Gweithgareddau hygyrch i'w gwneud yn y canolbarth
Ni ddylai bod â nam corfforol neu anableddau na ellir eu gweld fod yn rhwystr i gael amser gwych yn y rhan drawiadol hon o'r wlad. Mae cestyll hynafol, natur wyllt, arfordiroedd dramatig ac atyniadau diwylliannol y canolbarth sy'n hygyrch i bawb. Dyma ambell syniad i'ch rhoi ar ben ffordd... ac i barhau â'ch anturiaethau mewn rhannau eraill o Gymru edrychwch ar y dolenni isod:
Gweithgareddau diwylliannol hygyrch yn y canolbarth
MOMA Machynlleth
Stryd Penrallt, Machynlleth, Powys SY20 8AJ
- Orielau sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a rhai â symudedd cyfyngedig
- Cadair olwyn ar gael ar gais
- Croeso i gŵn cymorth
- Dolen sain yn y Tabernacl ar gyfer rhai sydd â nam ar eu clyw
Wedi’i lleoli mewn hen dŷ tref Fictoraidd a chapel Wesleaidd, mae MOMA Machynlleth yn lleoliad perfformio ac oriel fywiog o baentiadau, ffotograffiaeth a cherfluniau Cymreig cyfoes. Pan addaswyd yr adeilad, cymerwyd gofal mawr i'w wneud mor hygyrch â phosibl, gyda mynediad gwastad i bob oriel a lifft hygyrch rhwng lloriau.
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Rhiw Penglais, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3BU
- Parcio a phrif fynedfa hygyrch
- Cadeiriau olwyn ar gael ar gais
- Croeso i gŵn cymorth
- Taflenni ar gael mewn print bras ac ar ffurf sain i'r rhai â nam ar eu golwg
Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru, ger Prifysgol Aberystwyth, gasgliad rhyfeddol o fawr, sy’n cynnwys llawysgrifau Cymraeg prin. Mae'n gwbl hygyrch, gyda phedwar lle parcio dynodedig, prif ddrysau awtomatig, lifftiau, tri thoiled hygyrch, cadeiriau olwyn i ymwelwyr eu defnyddio a dŵr yn cael ei ddarparu ar gyfer cŵn cymorth.
Gweithgareddau natur hygyrch yn y canolbarth
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian
Ponterwyd, Aberystwyth, Ceredigion SY23 3AB
- Canolfan ymwelwyr a chaffi sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
- Parcio a thoiledau hygyrch
- Dolen sain yn y caffi ar gyfer ymwelwyr â nam ar eu clyw
- Cadair olwyn ar gael ar gais
Canolfan Ymwelwyr Bwlch Nant yr Arian yw un o’r lleoedd gorau yng Nghymru i weld y barcud coch. Mae'r adar godidog hyn yn plymio i mewn bob prynhawn i gael eu bwydo fel rhan o raglen gadwraeth hir-sefydlog. Mae Llwybr y Barcud sy’n addas ar gyfer pob gallu yn arwain o’r ganolfan ymwelwyr ecogyfeillgar i ymyl y llyn lle mae bwydo’n digwydd.
Dragonfly Cruises
Y Stablau, Stryd y Capel, Aberhonddu LD3 7PE
- Mae gan y cwch cul le i ddwy gadair olwyn
- Gellir cyrraedd cychod trwy lifft ar ochr y cei
Mae Dragonfly Cruises yn cynnig taith ddwy awr a hanner hamddenol ar hyd Camlas Mynwy ac Aberhonddu o Aberhonddu i Frynich mewn cwch cul wedi'i beintio'n llachar, gyda lle i ddwy gadair olwyn. Mae lifft cadair olwyn o ymyl y cei a thoiled hygyrch yn Theatr Brycheiniog ar Lanfa’r Gamlas.
Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan
Rhaeadr, Powys LD6 5HP
- Canolfan ymwelwyr a chaffi sy'n hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a'r rhai â symudedd cyfyngedig
Yn eistedd yng nghysgod argae anferth Caban Coch, mae Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan yn fan cychwyn perffaith i grwydro’r rhan syfrdanol hon o’r canolbarth. Mae Llwybr Coedwig Cnwch ag arwyneb da yn rhedeg mewn dolen o amgylch y Ganolfan Ymwelwyr ac mae’n addas ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn. Am antur hirach mae Llwybr Cwm Elan, llwybr hygyrch naw milltir o hyd sy'n dilyn llwybr hen Reilffordd Corfforaeth Birmingham rhwng Cwmdauddwr, ychydig i'r gorllewin o Raeadr ac Argae Craig Goch.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron
Tua dwy filltir i'r gogledd o Dregaron, Ceredigion, tuag at Bontrhydfendigaid ar y B4343
- Toiledau hygyrch yn y prif faes parcio
- Llwybr pren cylchol 1 milltir (1.5 km) cwbl hygyrch (Taith Cors Caron), mae mynediad i'r llwybr pren 400 metr o'r prif faes parcio ar hyd llwybr cwbl hygyrch (cyfanswm pellter y llwybr cyfan yw 1.6 milltir/2.6 cilometr)
- Cuddfan cors hygyrch
- Mae gan Lwybr yr Hen Reilffordd arwyneb cadarn sy'n addas ar gyfer cadeiriau olwyn
Mae Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn nyffryn prydferth Afon Teifi. Mae'n gorchuddio un o'r cyforgorsydd sy'n tyfu'n weithredol fwyaf ar iseldiroedd Prydain. Mae’r corsydd yn gynefin pwysig i fflora a ffawna prin, ac efallai y gwelwch gudyll coch yn esgyn, ehedydd, gylfinirod, dyfrgwn, madfallod brodorol a gwas y neidr lliwgar. Mae llwybr hygyrch Cors Caron yn arddangos y darnau corslyd gorau, gyda chuddfan hygyrch ar hyd y ffordd gyda golygfeydd hyfryd dros y gorlifdir. Mae taith gerdded yr Hen Reilffordd yn dilyn hen reilffordd ar hyd ymyl y warchodfa, ac yn cynnig arwyneb gwastad ar gyfer cadeiriau olwyn, beiciau a bygis.
Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors y Llyn
3½ milltir i'r gogledd-orllewin o Lanfair-ym-Muallt, Powys
- Llwybr pren hygyrch gyda seddau a mannau pasio i gadeiriau olwyn
- Caniateir cŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn bob amser
- Maes parcio
Gwarchodfa fechan heb fod ymhell o Lanfair-ym-Muallt yw Cors y Llyn. Mae’r dolydd blodau gwyllt a’r coetir corsiog yn newid drwy gydol y tymhorau, sy’n ei wneud yn lle diddorol i ymweld ag ef drwy gydol y flwyddyn. Disgwyliwch weld blodau prin gan gynnwys blodyn y gog a thegeirianau. Mae mursennod, madfallod a brogaod yn byw a bod o gwmpas y llyn, ac yn ystod y gaeaf, mae adar gan gynnwys cyffylog a gïach yn ymweld.
Atyniadau hanesyddol hygyrch yn y canolbarth
Castell Powis
Y Trallwng, Powys SY21 8RF
- Parcio hygyrch, toiledau a chaffi
- Canllaw Braille ar gael
- Map yn dangos llwybrau hygyrch trwy erddi ar gael o'r dderbynfa
Nid yw rhai rhannau o'r eiddo hanesyddol ysblennydd hwn yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Fodd bynnag, mae llawer o ardaloedd yn hygyrch. Mae mannau parcio dynodedig wrth ymyl y maes parcio bysiau. Gall bws mini sy’n addas i gadeiriau olwyn gludo ymwelwyr â symudedd cyfyngedig o’r maes parcio i Gastell Powis ei hun a’r Hen Stablau, amgueddfa sy’n cynnwys taith rithwir fanwl neu i’r llwybr di-risiau o amgylch y gerddi isaf. Mae dwy gadair olwyn i’w gwthio â llaw ar gael i'w benthyca. Mae canllaw Braille i'r castell hefyd, a gallwch archebu teithiau cyffwrdd tywys o amgylch y castell ymlaen llaw a theithiau synhwyraidd tywys o amgylch yr ardd.
Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair
Yr Orsaf, Llanfair Caereinion, Y Trallwng, Powys SY21 0SF
- Mae gorsafoedd ar ddau ben y llinell yn gwbl hygyrch
- Lleoedd cadeiriau olwyn ar drenau ar gael drwy archebu ymlaen llaw
- Cadeiriau olwyn ar gael
- Parcio hygyrch a thoiledau ar ddau ben y lein
Yn pwffian rhwng y Trallwng a Llanfair Caereinion, mae Rheilffordd Y Trallwng a Llanfair yn ffordd berffaith o weld cefn gwlad canolbarth Cymru mewn steil. Gall y rhan fwyaf o wasanaethau ddarparu ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn (er bod angen archebu lle ymlaen llaw), tra bod y gorsafoedd ar ddau ben y llinell yn gwbl hygyrch.
Traethau hygyrch Canolbarth Cymru
Traeth Tresaith
Aberporth, Ceredigion SA43 2JL
- Toiledau hygyrch
Wedi'i wasgu rhwng pentiroedd creigiog, mae Tresaith yn draeth tywodlyd bach y gellir ei gyrraedd trwy lithrfa goncrit. Mae’n fan poblogaidd ar gyfer chwaraeon dŵr a chyda phobl sy’n hoffi torheulo, gyda rhaeadr anarferol sy’n disgyn dros y clogwyni yn ei ben gogledd-ddwyreiniol. Mae toiledau cyhoeddus ychydig oddi ar y traeth.
Traeth y Gogledd Aberystwyth
Ceredigion SY23 2AZ
- Promenâd gwastad
- Rampiau i lawr i'r traeth
Wedi’i wneud o dywod llyfn, tywyll a graean bras, mae Traeth y Gogledd Aberystwyth yn un o’r mannau mwyaf poblogaidd yn y gyrchfan glan môr fywiog hon. Y tu ôl i'r traeth mae promenâd hir a gwastad sy'n berffaith ar gyfer defnyddwyr cadeiriau olwyn.
Dolenni defnyddiol
Accessible Countryside For Everyone: Adnodd gwych i ddarganfod mwy o wybodaeth am leoedd hygyrch yn y DU.
Information Now: Erthygl gyda dolenni i ddod o hyd i'r toiledau cyhoeddus agosaf, gan gynnwys toiledau i'r anabl a'r rhai sy'n rhan o RADAR/Cynllun Allwedd Cenedlaethol.
Tourism For All: Cyfeiriadur mwyaf y DU o lety a theithio hygyrch.
Cyngor Powys: Gwybodaeth am lwybrau awyr agored hygyrch, gweithgareddau, llogi beiciau wedi'u haddasu a llety ym Mhowys.