Cwm Idwal, Eryri
Yr hyn sy’n wych am y llwybr cylchol hwn yw ei fod yn llwybr cymharol rhwydd i gyrraedd golygfeydd mynyddig mwyaf dramatig Eryri. Cerfiwyd Cwm Idwal a’i rewlyn gan lenni iâ, ac mae’n enwog drwy’r byd am ffurfiannau’r graig a’i blanhigion prin. Mae’r daith o gwmpas Llyn Idwal yn her sydd o fewn cyrraedd plant llai ond, gyda’r offer addas, gall plant hŷn yn eu harddegau ddewis sgrialu i fyny Twll Du i fynydd y Glyder Fawr. Ac – am gyfleus – mae caffi ar ddechrau a diwedd y daith.
Hyd: 3 milltir (4.8km)
Amser: 2 awr
Llwybr Cynwch, Eryri
Mae gan Lwybr Cynwch ychydig o bopeth: llwybr cylchol rhyfeddol yn cynnwys coetir, dolydd, glannau llyn – ac wrth gwrs y dibyn enwog (peidiwch â phoeni – nid yw cynddrwg â’r gair ei hun). Byddwch yn mwynhau golygfeydd aruthrol i lawr Moryd Aber Afon Mawddach ac o amrywiol gadwyni mynyddig Eryri.
Hyd: 3 milltir (4.8km)
Amser: 2 awr
Llwybr Hanes Llangollen, Sir Ddinbych
Mae Llwybr Hanes Llangollen yn llwybr cyffrous o amgylch Llangollen a Dyffryn Dyfrdwy, ac yn cynnwys Camlas Llangollen, Rhaeadr y Bedol, Eglwys Llantysilio, Abaty Glyn-y-Groes, olion trahaus Castell Dinas Brân heb sôn am dref hyfryd Llangollen.
Hyd: 6 milltir (10km)
Amser: 4 awr
Carningli, Sir Benfro
Mewn gwirionedd, bonyn llosgfynydd 450 miliwn o flynyddoedd oed yw ‘Mynydd yr Angylion’ - Carningli, lle gadawodd ein cyndadau o’r Oes Haearn hen adfeilion caer. Mae’r golygfeydd o bentref Trefdraeth yn rhyfeddol o’r copa, ac mae’n hawdd ei gyrraedd o gilfan gyfleus. Neu, am lwybr arfordirol, ewch ar fws Roced Poppit o Drefdraeth i gyffordd Cwm-yr-eglwys, a dilyn y llwybr troed i lawr i’r môr yn Aberfforest. Mae’n ddwy awr o daith yn ôl i Drefdraeth.
Hyd: 2 filltir (3km)
Amser: 1 awr 30 munud
Pen Pyrod, Penrhyn Gŵyr
Mae ymweliad â Phen Pyrod ym Mhenrhyn Gŵyr yn brofiad arbennig iawn gyda’r penrhyn yn ymestyn tua’r gorwel ac ynys y tu hwnt iddo. Gallwch groesi'r traeth caregog draw i’r ynys pan fydd y llanw allan. Cofiwch ddarllen y manylion am y llanw yn fanwl cyn mentro allan i’r ynys – mae’n ddiogel am ddwy awr y naill ochr i’r distyll yn unig. Mae olion hen longddrylliad hefyd i’w gweld ar draeth syfrdanol Rhosili.
Hyd: 3 milltir (4.8km)
Amser: 2 awr
Creigiau Trefgarn, Sir Benfro
Mae Sir Benfro’n haeddiannol enwog am ei theithiau cerdded arfordirol, ond os gyrroch erioed ar hyd yr A40 i’r gogledd o Hwlffordd, byddwch wedi gweld y creigiau folcanig hyn, a’u silwetau rhyfedd yn llenwi’r gorwel. Gyda llysenwau amrywiol fel y Llew, yr Ungorn a’r Tedi Bêr, mae Creigiau Trefgarn yn hawdd i blant bach eu cyrraedd – i fyny’r bryn â chi o felin Nant y Coy. Ar ochr arall y ffordd, mae llwybr cerdded hyfryd hefyd drwy Geunant Trefgarn.
Hyd: 1.5 milltir (2.5km)
Amser: 1 awr 30 munud
Aberporth i Dresaith, Ceredigion
Mae darn cyntaf y llwybr hawdd hwn o Aberporth i Dresaith yn addas i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio, felly gall pawb fwynhau’r golygfeydd o glogwyni Bae Ceredigion (cadwch lygad am ddolffiniaid yn ystod yr haf). Mae’r ail ddarn yn dipyn mwy heriol wrth ddisgyn i Dresaith, lle mae rhaeadr yn cwympo ym mhen pellaf y traeth.
Hyd: 2 filltir (3.2km)
Amser: 1 awr 30 munud
Cwm Elan, Powys
Coedwig Cnwch, sy’n addas i gadeiriau gwthio, yw’r hawsaf o’r llwybrau cerdded niferus o gwmpas argaeau a chronfeydd dŵr y gwylltir helaeth hwn. Mae Llwybr Cwm Elan - naw milltir (13km) o hyd – hefyd yn wastad ac yn darmac i raddau helaeth, ond efallai mai ar ddwy olwyn y gallwch ei werthfawrogi orau: gallwch logi seddau cyswllt, trelars a beiciau â seddau plant o’r ganolfan groeso.
Hyd: 1 milltir (1.6km)
Amser: 45 munud
Fan y Big, Bannau Brycheiniog
Copa uchaf Bannau Brycheiniog, sef Pen-y-fan, sy’n denu’r rhan fwyaf sy’n cerdded yno, felly gall fod yn weddol brysur yno. Un dewis arall rhwyddach yw Fan y Big gerllaw, yn enwedig os byddwch yn ei daclo o faes parcio tawel Blaen y Glyn Uchaf. Rhaid dringo llethr ystyfnig i’r grib, ond ar ôl cyrraedd yno mae’n llwybr syfrdanol ar hyd y grib yr holl ffordd i Fan y Big. Ar y copa, mae ‘bwrdd plymio’ eiconig o graig yn ymwthio allan, sy’n berffaith am lun (bydd y cwymp islaw yn edrych yn llawer gwaeth ar Instagram nag y mae go iawn, wir i chi).
Hyd: 5.5 milltir (9km)
Amser: 3 awr
Ysgyryd Fawr, y Fenni
O’r saith bryn o gwmpas y Fenni, Taith Ysgyryd Fawr sy’n cynnig y llwybr gorau i blant. Dringwch o’r maes parcio drwy’r goedwig, a dilyn cefnen y mynydd i adfail y capel ar gopa sydd, tua diwedd yr haf, yn drwch o lus blasus.
Hyd: 4 milltir (6.4km)
Amser: 2.5 awr
Sgwd Gwladus, Bannau Brycheiniog
Mae digonedd o raeadrau i’w gweld yn y gornel hon o Fannau Brycheiniog, ond dyma’r un hawsaf i’w gyrraedd (hyd yn oed gyda chadair wthio), ac un o’r harddaf hefyd, ac Afon Pyrddin yn plymio chwe metr i ffurfio Sgwd Gwladus.
Hyd: 2.5 milltir (4km) o daith gylchol
Amser: 1 awr 30 munud
Aberogwr, Bro Morgannwg
Ar y llwybr cylchol hwn yn Aberogwr, mae Castell Ogwr, clogwyni haenog Arfordir Treftadaeth Morgannwg, gerddi muriog ac adfeilion Castell Dwnrhefn, a thraeth gorau’r ardal, sef Bae Dwnrhefn yn Southerndown. Un dewis arall yw dilyn y cerrig sarn ar draws Afon Ogwr i bentref toi gwellt Merthyr Mawr, a’r tu hwnt i hwnnw y rhes fwyaf o dwyni tywod yng Nghymru.
Hyd: 8 milltir (13km)
Amser: 4 awr