Canolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) yw’r math o le rydych chi wrth eich bodd yn dod i’r gwaith iddo. Mae’n fy ysbrydoli gymaint. Mae pawb sydd yma wir eisiau gofalu am ein planed. A gyda’r byd yn deffro i faterion fel newid hinsawdd, mae ein gwaith yn teimlo’n bwysicach nag erioed nawr.
Mae gan CAT ddyfodol cyffrous; rydyn ni’n edrych ar ffyrdd o ddatblygu’r profiad i ymwelwyr yn barhaus, ac mae gennym gynlluniau mawr ar y gweill.
Rydyn ni wedi bod yn gwneud hyn ers degawdau
Oesoedd cyn ei bod hi’n gyffredin i siarad am newid hinsawdd a byw’n gynaliadwy, sefydlwyd CAT gan grŵp o bobl ysbrydoledig yn ôl yn y 1970au. Bryd hynny, hen chwarel lechi segur oedd y safle.
Roedden nhw ar dân dros fyw mewn ffyrdd oedd yn fwy caredig i’r amgylchedd. Roedd eu gweledigaeth yn ymarferol ac yn radical ar yr un pryd. Roedden nhw eisiau rhoi syniadau ar waith. Ers hynny, mae’r safle wedi bod yn fan profi ar gyfer pob math o dechnoleg adnewyddadwy a syniadau eco, gan amrywio o osodiadau ynni adnewyddadwy cynnar i dyfu heb gemegau a strwythurau cymunedol cydweithredol.
Dros y blynyddoedd trawsnewidiwyd yr hen domen lechi ddiffaith yn dirwedd eithriadol o ffrwythlon sy’n cynnwys sawl cynefin.
Mae croeso i bawb
Mae CAT yn lle gwych i ddod â’r teulu cyfan i gael diwrnod o addysg ac antur.
Bydd plant wrth eu bodd yn darganfod, gan ddysgu am fyw a gweithio gyda natur wrth fynd heibio, gollwng stêm yn y cae chwarae antur a throi’u llaw at arddangosfeydd ymarferol am ddefnyddio a chynhyrchu ynni, ailgylchu a’r byd o dan ein traed. Ymysg ein digwyddiadau tymhorol ar gyfer eco-filwyr iau mae adeiladu ffau a gweld natur, crefftio a gweithdai ynni.
Mae arddangosfeydd rhyngweithiol, enghreifftiau gweithredol, teithiau tywys a llwybrau’n dangos syniadau ymarferol mewn ffyrdd hawdd eu deall.
ROB BULLENBydd plant wrth eu bodd yn darganfod, gan ddysgu am fyw a gweithio gyda natur wrth fynd heibio."
Mae ein lleoliad yn syfrdanol o hardd
Tra byddwch chi yma, cewch fwynhau cael eich amgylchynu gan ein hamgylchedd natur arbennig iawn. Lleolir CAT ynghanol Biosffer Dyfi, ardal o fioamrywiaeth unigryw a ddynodwyd gan UNESCO.
Mae yma 18 erw o goedwig a reolir yn gynaliadwy, a Llwybr y Chwarel yn mynd drwyddynt i’ch helpu i ddarganfod. Wrth i chi gerdded i fyny, byddwch chi’n mynd heibio i raeadrau, dolydd yn llawn o flodau a’r gronfa sy’n darparu ein holl ddŵr. Ar y copa ceir golygfeydd ysgubol ar draws y cwm i gyfeiriad y mynydd cyfagos – Tarren y Gesail.
Mae pobl wrth eu bodd hefyd yn crwydro drwy ein gerddi organig deiliog a blodeuog. A chewch ddigon o gynghorion defnyddiol hefyd, yn amrywio o gompostio a chadw hadau i syniadau am arddio mewn potiau ac arferion sy’n gyfeillgar i fywyd gwyllt.
Mae cyrraedd yma’n antur ynddo’i hun
I gyrraedd CAT, rydych chi’n mynd am dro ar ein trên bach anhygoel a bwerir gan ddŵr. Wrth i chi ddringo’n araf, dewch drwy’r coed i weld golygfeydd dros y wlad werdd ir, cyn cyrraedd ein canolfan i barhau â’ch antur.
Mae’r cyfan yn cael ei yrru gan ddŵr o’n cronfa. Mae’n cael ei bwmpio i danciau dan y cerbydau ar y ffordd i lawr gan ychwanegu pwysau. Byddan nhw’n tynnu’r cerbydau am i fyny wrth iddyn nhw ddisgyn. Pan fydd y cerbydau’n cyrraedd y gwaelod, pwmpir y dŵr allan o’r tanciau i Afon Dulas. Dyna i chi syniad clyfar!
Gallwch gerdded i fyny hefyd os yw’n well gennych – mae’n cymryd rhyw 10 munud. A lleolir mannau parcio anabl ar y copa, er mwyn osgoi cerdded.
ROB BULLENBydd pobl yn dod yma o bob cwr o’r byd i ddysgu sgiliau newydd."
Gallwch ddysgu mewn mwy o ddyfnder
Fel rhan o’r profiad o ddiwrnod yn CAT, gallwch archwilio’n ddyfnach drwy archebu un o’n Profiadau i Ymwelwyr fel Ditectifs Natur Teuluol a Garddio er budd Natur.
Ac os hoffech ymestyn eich addysg, cofrestrwch ar gwrs dydd neu gwrs preswyl byr. Maen nhw’n dysgu popeth allwch chi ei ddychmygu bron am fyw’n gynaliadwy – stwff ymarferol y gallwch chi fynd ag ef oddi yma a’i ddefnyddio. Ymysg y pynciau mae sut i adeiladu gan ddefnyddio clom a bêls gwellt, cyflwyniadau i systemau gwresogi solar a biomas, sut i gadw gwenyn, sut i greu toiled compostio a sut i reoli coedwigoedd.
Rydyn ni hefyd yn cynnal ein cyrsiau ar-lein Prydain Dim Carbon sy’n llawn dop o wybodaeth a thechnolegau profedig ar gyfer creu dyfodol dilys, ffyniannus carbon isel.
Mae cyrsiau’n llenwi’n gyflym, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi’n archebu’n gynnar! Os dewch i ymweld, ceir gwasanaeth gwybodaeth rhad ac am ddim ar gyfer ateb unrhyw gwestiwn penodol allai fod gennych.
Felly, dewch i ddysgu a chael eich ysbrydoli i wneud newidiadau cadarnhaol i’ch bywyd, boed drwy gyfrwng newidiadau bach wrth ddefnyddio ynni yn y cartref, neu hyd yn oed drwy benderfynu newid eich gyrfa’n llwyr!
Mwy o wybodaeth
Dysgwch sut allwch chi ‘ymuno â’r newid’ a dysgu mwy am ymchwil CAT, gwaith sydd ar y gweill, gweithdai a chyrsiau ar gynaliadwyedd ar wefan Canolfan y Dechnoleg Amgen.
Gwybod y newyddion diweddar am CAT drwy eu sianelau cyfryngau cymdeithasol: