Y Ganolfan Ddehongli
Dechreuwch yn y Ganolfan Ddehongli, lle cewch deimlad o hanes y castell, o’i darddiadau yn oes y Rhufeiniaid i’r trawsnewidiadau Gothig rhyfeddol a ddigwyddodd yn ystod y 19eg ganrif. Codwch un o’r canllawiau sain cludadwy os na fyddwch yn mynd ar daith dywysedig. Maent ar gael mewn deg iaith, a fersiwn i blant hefyd, i’ch helpu i gael y mwyaf o’ch ymweliad. Gallwch hefyd lawrlwytho Ap Castell Caerdydd ar eich ffôn clyfar (defnyddiwch y gwasanaeth wi-fi am ddim).
Cyfrinachau tanddaearol
Un o gyfrinachau diddorol niferus Caerdydd y byddwch chi’n eu datgloi wrth ymweld â Chastell Caerdydd yw’r rhwydwaith o dwnelau tanddaearol. Mae’r llwybrau hyn, a ddefnyddid yn llochesau cyrch awyr yn ystod yr Ail Ryfel Byd, rhwng lefel y llawr gwaelod a lefel y bylchfur, a lle i ryw 2,000 o bobl o ganol y ddinas.
Ar ei ffurf bresennol, Castell Caerdydd yw ffrwyth trawsnewidiad rhyfeddol a gyflawnwyd tua diwedd y 19eg ganrif gan y pensaer hynod, William Burges. Ef a greodd rai o’r ystafelloedd mwyaf coeth ym Mhrydain, wedi’i ysbrydoli gan y dulliau Gothig, Mediteranaidd ac Arabaidd. Rhaid eu gweld er mwyn eu credu.
Mae yma gymaint o hanes a manylder nes ei bod yn werth mynd ar daith o’r tŷ. Mae’r tywysyddion arbenigol yn adnabod pob twll a chornel ohono, a chewch ymweld â 10 o ystafelloedd ysblennydd.
Tŵr unigryw
Mae Teithiau Tŵr y Cloc yn wych. Fe’u cynhelir ar benwythnosau, ac mae’n gyfle i ymwelwyr ddringo’r grisiau tro hir i Dŵr y Cloc ac Ystafell Ysmygu’r Haf. Mae’r ddau’n enghreifftiau rhyfeddol o ddychymyg ffrwythlon Burges am ddylunio mewnol lliwgar, manwl.
Os bu’r cyfoeth (neu’r 101 o risiau) yn ormod i chi, arhoswch am baned yng Nghaffi’r Castell. Oddi yno, cewch olygfeydd o’r Gorthwr Normanaidd a’r Castell ar draws y teras allanol, gan wylio pobl eraill yn archwilio rhyfeddodau’r castell. Os yw ar gael, cofiwch flasu’r cawl.
Amgueddfa'r castell
Firing Line yw Amgueddfa'r Milwr Cymreig sydd yng Nghastell Caerdydd. Yno, adroddir hanesion ac arddangosir pethau cofiadwy o dros 300 mlynedd o wasanaeth gan ddwy o gatrodau Cymru, sef Gwarchodlu 1af Dragŵn y Frenhines a’r Gatrawd Frenhinol Gymreig. Mae mynediad i amgueddfa Firing Line yn rhan o’ch tocyn i ymweld â’r castell.
Ar ôl hynny, galwch yn y siop roddion am swfenîr, cyn mynd am dro ym Mharc Bute. Cydnabuwyd y parc yn dirwedd hanesyddol wedi ei dylunio gradd 1, ac mae yna bron 150 erw o fannau gwyrdd o gwmpas y castell, a choed o bedwar ban.
Marchogion ar garlam
Mae Castell Caerdydd yn ferw gwyllt drwy gydol y flwyddyn, a phob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yno. Cynhelir dros 200 o wleddoedd Cymreig bob blwyddyn, lle gall ymwelwyr fwynhau noson o fwyd ac adloniant Cymreig traddodiadol.
Cynhelir Joust! ar dir y castell ar y trydydd penwythnos ym mis Mehefin, gyda brwydrau canoloesol yn cael eu hail-greu, storïau’n cael eu hadrodd, clerwyr a chystadlaethau ymladd ddwywaith y dydd.
Wythnos o ddathlu’r Gymraeg yw Tafwyl ym mis Mehefin, sy’n croesawu Cymry Cymraeg a’r di-Gymraeg fel ei gilydd. Cynhelir ei phrif ddigwyddiad – sef penwythnos o arddangos cerddoriaeth, diwylliant, chwaraeon a bwyd stryd Cymru – ar dir y castell.
Mae’r Sgarmes Ganoloesol Fawreddog yng nghanol mis Awst yn fwrlwm arall o gleddyfau, gwaywffyn a phastynau, wrth i farchogion medrus frwydro am oruchafiaeth.