O’r ddinas i'r môr rhwng Caerdydd a Phenarth
Mae Caerdydd yn ddinas wych, ond wyddoch chi am y bywyd gwyllt a'r rhaeadrau yn y cyffiniau?
Mae’r ardal hon yn gartref i 14 milltir o Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Mae’r mewndir yn gymysgfa o fryniau a ffyrdd gwledig, trefi marchnad prysur eglwysi a chestyll difyr. Mae’n gartref i gyrchfannau glan môr enwog Ynys y Barri a Phorthcawl a thri dyffryn godidog Pen-y-bont ar Ogwr, sef Dyffryn Llynfi, Dyffryn Garw a Dyffryn Ogwr. Cerddwch ymysg rhai o dwyni tywod uchaf Ewrop, syrffiwch ar rai o donnau gorau Cymru neu fynd i chwarae ar un o gyrsiau golff mwyaf blaenllaw’r byd. Cewch ddod i adnabod cymeriad ardal sy’n gyfoethog o hanes – sy’n agos i Gaerdydd, prifddinas gosmopolitan Cymru. Mae rhywbeth i bawb yma, gweithgareddau awyr agored, ymchwilio i chwedlau lleol a mwynhau bwydydd a diod gwych.
Mae Caerdydd yn ddinas wych, ond wyddoch chi am y bywyd gwyllt a'r rhaeadrau yn y cyffiniau?
Wrth ddefnyddio ein gwefan, ry'ch chi'n cadarnhau eich bod yn derbyn ein Telerau ac Amodau
By answering a few questions, we'll give you the chance to win £500. By doing so you will also help us improve this website and help with your holiday planning and travel needs.
Good for you. Good for us. Teamwork!