Ar ddiwrnod braf, cewch amser hamddenol yn mynd am dro rhwng holl fwrlwm Caerdydd a thref lan môr brydferth Penarth, gan weld golygfeydd hyfryd o’r arfordir ac ymweld â safleoedd treftadaeth sy’n cadw hanes yn fyw.
Tro bach am chwe milltir o gwmpas y bae
Mae’r llwybr o un pen o’r bae i’r llall yn chwe milltir ar ei hyd, ac mae’n ffordd braf i’w cherdded. Fe welwch chi bob math o bethau ar eich taith, gan gynnwys yr Eglwys Norwyaidd a gludwyd yr holl ffordd o Norwy er budd y morwyr Llychlynaidd a weithiai yn nociau Caerdydd yn y 1860au, cerflun er cof am Gapten Scott gerllaw’r man y lansiodd ei long Terranova ym 1910, heb sôn am Warchodfa Gwlyptiroedd Bae Caerdydd.
Dyma le campus i rai sy’n hoff o wylio adar, ond ceir pob math o fywyd gwyllt o gwmpas y llyn dŵr croyw a ffurfiwyd pan gwblhawyd y Morglawdd yn 2002, sy’n galluogi pobl i fwynhau byd natur ar gyrion y ddinas. Os ydych chi’n graff fe gewch gip ar Gylchoedd y Morglawdd – darn o waith celf diddorol gan yr artist o’r Swistir, Felice Varini, sy’n datgelu cyfres o gylchoedd consentrig perffaith pan fyddwch chi’n sefyll yn y lle iawn – mae marc melyn ar y llawr i’ch helpu.
Gweld y golygfeydd
Mae'r adeiladau yn werth eu gweld, hefyd: y Tŵr Dŵr, er enghraifft, lle mae’r dŵr yn llifo 70 troedfedd o’r pen i’r gwaelod (efallai’ch bod wedi’i weld yn Torchwood ar y BBC), neu’r Senedd, pencadlys y Cynulliad ers 2006. Hwyrach mai dyma’r adeilad seneddol mwyaf eco-gyfeillgar yn y byd, wedi’i adeiladu â defnyddiau traddodiadol Cymreig gyda simne fawr arbennig yn y to sy’n tynnu aer twym o’r siambr islaw.
Dysgwch am hanes rhyfeddol y dociau yn y Pierhead – adeilad rhestredig Gradd I gyda chanolfan ymwelwyr, amgueddfa a thŵr cloc. Dafliad carreg i ffwrdd mae Roald Dahl Plass, sgwâr a enwyd ar ôl yr awdur enwog, lle cynhelir pob math o weithgareddau yng nghysgod mawreddog Canolfan y Mileniwm. Fe ddewch o hyd i ganolfan wyddoniaeth Techniquest nid nepell o’r fan hon, ac mae llawer o bethau eraill i’w darganfod hefyd – heb sôn am y wefr o rafftio yn y dŵr gwyn yng nghanolfan Olympaidd Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.
Penarth
Bydd arnoch angen mynd dros Bont y Werin i gyrraedd Marina Penarth, ac fe welwch olygfeydd trawiadol o’r fan honno. Agorodd y bont yn 2010, ac ar ei hyd mae cerfluniau urddasol o fabolgampwyr mawr Cymru ar bob ochr, ac mae’r bont yn medru symud i adael cychod mawr i fynd heibio.
Os bydd hynny’n codi awydd arnoch i fynd ar y môr, mae digon o gychod i fynd â chi o gwmpas y Bae o Bier Penarth, neu gallwch chi ddal tacsi dros y dŵr yn ôl ble daethoch chi, a chael golwg wahanol ar yr hyn a weloch ar eich taith yma. Ble bynnag yr ewch chi, gallwch ymlacio mewn steil yn y Bae, sy’n adnabyddus am y bwyd a diod bendigedig, yn ogystal â’r siopau, yr orielau a’r parciau. Mae’n lle gwych i hamddena yng ngwynt y môr.