Mae yna ddigon o lefydd o gwmpas Caerdydd a’r Fro i fynd i gerdded ond un peth nes i sylweddoli ar ôl cael babi, oedd bod angen darganfod casgliad newydd o lwybrau – rhai sy’n addas i fynd â phram ac sydd ddim yn rhy bell o gyfleusterau fel tŷ bach a lle newid babi. Dyma gasgliad o lwybrau braf; maen nhw’n grêt ar gyfer mynd am dro, cael y babi i gysgu neu hyd yn oed i roi sialens i’ch hunain os ydych chi’n awyddus i fynd ati i ddechrau codi lefelau ffitrwydd yn raddol ar ôl cael babi.
Caeau Pontcanna
Er ei fod yn un byr, dyma fy hoff lwybr yng Nghaerdydd. Mae cerdded y llwybr yma’n ffordd dda o weld ychydig o fywyd gwyllt y ddinas, a gan fod rhesi o goed bob ochr i'r llwybr - yr holl ffordd i lawr at yr afon – mae’n fendigedig gweld y tymhorau’n newid fel y mae’r flwyddyn yn mynd yn ei blaen. Haul neu law, mae’r llwybr yma’n un da. Ar ddiwrnod o haf bydd y llwybr yn brysur ond gallwch fynd ‘off piste’ gan fod y caeau yn ddigon caled â’r gwair yn ddigon byr i fynd â phram drosto. Ar ddiwrnod glawog neu wyntog mae’n werth lapio i fyny, rhoi'r gorchudd glaw ymlaen a mynd i weld ffyrnigrwydd yr afon Taf o dan bont y Blackweir, mae ’na rywbeth therapiwtig am sefyll yno a syllu ar bŵer llif yr afon ar ôl iddi fod yn bwrw glaw.
Dw i’n teimlo ’mod i’n nabod y llwybr yma fel cefn fy llaw gan mai dyma’r ffordd roeddwn yn mynd wrth arwain sesiynau Bygi Heini. Byddwn yn dechrau’r sesiwn wrth gyfarfod wrth ymyl stafelloedd newid caeau Pontcanna (mae parcio am ddim yma am ddwy awr gyda llaw). Byddwn yn cerdded i'r chwith o’r stafelloedd newid ac yna’n troi i lawr am y llwybr i'r dde. Os ydych yn teimlo’n egnïol ac yn ddigon hyderus gallwch wneud pob math o ymarferion ar hyd y llwybr yma - yn ystod sesiwn byddem yn teithio i lawr at yr afon wrth wneud gwahanol ymarferion fel lunges cerdded a squats. Wrth gyrraedd yr afon, fe ddewch at fariau metel ac mae hwn yn lle delfrydol i wneud press-ups a tricep dips. Byddwn wedyn yn cerdded yn gyflym ar hyd yr afon gan droi i’r dde cyn cyrraedd Stadiwm Criced Caerdydd - roedd y llwybr yma yn arfer bod yn un caregog ond mae o wedi cael ei adnewyddu bellach ac yn grêt ar gyfer pramiau. Ar ben y llwybr byddwn yn troi i'r dde ar y groesffordd a cherdded yn ôl at y maes parcio. Mae opsiwn i barhau tuag at Gaeau Llandaf er mwyn cael paned a theisen yng Nghaffi Castan - mae pawb yn haeddu trît ar ôl gweithio’n galed!
Llwybr Parc Hamadryad
Mae’r llwybr yma yn un hamddenol ac yn grêt ar gyfer pram. Mae o yn un da i’w wneud os ydi’ch plentyn yn hoff o grwydro gan fod digon o le ar y caeau. Un o hoff bethau Canna ydi hel blodau llygad yr haul - mae ei chael hi yn ôl i'r pram ar ôl hyn yn gallu bod yn anodd! Y lle gorau i gychwyn ydi mynedfa'r parc ar ben lôn Clarence Embankment. Gallwch ddilyn y llwybr ar hyd y dŵr nes y byddwch o dan bont y drosffordd. Trowch i'r dde yma ac fe ddewch at lwybr yng nghanol tir cors. Gallwch grwydro lawr y jeti bach wrth ymyl y Clwb Hwylio i fynd i edrych am hwyaid ac adar a mwynhau'r olygfa dros y Bae. Dewch yn ôl ar hyd y jeti a dilyn y llwybr i gyfeiriad Gwesty Dewi Sant - fedrwch chi ddim ei fethu; mae ganddo do siâp gwylan enfawr. Wrth i chi gyrraedd y gwesty gallwch fynd ymlaen heibio’r gwesty am y dŵr a dilyn llwybr pren sy’n arwain at Techniquest. Mae hwn yn llwybr bach diddorol sydd ag ychydig o hanes - mae'r trac a’r craen yn dal i fod yno ers pan oedd y Bae yn ddociau a oedd yn allforio glo. Wrth i chi gyrraedd y Bae mae digon i’w weld yma! Dw i a Canna yn licio gorffen y daith hefo hufen iâ o Cadwaladers.
Ynys y Barri
Dyma daith dda i’w gwneud os ydych chi’n teimlo fel eich bod chi angen awyr iach a theimlo awel y môr. Mae hon yn cynnwys dipyn o allt - ffordd dda o ymarfer cardio os ydych yn hapus i gerdded yn eithaf cyflym. Ond mae’n rhaid i mi ddweud, mae’n well gen i gymryd fy amser ar y llwybr yma er mwyn mwynhau'r golygfeydd godidog.
Does dim angen llawer o gyfarwyddiadau ar gyfer y daith. Dechreuwch ar brom Ynys y Barri a dilynwch y llwybr i’r chwith. Mae ’na ddigon i’w weld ar hyd y prom a gallwch hyd yn oed gael tro ar wal fowldro os ydych chi’n teimlo’n anturus! Ar ôl gadael y prom dilynwch y llwybr ar hyd yr arfordir nes y byddwch yn cyrraedd traeth bach. Lle da i ddod a’r un bach allan i chwarae yn y tywod neu i roi ei draed yn y dŵr gan fod y traeth yma fel arfer yn fwy distaw na phrif draeth Ynys y Barri. Dilynwch y llwybr yn ôl yr un ffordd ac mae ’na ddigon o ddewis o siopau hufen iâ neu baned os ’da chi ffansi un i orffen.
Taith Llam yr Eogiaid
Yn wahanol i'r llwybrau eraill, tydi Taith Llam yr Eogiaid ddim yn un addas i’w ’neud hefo pram - mae’r daith yma yn un da i’w gwneud hefo cariwr babi. Er ei bod hi fel arfer yn disgyn i gysgu hanner ffodd, mae fy merch deunaw mis wrth ei bodd gyda’r daith yma. Gan fod y llwybr yn mynd drwy gaeau, dros afonydd a thrwy goedwigoedd mae ’na ddigon o bethau i’w gweld.
Mae hon yn daith dda os ’da chi ffansi sialens fach. Mae pwysau’r cariwr, ychydig o lethrau â’r ffaith fod y daith lawn yn bum milltir o hyd yn gwneud y llwybr hwn yn fwy heriol na’r llwybrau eraill ond mi fyddwch chi yn teimlo’n grêt ar ôl gorffen. Mi fyddwn ni bob tro yn pacio picnic cyn gwneud y daith yma ac mae ’na ddigon o lefydd ar hyd y ffordd i eistedd a chael seibiant.
Mae’r llwybr ei hun yn cychwyn ym mhentref Dinas Powys a byddwn ni fel arfer yn cychwyn o’r Clwb Golff sydd wedi’i leoli heibio Capel Ebeneser. Ewch i’r dde wrth adeiladau’r Clwb Golff, gan gadw’n agos i glwydi’r cwrs golff, ac fe ddewch at lwybr sy’n arwain i mewn i'r goedwig. Parhewch i lawr y llwybr drwy’r coed ac fe ddewch at giât mochyn sy’n arwain at Gwm George. Mae’r rhan yma o’r llwybr yn ddel iawn gyda choed uchel a phob math o blanhigion. Cadwch at y llwybr nes y byddwch wedi dod allan o’r goedwig ac wedi cyrraedd hysbysfwrdd a giât mochyn. Dilynwch y llwybr drwy’r caeau agored ac fe welwch olygfeydd neis o’r ffermydd o’ch cwmpas. Ar ben y llwybr byddwch yn croesi afon ac yna bydd angen troi i'r chwith i fyny’r lôn. Os ydych chi ffansi sialens gallwch gerdded yn gyflym i fyny’r allt yma nes cyrraedd bwthyn â tho gwellt ar y dde. Unwaith y gwelwch y bwthyn mae angen troi i'r chwith drwy giât mochyn arall. Dilynwch y llwybr drwy’r coed ac fe ddewch allan yn safle ‘Llam yr Eogiaid’ - lle grêt i gael picnic wrth edrych dros y dŵr. Dw i erioed wedi gweld eog yma chwaith! Mae dewis yma i droi’n ôl a dilyn yr un llwybr neu mae’n bosib parhau a gwneud y daith lawn. Mae’n dibynnu faint o amser sydd gennych chi a pha mor hapus ydi’r babi! Mi fyswn i yn argymell lawr lwytho map y daith os ydych am fentro'r fersiwn llawn.
Dilynwch Cadi Fôn ar Instagram am fwy o syniadau am deithiau a tips ffitrwydd.