Mae Aberystwyth, neu 'Aber' i bawb yn lleol, yn eistedd ar arfordir gorllewinol gogledd Ceredigion. Mae'r dref yn gartref i'r pier hynaf yng Nghymru, ac ar ben gogleddol y promenâd fe welwch chi Graig-glas. Ar ddiwrnod heulog a chlir, mae'n werth dringo'r 430 troedfedd i fwynhau'r olygfa odidog o ben y bryn. Fodd bynnag, nid dim ond tirnodau enwog Aberystwyth sy'n gwneud y dref arfordirol glan môr yma mor arbennig.
Ces i fy ngeni a fy magu ym Mhenrhyncoch a Bow Street, sydd jyst tu fas i Aberystwyth. A dweud y gwir, mae fy rhieni'n dal i fyw yn y tŷ lle ces i fy magu. O edrych yn ôl, yn enwedig gan fy mod i'n byw lawr yn y de tu fas i Gaerdydd erbyn hyn, dw i'n teimlo'n lwcus iawn fy mod wedi tyfu lan yn yr ardal yna. Chi'n cael y gorau o ddau fyd, yr arfordir prydferth ar un ochr, a chefn gwlad Ceredigion o'ch cwmpas chi. Pan o'n i'n blentyn, oedd e'n teimlo fel maes chwarae enfawr – traethau, lle i nofio, pyllau glan môr, rheilffordd ar glogwyn, coetiroedd, y castell. O'n i wrth fy modd. Ac mae fy mhlant wrth eu boddau pan fyddwn ni'n mynd yn ôl i weld y teulu.
'Sdim rhyfedd bod yr ardal yn boblogaidd gyda thwristiaid. Mae teimlad tref glan môr hynafol iddi, sy'n apelgar i lawer o bobl dw i'n meddwl.
Dw i'n teithio tipyn ar hyd Prydain gyda fy nghomedi stand-yp. Weithiau, dw i'n teimlo fel fy mod i'n byw ar y ffordd. Fodd bynnag, mae gyrru'n ôl adre ar gyfer gwyliau'r Nadolig yn rhywbeth dw i'n ei drysori, nid yn unig achos fy mod i'n cael gweld teulu a ffrindiau, ond hefyd achos fy mod yn cael ailymweld â'r llefydd o'n i'n eu mwynhau fel plentyn, ac yn dal i'w mwynhau heddiw.
Fy mhrif ddiddordeb yw marchogaeth. Mae e fel math o feddwlgarwch i fi, felly mae'n hanfodol ymweld â Chanolfan Farchogaeth Rheidol. Dechreuais i farchogaeth dros 20 mlynedd yn ôl ac mae gen i atgofion melys o'r lle.
Mae marchogaeth yn arbennig o therapiwtig i fi. Mae rhywbeth arbennig am fynd allan ar gefn ceffyl i'r bryniau sy'n amgylchynu'r dref. Mae pob man mor dawel. Dw i'n teimlo fel y galla i anghofio am bopeth a chael lle i enaid gael llonydd gyda'r ceffyl a'r amgylchedd.
Mae'n sicr yn helpu bod cefn gwlad mor ogoneddus i'w gael o gwmpas Canolfan Farchogaeth Rheidol. Yn enwedig yr adeg yma o'r flwyddyn, pan mae'r gaeaf yn ei anterth, ac rydych chi'n gallu gweld eich anadl wrth i chi farchogaeth o dan y coed moel. Dyna un o fy hoff bethau.
Ar ôl taith hir, byddwn i wedyn yn mynd i Ynyslas, sef traeth a gwarchodfa natur i'r gogledd o Aberystwyth, gyda fy nghi er mwyn ymestyn fy nghoesau i a'i goesau e. Heb os, dyma yw fy hoff draeth yn y byd i gyd. Gallwch yrru yr holl ffordd at y tywod, a phan dw i yna, dw i bob amser yn cael fy llethu'n llwyr gan harddwch Ynyslas a'r dirwedd o'i hamgylch – mae'n rhywbeth wna i byth flino arno, er fy mod i wedi bod yn dod yma ers pan o'n i'n blentyn.
Dw i'n hoffi sefyll ar y traeth ac edrych allan ar draws yr aber tuag at bentref glan môr Aberdyfi. Cofiwch edrych i'r dde hefyd ac fe welwch chi'r mynyddoedd yn y cefndir yn diflannu i lawr y dyffryn. Hyd yn oed ar ddiwrnod diflas yn y gaeaf, mae godidowgrwydd Ynyslas yn dal i wenu arnoch chi.
Yn ddi-ffael bron, mae'r traeth a'r warchodfa natur yn wag yn ystod misoedd y gaeaf. Dw i'n meddwl mai'r adeg yma o'r flwyddyn yw fy hoff amser i fod yma, pan nad oes neb yma, mae mor heddychlon a thawel. Ond wedi dweud hynny, hyd yn oed yn anterth gwyliau'r ysgol a phan fydd cymeriad Aberystwyth yn newid yn llwyr dros yr haf, dyw Ynyslas byth yn teimlo'n rhy llawn. Mae'n lle arbennig.
Dros y deng mlynedd diwethaf, mae'r sîn fwyd yn Aberystwyth wedi ffrwydro – erbyn hyn, mae 'na gymaint o ddewis i'w gael. Mae gyda chi bopeth o fyrgyrs lleol Rattray Ceredigion ym mwyty Byrgyr i bizza, pasta a gril gyda blas Cymreig yn Baravin. Felly, ar ôl diwrnod o farchogaeth, neu gerdded ar hyd yr arfordir garw, mae digon o lefydd blasus i gynhesu yn Aberystwyth – un o fy hoff lefydd heb os ydy siop a bwyty Medina. Mae'r bwyty wedi'i guddio i lawr un o'r strydoedd oddi wrth y môr, ac mae'r bwyd heb ei ail. Dw i bob amser yn teimlo fel fy mod i wedi bwyta'n dda iawn pan fydda i'n mynd yna – maen nhw'n gweini amrywiaeth anhygoel o brydau cartref organig ffres, yn ogystal â'r detholiad mwyaf blasus o gacennau a danteithion melys. Pan fyddwch chi'n ymweld â'r lle, mae'n rhaid i chi flasu'r cyw iâr shawarma a'r sglodion courgette. Dyna fydda i'n ei ddewis fel arfer.
Dw i'n hoffi siopa a bwyta'n lleol pan fydda i'n gallu, felly mae'r ffaith bod Medina'n cael ei redeg yn annibynnol gan fenyw leol, o'r un enw, yn rheswm arall pam mai fan hyn yw un o fy hoff fwytai yn yr ardal. Yn ogystal â bod yn fwyty, mae Medina hefyd yn siop sy'n gwerthu cynnyrch Cymreig sy'n dod o'r ardal - popeth o jin a llysiau ffres gan gynhyrchwyr lleol, i fêl a gwin.
Os ydych chi am roi cynnig ar flasu gwin Cymreig lleol, dw i wedi clywed bod gwin pefriog Gwinllan Llaethliw , sydd tua hanner awr i ffwrdd o fan hyn, yn dda iawn, ond mae llawer o rai eraill i ddewis ohonyn nhw hefyd.
Dw i hefyd yn hoff iawn o'r Tŷ Coed, sy'n siop a chaffi organig sy'n defnyddio ac yn gwerthu cynnyrch lleol a thymhorol yn unig. Dyna'r lle hefyd i fynd i gael bocsys o lysiau wedi'u dosbarthu i'ch drws (neu gallwch eu casglu o'r siop) – sy'n ei gwneud hi'n haws fyth i gefnogi tyfwyr a ffermydd lleol.
Mae'n siŵr fy mod i'n unllygeidiog, ond mae 'na rywbeth arbennig am Aberystwyth. Efallai nad ydw i'n byw yma rhagor, ond yn Aberystwyth mae 'nghalon i'n dal i fod, a phan fydda i'n mynd adre, mae'n gwneud y profiad yn fwy arbennig fyth.