Yn fynyddwr brwd neu’n feiciwr dewr, yn hanesydd craff neu’n fwytäwr mawr, mae Tregaron wedi denu ymwelwyr o bell ac agos ers blynyddoedd i brofi cyfoeth y dref. Roedd tyrfa fel nas gwelwyd o’r blaen Nhregaron yn ystod Eisteddfod Ceredigion 2022, ond tu hwnt i hwyl y brifwyl mae digon o ddigwyddiadau, atyniadau a chymeriadau i’ch hudo i Dregaron ar unrhyw adeg o’r flwyddyn.
Ymysg Lladron... ac eliffant!
Mae'n amhosibl dod i Dregaron heb ddysgu hanes un o feibion enwocaf y dref, sef y dihiryn chwedlonol, Twm Siôn Cati. I rai, fe oedd Robin Hood Cymru; yn dwyn gan y cyfoethog ac yn rhoi i’r tlawd. Cafodd Twm, neu Thomas Jones, ei fagu ym Mhorth y Ffynnon ar gyrion y dref, ac mae nifer yn honni iddo dreulio’r rhan helaeth o’i amser yn cuddio yn ei ogof yn y mynyddoedd rhag y rheiny oedd am ei waed! Mae straeon arwrol Twm Siôn Cati wedi’u hadrodd mewn sawl nofel gan T. Llew Jones, a heddiw fe welir cofeb iddo ar sgwâr y dref. Ac os gwelwch ddyn mewn clogyn coch, het a mwgwd du yn crwydro’r strydoedd, peidiwch â phoeni - nid yw Twm Siôn Cati wedi atgyfodi! Mae dyn lleol, Dafydd Morgan, yn dynwared y dihiryn, ac yn cadw ysbryd Twm yn fyw o hyd.
Un o feibion eraill y dref sydd wedi haeddu ei le ar y sgwâr yw'r 'Apostol Heddwch' Henry Richard o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn rhinwedd ei waith gyda’r Gymdeithas Heddwch, fe drefnodd gyfres o gynadleddau heddwch pwysig ar draws Ewrop. Yn 1893, fe godwyd cofgolofn ohono ar y sgwâr; yn annerch trigolion y dref gyda’i gefn tuag at dafarn Y Talbot!
Mae tafarn a gwesty Y Talbot yn ganolbwynt i'r dref, ac yn chwarae rhan bwysig yn ei hanes. O flaen y Talbot fyddai'r da byw yn cael eu casglu cyn cychwyn ar daith hir y Porthmyn dros Fynyddoedd y Cambria, i’w gwerthu ym marchnadoedd mawr Lloegr. Ac wrth gwrs, wrth sôn am Y Talbot, rhaid cyfeirio at chwedl yr eliffant. Y gred yw bod syrcas wedi dod i’r dref, a bod eliffant wedi yfed dŵr gwenwynig o afon gerllaw. Bu farw’r eliffant, cyn cael ei gladdu o dan y gwesty. Nid oes esgyrn eliffant wedi’u darganfod hyd yma, ond mae’r stori’n parhau i ysbrydoli sawl paentiad, phrosiect a ffilm hyd yn oed!
Am dro...
Er yn wledig mae Tregaron o fewn cyrraedd i nifer o lefydd sy'n werth ymweld â nhw; tref brifysgol Aberystwyth ryw bymtheg milltir i’r gogledd, a thref glan môr Aberaeron ryw bymtheg milltir i’r de.
Mae taith o gwmpas Gwarchodfa Natur Genedlaethol Cors Caron yn braf i gael seibiant a mwynhau byd natur. O wylio’r barcutiaid coch yn hedfan uwchben, i weld ambell geffyl gwyllt yn crwydro'r gors, mae’n ardal o brydferthwch naturiol rhyfeddol.
Mae'r abaty canoloesol trawiadol Ystrad Fflur wedi’i lleoli ryw chwe milltir o Dregaron. Dyma fan gorffwys olaf cenedlaethau o dywysogion canoloesol Cymru, a dywedir bod y bardd mawr Dafydd ap Gwilym wedi’i gladdu o dan ywen yn y fynwent. Mae Arddangosfa Mynachlog Fawr ar safle'r ffermdy drws nesaf yn gyfle i ddysgu am hanes cymdeithasol ac amaethyddol yr ardal yn ogystal ag ymuno â chyrsiau a gweithdai amrywiol.
Ar ôl cael eich swyno gan hud yr abaty, yng ngeiriau Tecwyn Ifan - gallwch ddweud helo, a ffarwel yn ei dro, i Stesion Strata, a gwneud y daith draw at gapel mwyaf anghysbell Cymru, Soar y Mynydd, lle mae gwasanaethau’n dal i gael eu cynnal yn rheolaidd. Dyma ysbrydoliaeth darlun enwocaf yr artist lleol, Ogwyn Davies. Mae’r heol hon tuag at Abergwesyn yn boblogaidd ymysg modurwyr a seiclwyr sy’n mwynhau’r golygfeydd gwledig godidog. O'r fan hyn gallwch gychwyn ar eich taith am dro drwy Fynyddoedd Cambria.
Chwant bwyd wedi'r crwydro
Mae crwydro cefn gwlad Ceredigion yn codi chwant bwyd, ac mae digon o ddewis o lefydd i wledda! Mae'r gwesty eiconig Y Talbot yn cynnig bwyd a chwrw lleol o safon - a stafell wely i aros dros nos os yw un yn troi'n ddau a'r awydd i aros yn cydio! Dafliad carreg o’r Talbot mae bwyty modern Y Banc, sydd - fel mae’r enw’r awgrymu - wedi’i leoli yn yr hen fanc.
Me Caffi Hafan Rhiannon yn cynnig lluniaeth ysgafnach, yn ogystal â chaffi'r Riverbank sy'n gwneud coffi da a chinio blasus. Mae becws Coffi a Bara sy'n weddol newydd i’r dref, yn cynnig danteithion melys a bara ffres yn ddyddiol.
Neu os yn chwilio am lond bola go iawn, yna têcawe Tregaron, neu Pasha’s fel y mae’n cael ei alw’n lleol, yw’r lle i fynd. Maent yn enwog am eu bwydydd cyflym a’u heriau bwyta prydau anferth - y lle perffaith ar ôl noson hwyr!
Gemwaith a gwlân
Mae perlau o siopau annibynnol i'w darganfod yn y dref. Does dim gwaith dyfalu beth sydd ar werth yn Anrhegaron, ac mae blancedi gwlân Jane Beck yn hynod boblogaidd hefyd. Roedd y diwydiant gwlân yn allweddol i’r dref unwaith, gydag ardal Doldre yn adnabyddus am eu cynnyrch yn lleol ac yng nghymunedau glo y de.
Ond y siop enwocaf mae'n siŵr yw siop ac oriel Rhiannon, cartref Canolfan Aur Cymru. Mae patrymau Celtaidd gemwaith trawiadol Rhiannon Evans, sy'n aml wedi eu hysbrydoli gan chwedlau Cymreig, yn adnabyddus trwy Gymru a thu hwnt - ac mae'n ddigon posibl y byddwch yn dod ar draws Rhiannon ei hun wrthi’n creu ei champweithiau yn ei gweithdy.
Mae'r trefi Llanbedr Pont Steffan ac Aberystwyth hefyd yn agos ac yn cynnig mwy o siopa annibynnol a diddorol.
Tre’ fach â sŵn mawr
Ar wahân i’r Eisteddfod Genedlaethol, mae digon o ddigwyddiadau eraill i ddenu pobl i’r dref yn flynyddol. Ym myd cerddoriaeth, mae rhai o fandiau amlycaf Cymru yn rocio yng ngŵyl gerddorol Tregaroc, a gynhelir bob mis Mai o gwmpas tafarndai’r dref. Neu os yn cael eich denu gan adrenalin, beth am roi cynnig ar Ras Cors Caron. Cewch amrywiaeth o dan draed; gwlypter y gors, caledwch y concrit, a rwbel yr hen reilffordd. Neu os yw gwylio’n apelio’n fwy na chymryd rhan, mae’r clwb trotian lleol yn cynnal rasys sy’n llawn cyffro, ceffylau a chwys!
Felly dewch, boed haf neu aeaf, i dref hynafol, gartrefol Tregaron. Efallai ei bod yn fach o ran maint ac yn fach o ran poblogaeth, ond mae yma gyfoeth o hanes a thraddodiadau. Heb os, mae hon yn dre’ fach sydd â sŵn mawr!