Y ddinas
Yng Nghasnewydd gallwch gerdded o un pen o'r ddinas i'r llall mewn cwta ddeng munud - neu'n hirach os treuliwch chi rywfaint o amser yn yr eglwys gadeiriol neu’r amgueddfa ac oriel gelf.
Fe welwch chi lawer o waith celf diddorol mewn mannau cyhoeddus, gan gynnwys cerflun er cof am y bardd WH Davies, 'Supertramp' Casnewydd, a gyfansoddodd y cwpled enwog, ‘What is this life if, full of care, we have no time to stand and stare.’
I'ch difyrru, mae Canolfan Casnewydd yn cynnig pwll nofio, meysydd chwarae a neuadd gerddoriaeth sy'n dal dwy fil o bobl. Mae Theatr Glan yr Afon yn cyflwyno amrywiaeth o gomedi, opera, dawns, cerddoriaeth a drama, yn ogystal â chaffi a bar braf iawn lle gallwch eistedd y tu allan ar lannau Afon Wysg.


Yn dilyn buddsoddiad diweddar mae’r farchnad Fictoraidd draddodiadol bellach yn gartref i nifer o siopau bwtîc annibynnol a stondinau bwyd stryd. O gyris i brydau Groegaidd, o goctels i gwrw o Gymru, dewis yw’r gamp.
Mae Casnewydd yn adnabyddus fel tref y Siartwyr, mudiad gweithwyr yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a fu'n ymgyrchu dros ddiwygiad gwleidyddol. Yn fwy diweddar mae'r ddinas wedi gadael ei stamp ar ddiwylliant cyfoes: tyfodd y grŵp rap afreolus Goldie Lookin’ Chain o dan ddylanwad diwylliant anarchaidd strydoedd Casnewydd, ac yn ôl y sôn gofynnodd Kurt Cobain i Courtney Love ei briodi yng nghlwb roc chwedlonol TJ’s.
Mae Casnewydd wedi cyfrannu'n sylweddol at dirwedd cerddoriaeth Cymru ers degawdau, a hynny diolch i nifer o leoliadau cerddoriaeth annibynnol. Yn Le Pub a'r Corn Exchange fe gewch chi gyfuniad bywiog ac amrywiol tu hwnt o berfformiadau. Cofiwch alw yn Diverse Vinyl i bori'r casgliad o recordiau prin a phoblogaidd.
Tŷ Tredegar
90 erw o erddi hyfryd, ac yn ôl pob tebyg dyma'r plasty gorau ym Mhrydain o gyfnod Siarl II yn yr 17eg ganrif. Mae'n bleser o'r mwyaf i gael treulio diwrnod yn crwydro o amgylch y plasty brics coch a'r gerddi eang.
Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sydd bellach yn gyfrifol am Dŷ Tredegar, a adeiladwyd gan deulu pwerus y Morganiaid, tirfeddianwyr lleol a ddaeth yn Arglwyddi Tredegar – ond mab enwocaf y teulu oedd y môr-leidr, Syr Harri Morgan (1635-1688). Roedd un arall o'r meibion, Godfrey, yn arwr yn y fyddin a oroesodd Ymosodiad y 'Light Brigade' yn Rhyfel y Crimea. Yn rhyfeddol, daeth ei geffyl Sir Briggs drwyddi hefyd, gan fyw tan oedd yn 28 oed. Claddwyd y ceffyl yn yr Ardd Gedrwydd.
Y tu mewn i'r tŷ gellir olrhain ei hanes fel plasty crand yn yr 17eg ganrif ac ymlaen i gyfnod urddasol Oes Fictoria a'r partïon gwyllt yn y 1930au y bu cymaint o sôn amdanynt.
Ym 1906 adeiladodd y Morganiaid y Bont Gludo gerllaw, un o ddim ond wyth pont o'r fath yn y byd. Fe'i codwyd i gludo nwyddau dros Afon Wysg mewn wagen, sy'n hongian ar reilen ddigon uchel i longau fedru hwylio oddi tani. Mae'n ddigon o ryfeddod, ac mae'n gweithio hyd heddiw - a gallwch yrru'ch car drosti am bunt.



Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd
Mae gwlyptiroedd Aber Hafren yn ymestyn am 100 cilomedr sgwâr. Fe'u gelwir yn Lefelau Gwent ac yn raddol mae pobl wedi bod yn adfer y tir o dan y tonnau ers miloedd o flynyddoedd. Bu hynny'n dda i'r adar hefyd, ac erbyn heddiw dyma un o'r safleoedd pwysicaf o ran bywyd gwyllt yng Nghymru.
Sefydlwyd Gwarchodfa Gwlyptiroedd Casnewydd fel cynefin i'r adar oedd yn arfer heidio ar draethau lleidiog Bae Caerdydd cyn adeiladu'r Morglawdd yn y 1990au. Dros 438 hectar o dir mae'r ehangder o gorsydd, merllynnoedd, glaswelltir gwlyb a phrysgwydd wedi denu amrywiaeth hyfryd o adar, ac efallai y gwelwch chi degeirian yn blodeuo, iâr fach yr haf neu was y neidr yn gwibio yma ac acw, neu ddyfrgi'n codi'i ben o'r dŵr.
Fe welwch chi wahanol fathau o adar ar wahanol adegau o'r flwyddyn, gan gynnwys titwod barfog, pigau mynawyd, adar y bwn, adar dŵr rif y gwlith, bodaod y wern a hebogiaid tramor.


Amgueddfa Genedlaethol Caer Rufeinig Caerllion
Safai Cymru ar gyrion pellaf yr Ymerodraeth Rufeinig, ac ym mlwyddyn 75 adeiladodd y Rhufeiniaid gaer yng Nghaerllion, ychydig filltiroedd o Gasnewydd, lle buont yn cadw golwg ar yr ardal am dros ddau gan mlynedd.
Roedd hon yn un o ddim ond tair caer barhaol a gododd y Rhufeiniaid ym Mhrydain, a dyma ble'r oedd yr Ail Leng Awgwstaidd yn byw. Câi'r pum mil o filwyr a marchogion ddigon i'w difyrru, gan gynnwys amffitheatr, baddonau, siopau a themlau. Wrth fynd I Amgueddfa Genedlaethol Caer Rufeinig Caerllion cewch fentro y tu mewn i'r hyn sy'n weddill o'r gaer, a gweld yr adfeilion mwyaf cyflawn ym Mhrydain o amffitheatr Rufeinig, a'r unig adfail o farics Llengfilwyr Rhufain a welwch chi yn Ewrop. Mae'r amgueddfa hefyd yn cadw casgliad o hanner miliwn o wrthrychau o'r ceyrydd Rhufeinig yng Nghaerllion (Isca) a Brynbuga (Burrium).
Tra boch chi yng Nghaerllion, mae'n werth crwydro o amgylch y dref – mae'n lle bach braf gyda digonedd o dafarndai da, bwytai ac ystafelloedd te, gyda chanolfan gelf a chrefft y Ffwrwm ymhlith y goreuon.


Tiny Rebel
Cwrw Casnewydd. Mae'r cwrw a'i ddyluniadau chwareus i'w weld ar hyd y wlad bellach, ond ar gyrion Casnewydd mae prif fragdy Tiny Rebel hyd heddiw. Mae bwyty yma, ac un o giniawau Sul gorau de Cymru! Cadwch lygaid ar galendr digwyddiadau'r bragdy am wyliau cwrw, sesiynau blasu a cherddoriaeth fyw.
Canolfan y Pedwar Lloc ar Ddeg
Roedd mawrion byd diwydiant yn y ddeunawfed ganrif mewn penbleth ynglŷn â sut i gludo cymaint o lo, haearn, calch a brics yr holl ffordd o'r Cymoedd i ddociau Casnewydd. I ddatrys y broblem agorwyd Camlas Sir Fynwy, ond roedd y bryniau o amgylch Casnewydd yn dal i beri rhwystr sylweddol wrth geisio goresgyn yr 11 milltir yng Nghrymlyn.
Cwblhawyd y Pedwar Lloc ar Ddeg ym 1799, ac mae'n un o'r enghreifftiau gorau yn y byd o ddyfeisgarwch peirianwyr y cyfnod. Yma mae lefel y dŵr yn codi 50 metr, gyda chyfres o byllau, llifddorau a choredau'n ffrwyno llif y dŵr. Mae'n dawel yma erbyn heddiw, ac mae'n hyfryd mynd am dro ar lan y gamlas a mwynhau cefn gwlad a byd natur, gan gynnwys Gwarchodfa Natur Allt-yr-Ynn.
Wrth grwydro ymhellach…
Mae’n hawdd cyrraedd Casnewydd ar drafnidiaeth gyhoeddus o fannau eraill o Gymru a thu hwnt, sy'n un o'r rhesymau pam y cynhelir digwyddiadau byd-eang yn y ddinas fel Cwpan Ryder ac uwchgynhadledd NATO (rheswm arall yw moethusrwydd pur Celtic Manor Resort).
Mae'n lle hawdd ei gyrraedd felly, ac yna mae'n hawdd mynd o le i le. Mae Caerdydd ugain munud i ffwrdd yn y car neu ar drên, ac yno fe gewch bopeth y gallwch ei ddisgwyl mewn prifddinas Ewropeaidd. Teithiwch am hanner awr tua'r gogledd i weld Sir Fynwy ar ei gorau, gan ymweld â bwytai rhagorol a threfi marchnad braf fel Trefynwy, Brynbuga a'r Fenni, a gweld cestyll godidog yn Rhaglan, Cil-y-coed a Chas-gwent, wrth sefyll ar drothwy Dyffryn Gwy.
Gan gofio fod cyfoeth Casnewydd wedi dod o allforio glo a haearn, mae'n werth i chi weld ble cafodd y rheiny eu cloddio a'u gwneud – yn enwedig Gwaith Haearn Blaenafon a Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru.

