddegau gyda chymalau cymhleth, neu eiriau anhygoel o hir.
Apelio at emosiwn
Y nod gyda’n penawdau a’n testun yw apelio at emosiwn carfannau penodol o’n marchnad. Does dim modd i bob darn o gynnwys apelio at bob carfan (ac ni ddylai chwaith). Dyma’r prif bwyntiau i’w cofio:
Sylw - (Pennawd.)
Diddordeb - (Ceisiwch ennyn diddordeb drwy apelio at y garfan benodol: e.e. ‘cyfleoedd ffotograffiaeth gwych i anturiaethwyr ar hyd arfordir Cymru’.)
Awydd - (Y nod yw codi awydd arnynt gan amlygu’r hyn sydd ar gael.)
Gweithredu - (Ble bynnag y bo’n bosibl, ceisiwch sicrhau eu bod yn ymrwymo i’r cam nesaf, e.e. archebu llyfryn, rhannu’r erthygl, chwilio am lety. Hyn oll heb geisio ‘gwerthu’ yn ormodol.)