Taith o gwmpas calon democratiaeth Cymru
Mae gan Gymru’i chorff deddfwriaethol a’i gweinyddiaeth ddatganoledig ei hun, sy’n golygu bod gennym senedd a llywodraeth ein hunain. Bydd Senedd Cymru’n creu deddfau ac yn craffu ar Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau eu bod yn gwneud gwaith effeithiol o ddarparu gwasanaethau a diogelu buddiannau pobl Cymru. Os ydych chi’n hoffi gwleidyddiaeth, neu os oes gennych ddiddordeb mewn dysgu mwy am sut y mae Cymru’n gweithio, gallwch ymweld â’r Senedd a mynd ar daith o gwmpas yr adeilad cynaliadwy, a gynlluniwyd gan y pensaer nodedig Richard Rogers.
Gweld sioe yng Nghanolfan Mileniwm Cymru
Canolfan Mileniwm Cymru yw canolfan gelfyddydau genedlaethol Cymru, ble gallwch weld y sioeau gorau sy’n teithio’r wlad; mae wedi cynnal Les Mis, Wicked, Footloose a Cats, ymhlith eraill. Dyma hefyd gartref cwmnïau Cymreig fel Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, Theatr Hijinx a Cherddorfa Genedlaethol y BBC. Cofiwch alw i mewn am sioe rad ac am ddim ar lwyfan y Lanfa, neu mwynhau swper neu goctel yn y bar yno, Ffresh.
Mynd am dro o gwmpas Morglawdd Bae Caerdydd
Mae’n hawdd cerdded o gwmpas y Bae ac ar draws morglawdd y môr i Farina Penarth. Llwybr tarmac gwastad sydd yr holl ffordd, felly mae’n berffaith ar gyfer bygis neu feic. Cyn y morglawdd ei hun ceir maes chwarae gwych i blant, yn cynnwys llongddrylliadau cogio wedi’u claddu yn y tywod. Mae gan y morglawdd sawl loc fydd yn diddori plant chwilfrydig. Mae cychod tacsi’n mynd o leiaf bob awr yn ôl i Gei’r Forforwyn o’r ochr draw i’r lociau wrth ochr Marina Penarth.
Gwylio adar yng Ngwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd
Pan foddwyd y Bae fel rhan o adfywio hen ardal y dociau, crëwyd Gwarchodfa Gwlyptir Bae Caerdydd ar safle cyn forfa heli. Mae’n cynnwys cors frwynog a strwythurau pren sy’n arnofio i gynnig ardaloedd cysgodol ble gall adar baru. Crwydrwch ar hyd y llwybr graean sy’n cychwyn yn y maes parcio ger gwesty voco® St David’s Caerdydd, draw i ben gorllewinol y warchodfa. Yma fe welwch lwybr pren hir gydag ardal wylio, sy’n llecyn gwych i wylio adar. Gorau oll, mae’n rhad ac am ddim.
Bae Caerdydd sy'n gyfeillgar i gŵn
Os oes gennych chi gi arbennig yn eich bywyd, yna rydych chi mewn lwc - mae Bae Caerdydd yn llawn lleoedd hyfryd, cyfeillgar i gŵn i fwyta ac yfed.
Yn ogystal â Coffi Co, mae hefyd The Dock, The Waterguard, Lo Lounge, a Tiger Yard sy'n gyfeillgar i gŵn. Mae'r botanist yn croesawu cŵn yn y bar a'r ardaloedd awyr agored, ac mae Cosy Club yn eu croesawu yn eu hardal eistedd achlysurol. Os yw'ch ci yn ffan o hufen iâ, mae gennym ddau barlwr hufen iâ cyfeillgar i gŵn hefyd! Ewch i Laeth Llanfaes neu Cadwaladers.
Camu’n ôl mewn amser yn y Pierhead
Mae’r Pierhead yn adeilad rhestredig Gradd Un, a adeiladwyd yn wreiddiol fel swyddfeydd ar gyfer Cwmni Dociau Bute (a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gwmni Rheilffordd Caerdydd). Yn 1922, cymerodd y Great Western Railway (GWR) yr awenau, a daeth y Pierhead yn bencadlys iddo. Wedi’r dirywiad yn y diwydiant glo, aeth y Pierhead yn segur – fe’i adfywiwyd yn y pen draw fel rhan o ystâd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2010. Erbyn heddiw mae’n lleoliad digwyddiadau a chynadleddau, sy’n cynnal arddangosfeydd celf, ac mae yno arddangosfeydd hanesyddol y gall ymwelwyr eu mwynhau.
Hwyl yn hwylio
Os ydych chi eisiau darganfod arfordir Caerdydd, pa ffordd well na mewn cwch. O Fae Caerdydd y bydd yr holl deithiau bad yn cychwyn. Mae popeth o dacsis dŵr sy’n teithio’n hamddenol i fyny i’r dref, i siwrneiau RIB cyffrous a fydd yn eich cymryd allan i Afon Hafren ar daith gyflymach. Un o’n hoff deithiau cwch o gwmpas y Bae yw honno a gynhelir gan Ben (neu 'Capten Gorjys') – chwiliwch am arwyddion The Open Boat.
Ceisio cyffro
Os oes gennych wyddonwyr neu gyw-wyddonwyr yn eich grŵp, ewch i Techniquest. Dyma ganolfan wyddoniaeth ble ceir dros 100 o arddangosfeydd rhyngweithiol sy’n ymwneud â’r gofod, yr amgylchedd, cemeg, gwyddorau biofeddygol a phynciau’r byd. Dyw gwyddoniaeth erioed wedi bod mor apelgar!
Am hyd yn oed mwy o gyffro, ewch i’r cyfleuster rafftio dŵr gwyn o safon Olympaidd yng Nghanolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Mae’r hyrddiadau dŵr a reolir ar alw’n berffaith ar gyfer rhoi tro ar rafftio dŵr garw, caiacio, y don dan-do, ‘hot-dogging’ a phadl-fyrddio. Mae yma lwybr rhaffau uchel dros y dŵr hefyd.
Yr Eglwys Norwyaidd a’r caffi
Er nad oes fawr sôn am y peth, roedd gan Gaerdydd ran enfawr i’w chwarae yn y Chwyldro Diwydiannol. Anfonwyd glo o gymoedd De Cymru i bedwar ban byd o borthladd Caerdydd. Fe barodd hyn i Gaerdydd fod yn ddinas gyfoethog, gan ddenu morwyr o bob cwr, etifeddiaeth sy’n parhau yn amrywiaeth cymunedau ardal dociau Caerdydd hyd heddiw. Adeiladwyd yr Eglwys Norwyaidd i wasanaethu morwyr o Norwy a fwriai angor yn y ddinas. Erbyn heddiw, mae’r eglwys adferedig – gyda waliau pren estyll gwyn a thŵr pigfain – yn cynnwys oriel ddiddorol a chaffi cyfeillgar gyda phatio sy’n cynnig golygfeydd ar draws y bae.
Darganfod y gorffennol
Mae adeilad y Gyfnewidfa Lo yn Sgwâr Mount Stuart yn cynrychioli rhan arwyddocaol iawn yn hanes diwydiannol Caerdydd. Tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, Caerdydd oedd y porthladd glo mwyaf yn y byd, gyda hyd at 10,000 o berchnogion glo, perchnogion llongau a’u hasiantwyr yn defnyddio’r Gyfnewidfa Lo bob dydd; gwneud busnes, a gwneud ffortiwn. Yn ôl pob sôn, yn y fan hon y llofnodwyd y siec gyntaf am filiwn o bunnoedd. Ar ôl i’r diwydiant glo ddirywio, defnyddiwyd yr adeilad i bob pwrpas o leoliadau gigs i gartref arfaethedig Cynulliad Cymru yn y 1970au (ni lwyddodd y bleidlais, felly gwag fu’r adeilad). Yn ddiweddar fe’i trowyd yn westy gyda llawer o nodweddion gwreiddiol yr adeilad yn dal yn amlwg – piciwch i mewn am goffi neu goctel er mwyn cael cip ar y crandrwydd.
Rhagor o wybodaeth
Dyma rai o blith uchafbwyntiau Bae Caerdydd. Gallwch gynllunio eich antur eich hun lawr y Bae gan ymweld a gwefan Croeso Caerdydd – mae rhywbeth i bawb yma!