Siopau coffi croesawgar
Ivor House, Stryd y Bont (Little Man Coffee) / 10 Tudor Lane (Little Man Garage)
Mae gan Little Man Coffee Company ddau leoliad yng Nghaerdydd – un yng nghanol y ddinas a'r Garage yng Nglan yr Afon. Mae'r gangen ganolog yn fanc wedi'i drawsnewid ac mae’n ofod golau â chynllun agored, sydd ar agor bob dydd (rhwng 8am a 5pm yn ystod yr wythnos). Mae'r Garage yn llai ond yn fwy clyd, gyda'r ardal eistedd i fyny'r grisiau a'r man paratoi coffi i lawr y grisiau. Dim ond yn ystod yr wythnos bydd ar agor (8am-12pm). Mae'r ddau leoliad yn boblogaidd gyda gweithwyr; y coffi a wneir yn grefftus a’r cacennau wedi'u pobi'n ffres yw'r tanwydd gorau ar gyfer gweithio’n galed ar y gliniadur.
13 Arcêd y Stryd Fawr
Wedi'i chuddio ar ben Heol Eglwys Fair Arcêd y Stryd Fawr, mae Corner Coffee yn siop goffi fach ond arbennig. Mae'n gwneud iawn am ei maint gyda’i choffi gwych, ei danteithion blasus a'i gwasanaeth cyfeillgar. Gyda waliau gwyn, ychydig iawn o addurniadau a dodrefn pren, mae'n ddihangfa dawel o'r prysurdeb. Mae byrddau bach i chi gael teipio’n ddiwyd, yn ogystal â llefydd i’w rhannu.
10-12 Arcêd Frenhinol
Mae'n debyg bod y siop goffi deuluol hon yn edrych yn llawer mwy cŵl na'r swyddfa arferol. Mae waliau brics agored, goleuadau wedi’u pylu, arwyddion neon a chymysgedd o seddi cyfforddus a phwrpasol yn ei gwneud yn lle perffaith i weithio ohono (a gwylio pobl os ydych chi'n diflasu). Mae'n mynd yn brysur yno, felly cadwch at y seddi yn y ffenestri os ydych chi eisiau lle gyda phlwg am ychydig oriau. Mae'r coffi wedi'i rostio yn rhostfa leol Uncommon Ground. Mae yna gic ynddo, sy'n berffaith pan fyddwch angen cadw’ch ymennydd i weithio.
Sawl lleoliad ar draws Caerdydd – ewch ar wefan Kin & Ilk am wybodaeth.
Gan barhau i ehangu i leoliadau newydd, mae Kin & Ilk yn gadwyn fach o siopau coffi cyfoes yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Mae pob lleoliad yn boblogaidd gyda gweithwyr o bell, gweithwyr proffesiynol yn cael cyfarfodydd anffurfiol a myfyrwyr, felly os ydych chi ar liniadur ni fyddwch chi’n edrych allan o le. Dim ond y ddwy brif siop (canolfan siopa Dewi Sant a Phontcanna) sydd ar agor ar benwythnosau, tra bod pob lleoliad ar agor erbyn 8am yn ystod yr wythnos. Os ydych chi'n mynd yn llwglyd, darllenwch y fwydlen brecinio trwy'r dydd.
Un Sgwâr Canolog, Wood Street
Cadwyn gaffi fach arall sy'n tyfu'n gyflym, mae Milk & Sugar yn canolbwyntio ar ddarparu llefydd pwrpasol gymaint ag y mae'n canolbwyntio ar ddarparu cynnyrch o safon. Mae rhai o'i siopau yng Nghaerdydd ar gau i'r cyhoedd gan eu bod mewn adeiladau swyddfa. Fodd bynnag, mae cangen y Sgwâr Canolog yn agored i bawb. Mae’n cael ei defnyddio i raddau helaeth gan weithwyr o fusnesau yn natblygiad y Sgwâr Canolog a’r ardal gyfagos, a bydd y wefr broffesiynol yn eich sbarduno i weithio'n galed wrth i chi yfed eich latte.
58 Stryd Bute
Os byddwch chi ym Mae Caerdydd, Quantum Coffee Roasters, sy’n cael ei redeg gan deulu, yw'r lle gorau ar gyfer sesiwn coffi a gliniadur. Mae'r silff ffenestr bwrpasol, sy'n ddigon dwfn i'ch llyfrau nodiadau, gliniadur a phaned, yn lle hyfryd i eistedd am awr neu ddwy. Mae yna amrywiaeth o fyrddau eraill hefyd, os oes angen sedd ychwanegol arnoch chi ar gyfer cyfarfod.
Llefydd cydweithio yng Nghaerdydd
Angen rhywle mwy parhaol i weithio ynddo? Mae gan Gaerdydd lawer o lefydd cydweithio i ddewis ohonynt, felly rydych yn siŵr o gael rhywle sy'n gweddu i'ch arddull waith a'ch anghenion. Dyma dri i ddechrau:
103 Stryd Bute
Gofod cydweithio golau, hamddenol wedi'i anelu at y diwydiannau creadigol, wedi'i osod ar lawr uchaf adeilad Fictoraidd. Mae desgiau i un wedi'u hadeiladu â llaw, desgiau poeth i’w rhannu a llawer o blanhigion tŷ yn llenwi’r brif ystafell cynllun agored. Mae'r aelodaeth yn dechrau o chwe diwrnod y mis, gan gynnwys mynediad i ystafell gyfarfod fach, cegin gymunedol a chyfarfodydd cymunedol.
Pendyris Street
Gofod cydweithio smart i’r rhai sy'n dymuno tyfu eu busnes. Mae'n dal dros 50 o gwmnïau ar wahanol gyfnodau o’u taith, gan ddenu gweithwyr proffesiynol yn y cymunedau digidol, creadigol a thechnoleg fel arfer. Gellir dechrau bod yn aelod gyda phasys dydd, gyda manteision yn cynnwys mynediad i ystafelloedd y gellir eu cadw, digwyddiadau datblygiad proffesiynol a'r Academi Dechrau Busnes.
7 Adeiladau Curran, Curran Road
Gofod cydweithio amlbwrpas i ddenu gwneuthurwyr, artistiaid ac unigolion sydd newydd ddechrau yn y maes creadigol. Wedi'i leoli mewn warws diwydiannol wedi'i addasu, mae ganddo wahanol lefydd i weddu i anghenion aelodau, gan gynnwys dros 20 stiwdio fforddiadwy wedi'u gwneud o ddeunyddiau wedi'u hadfer a gofod perfformio. Mae hyd aelodaeth yn amrywio yn dibynnu ar y lle sydd ei angen.