Mae wyth prifysgol ar draws y wlad a channoedd o gyrsiau i ddewis ohonynt. O’r Coleg ar y Bryn i’r Coleg ger y Lli, dyma flas ar fywyd ym mhrifysgolion Cymru gan y rheini sy’n nabod pob twll a chornel o’r trefi a’r dinasoedd - y myfyrwyr.
Bangor
Rhwng mynyddoedd Eryri a’r Fenai mae’r ddinas fechan a bywiog, Bangor. Mae dinas hynaf Cymru yn cyfuno hanes difyr ag awyrgylch fodern - o golofnau gothig a ffenestri lliw Cadeirlan Bangor i gelfyddyd fodern Storiel a Pontio. Mae dro ar bier Fictoraidd y Garth yn cynnig golygfeydd hyfryd ar hyd y Fenai a draw am Fôn.
Mae Prifysgol Bangor yn cynnwys tri choleg sy’n gartref i 14 ysgol academaidd, yn amrywio o’r celfyddydau i ddyniaethau a gwyddorau. Mae’r gymuned fechan o tua 11,000 o fyfyrwyr yn gwneud Bangor yn gampws cyfeillgar ac agosatoch.
Dewis Celt John - Myfyriwr Cymraeg a Cherddoriaeth a Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB) o 2022 i 2024.
- Bwyd da a rhesymol - Mike’s Bites, Bwyd Da Bangor, Blue Sky
- Pryd arbennig - Jones’ Pizza
- Diod - Tafarn y Glôb
- Dawnsio - Clwb Nos Trilogy
- Gwylio gig - Neuadd Bryn Terfel, Pontio
- Gweithio - Llyfrgell Shankland, Prifysgol Bangor
- Am dro - Y Gwersyll Rhufeinig, Y Pier, llwybr i Bont Menai
- Hoff le - Gwylio’r haul yn gwawrio o ben y Gwersyll Rhufeinig
Wrecsam
Croeso i Wrecsam - dinas ddiweddaraf Cymru! Yma mae hwb celfyddydol Tŷ Pawb a thafarn gymunedol y Saith Seren yn ofodau cymunedol croesawgar, FOCUS Wales yn denu miloedd bob blwyddyn i ddathlu talent Cymru law yn llaw ag artistiaid rhyngwladol, ac amgueddfa newydd fydd yn dathlu pêl-droed Cymru yn cael ei ddatblygu. Mae'n hawdd gweld pam bod Wrecsam yn taro deuddeg gydag ymwelwyr - gan gynnwys sêr Hollywood!
Er bod Prifysgol Wrecsam yn weddol fach, mae ganddi bedwar campws yng Ngogledd Cymru. Mae'r brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn y gymuned leol, gan gydweithio â busnesau a sefydliadau i hybu cyfleoedd economaidd a chymdeithasol yn yr ardal. Mae'n lle delfrydol i fyfyrwyr sy'n chwilio am addysg o safon uchel mewn dinas fechan a chroesawgar.
Aberystwyth
Aberystwyth, neu 'Aber', y dref enwog sy’n swatio rhwng Mynyddoedd Cambria a Bae Ceredigion. Mae promenâd Fictoraidd Aberystwyth yn ymestyn am filltir ar hyd yr arfordir, Craig-glais yn cynnig golygfeydd panoramig o’r dref a’r Pier yn lle gwych i weld y drudwy’n dawnsio. Cofiwch roi cic i'r bar metal wrth droed Craig-glais - traddodiad poblogaidd gan drigolion a myfyrwyr y dref.
Sefydlwyd Prifysgol Aberystwyth yn 1872 - y brifysgol hynaf yng Nghymru. Dyma'r coleg cyntaf i dderbyn merched fel myfyrwyr, cynnig cartref i beth ddatblygodd yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a sefydlu cyrsiau arloesol mewn amaeth, cyfraith, daearyddiaeth, hanes Cymru a gwleidyddiaeth ryngwladol.
Dewis Elain Gwynedd - Myfyriwr Cymraeg (2020-2023), aelod o UMCA a’r Geltaidd a bellach yn gweithio’n llawn amser yn Undeb Aberystwyth.
- Bwyd da a rhesymol - Brecwast yng nghaffi Sophie’s a chinio yn Y Gornel
- Pryd arbennig - Bwyty Eidalaidd eiconig Little Italy
- Diod - Peint ar y Pier wrth iddi fachlud - lyfli!
- Dawnsio - Academi a Pier Pressure
- Gwylio gig - Y Cŵps
- Gweithio - Caffi Y Caban neu’r Llyfrgell Genedlaethol - mae’r ystafell waith yn y llyfrgell ei hun yn anhygoel ond mae’n braf eistedd tu allan ar y meinciau o flaen y llyfrgell pan mae’r haul allan.
- Am dro - Pen Dinas neu Pontarfynach
- Siopa - Siop Inc am lyfrau ac Andy’s Records - ‘dw i’n treulio lot o amser yn fama!
- Hoff le - Yr Hen Lew Du - tafarn Gymraeg Aber a hafan UMCA + ar ben Consti. Does na’m byd yn curo gwylio’r machlud/wawr o fama
Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant
Mae hanes Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn cychwyn yn ôl yn 1822, pan sefydlwyd campws yn Llanbedr Pont Steffan. Dyma fan geni addysg uwch yng Nghymru, a Siarter Frenhinol 1828 y Brifysgol yw’r hynaf o holl sefydliadau Cymru. Heddiw, mae gan y brifysgol gampws yn Abertawe, Caerfyrddin, Llanbedr Pont Steffan, Caerdydd, Llundain a Birmingham.
Dewis Cymdeithas Gymraeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, Campws Caerfyrddin
- Bwyd da a rhesymol - Cofio Lounge
- Pryd arbennig - Florentinos, Grain neu Dexters
- Diod - The Vaults neu The Friends Arms
- Dawnsio - XO neu Savannas
- Gweithio - Yr Egin neu Llyfrgell y Brifysgol
- Am dro - Llansteffan, Dinefwr, neu Coed Ystrad
- Siopa - Llawer o siopa yn St Catherine's Walk ac mae 925 Treats yn wych am anrhegion a chynnyrch Cymreig
- Hoff le - Cae pêl-droed Richmond Park
Abertawe
Mae anturiaethau awyr agored a bywyd dinesig bywiog yn mynd law yn llaw yn Abertawe. Mae ail ddinas fwyaf Cymru wedi ei lleoli ar yr arfordir ac mae Ardal o Harddwch Naturiol Gŵyr o fewn tafliad carreg. Yn y ddinas ei hun gellir dod o hyd i fan geni Dylan Thomas ar Cwmdonkin Drive, ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn yr Ardal Forwrol.
Sefydlwyd Prifysgol Abertawe yn 1920. Mae ganddi ddau gampws - Parc Singleton yn edrych dros draeth Bae Abertawe a Champws y Bae ar y traeth i’r dwyrain. Mae gan y ddinas fywyd cymdeithasol bywiog gyda 120 o gymdeithasau a 40 o glybiau chwaraeon.
Dewis Carys Dukes, Myfyriwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Chyfryngau (2021-2024), aelod o'r GymGym a bellach yn gweithio fel Swyddog Materion Cymraeg Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe 2024-25
- Bwyd da a rhesymol - Sglodion llawn cyw iâr tica a chaws parmesan o Founders & Co
- Pryd arbennig - Muswanna am fwyd Asiaidd anhygoel
- Diod - Peint yn ardd dafarn y Wig and Pen
- Dawnsio - Efo'r genod yn y gegin neu lawr Stryd y Gwynt, enwedig yn Jack Murphy's
- Gweithio - Llyfrgell gyfraith ar Gampws Singleton - yn enwedig pam mae'n heulog oherwydd mae'r ffenestri mawr yn anhygoel
- Am dro - O draeth Abertawe i'r Mwmblws
- Siopa - Tŷ Tawe sy'n llawn anrhegion Cymraeg prydferth
- Hoff le - Traeth Rhosili, Gŵyr
Caerdydd
Ein prifddinas fywiog a chyfoes - does dim syndod fod Caerdydd yn denu miloedd y fyfyrwyr bob blwyddyn. Mae Caerdydd llawn henebion hanesyddol fel Castell Caerdydd a'r Pierhead, yn ogystal ag atyniadau sy’n dathlu diwylliant a threftadaeth Cymru fel Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, Senedd Cymru, Amgueddfa Werin Sain Ffagan a Chanolfan Mileniwm Cymru. Mae sîn fwyd annibynnol gwych yno, gyda sawl pryd rhesymol a blasus ar gael ym Marchnad Caerdydd, llu o siopau bach annibynnol yn Arcedau Fictoraidd y ddinas ac mae Bae Caerdydd yn boblogaidd am bryd neu ddiod ger y dŵr.
Mae tair prifysgol wedi eu lleoli yng Nghaerdydd. Prifysgol Caerdydd yw’r sefydliad mwyaf o’i fath yng Nghymru a’r 10fed brifysgol fwyaf yn y DU, gyda 300 o gyrsiau gradd wedi’u rhannu ar draws 20 o ysgolion. Mae gan Brifysgol Metropolitan Caerdydd ddau gampws - Campws Llandaf a Champws Cyncoed, gydag arbenigedd mewn chwaraeon. Mae gan Brifysgol De Cymru dri champws yn Ne Cymru, gydag un yng Nghaerdydd a’r ddau arall yng Nghasnewydd a Phontypridd.
Dewis Elin Angharad Huws - Myfyriwr Cymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, ac aelod o Aelwyd y Waun Ddyfal a’r GymGym.
- Bwyd da a rhesymol - Canna Deli a Milk & Sugar, Pontcanna
- Pryd arbennig - Dwi’n caru bwyd Eidalaidd felly mae Givoanni’s yn lle da ar gyfer pryd o fwyd Eidaleg neu Bacareto ar gyfer tapas steil Eidalaidd (a slushie Aperol!)
- Diod - Mae gan Nighthawks dewis da iawn o winoedd neu mae awyrgylch da yn Bootlegger a Gin and Juice.
- Dawnsio - Dwi’n mwynhau mynd i Live Lounge am bŵgi
- Gwylio gig - Clwb Ifor Bach di’r lle i fynd am gigs wrth gwrs!
- Gweithio - Mae gan y Sherman Theatre gaffi reit hawdd i ymlacio ynddo er mwyn mynd i neud ‘chydig o waith yno.
- Am dro - Dwi’n joio mynd am dro rownd Parc Biwt tuag at Gaeau Pontcanna ac yna nôl at y castell.
- Siopa - Mae gan Morgan’s Quarter dipyn o lefydd bach da i siopa.
- Hoff le - Fy hoff le yn y ddinas ydi Parc Biwt a Chaeau Pontcanna, yn enwedig yn yr hydref pan mae’r dail i gyd yn newid eu lliwiau.