Wedi’i lleoli ar aber afon Hafren, mae gan Gaerdydd ardal y glannau sy’n werth ei harchwilio, tra bod troedio strydoedd y ddinas gyda’ch ci yn ffordd wych o ddod yn gyfarwydd â’r metropolis ifanc, llawn hwyl hwn.
Gyda pharc enfawr yn ei chanol a digonedd o atyniadau sy’n gyfeillgar i gŵn – gan gynnwys amgueddfeydd – mae Caerdydd yn gyrchfan wych ar gyfer gwyliau yn y ddinas i chi a’ch anifail anwes. Dyma bopeth sydd angen i chi ei wybod am Gaerdydd ar wyliau mewn dinas sy’n gyfeillgar i gŵn.
Crwydro Castell Caerdydd
Lle gwych i ddechrau unrhyw wyliau yn ninas Caerdydd yw tiroedd y castell canoloesol. Yn eistedd ar ben mwnt Normanaidd nodweddiadol, ac y tu mewn i waliau sy’n dyddio’n ôl i gyfnod y Rhufeiniaid, mae’r strwythur carreg mawreddog hwn yn symbol o rym y ddinas drwy gydol y canrifoedd. Heddiw, cewch ddau am bris un yn y sgwâr cyhoeddus y tu mewn i’r hen furiau, gan fod palas Fictoraidd hardd yno hefyd. Prynwch baned o goffi a mynd am dro drwy’r safle – mae croeso i gŵn ym mhob ardal awyr agored – ac yna ewch heb eich partner pedair coes i ymweld â’r adeiladau. Mae gan y palas ystafell Arabaidd o’r 19eg ganrif sy’n werth chwilio amdani i weld ei haddurn ysblennydd.
Mwynhewch y cyfle i redeg ym Mharc Bute
Gerllaw Castell Caerdydd mae’r lle gorau ar gyfer gemau fel fetch neu ffrisbi gyda’r ci: Mae Parc Bute mor fawr â 75 o gaeau pêl-droed. Ymgollwch yng nghanol ei 3,000 o goed rhestredig a’i blanhigfeydd hardd, neu dilynwch un o’r llwybrau rhagorol sy’n amrywio o deithiau hanes digidol, gan ddefnyddio codau QR, i deithiau cerdded natur a llwybrau coed (mae tywyslyfrau ar gael yn y Ganolfan Addysg).
Ewch ar gwch i’r Bae
Gyda’i chanol cywasgedig a’i hardaloedd i gerddwyr, mae Caerdydd yn ddinas i gerddwyr. Ond pan fyddwch chi wedi blino ar gerdded, mae yna ffordd wych arall o fynd o amgylch y ddinas: ar gwch. O’r pier ger mynedfa Stryd y Castell ym Mharc Bute, ewch ar un o’r tacsis dŵr sy’n teithio rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd yn rheolaidd. Mae cychod yn mordeithio ar hyd afon Taf heibio i warchodfa natur Taff’s Mead, Canolfan Mileniwm Cymru ac adeilad brics coch trawiadol y Pierhead, cyn docio yn y Bae. Bwciwch daith dywys gyda’r Princess Katharine, neu hwyliwch gyda’r AquaBus.
Cerddwch ar Lwybr y Bae
Os ydych chi’n chwilio am daith gerdded hirach, mae Llwybr y Bae, sy’n 6.2 milltir o hyd, yn llwybr gwych i’w ddilyn. Dechreuwch yn adeilad y Pierhead, a adeiladwyd ar ddiwedd y 1800au fel pencadlys Cwmni Doc Bute, a cherdded i gyfeiriad y de ar hyd y promenâd heibio i’r Eglwys Norwyaidd, lle byddai morwyr o Norwy yn dod i gyfarfod yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Mae’r llwybr yn mynd â chi drwy Farina Penarth, y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ac ar hyd ceg afon Taf, cyn troi am yn ôl i Gei’r Fôr-forwyn lle gallwch fwynhau diod boeth yn Coffi Co – caffi y tu mewn i gynhwysydd llong – wrth i’r ci sipian ar ‘puppaccino’.
Yr arcedau a’r Farchnad Ganolog
Mae Caerdydd yn enwog am ei siopau rhagorol, gyda siopau’r stryd fawr a siopau dylunwyr yn ei hardal i gerddwyr. Er na allwch fynd â’r ci i mewn i lawer o’r siopau adrannol mawr, mae yna lawer o siopau bwtîc lle gallwch bori gyda nhw wrth eich ochr chi. Mae gan ganol y ddinas rwydwaith o arcedau siopa Fictoraidd hyfryd, lle mae nenfydau gwydr bwaog a llusernau crog yn creu golygfa atmosfferig ar gyfer siopa gyda’r ci. Mae llawer o’r siopau a’r caffis yn yr arcedau yn caniatáu cŵn y tu mewn, ond os nad ydych yn siŵr, ewch i mewn a gofynnwch. Gallwch brynu diodydd lleol a rhanbarthol yn Wally’s Liquor Cellar ac mae’r Fabulous Welsh Cakes yn Arcedau Chwarter y Castell yn gwneud cacennau Cymreig ar ffurf asgwrn i gŵn, hyd yn oed.
Mae’r Farchnad Ganolog Fictoraidd hefyd yn anhygoel o gyfeillgar i gŵn, gyda gwerthwyr yn aml yn falch iawn o weld cwsmeriaid pedair coes y tu mewn. Galwch heibio i gasglu popeth o gig a physgod ffres i gaws Cymreig a chinio tecawê.
Gwers hanes yn Sain Ffagan
Wedi’i lleoli yng nghanol ystâd castell ar gyrion dinas Caerdydd, mae Sain Ffagan yn ddiwrnod allan delfrydol i deuluoedd sydd â phlant a chŵn. Mae’r amgueddfa awyr agored enfawr hon yn cynnig ffenestr ar orffennol Cymru, gyda dros 40 o adeiladau gwahanol o bob cwr o’r wlad wedi’u hailgodi ar y safle dros y 70 mlynedd diwethaf. Gallwch weld prosesau crefft draddodiadol yn efail y gof, lle gwneir gwaith haearn addurniadol gan ddynion medrus, a gwyliwch yr holl broses o greu carthenni Cymreig yn y felin wlân, gan gynnwys lliwio’r gwlân â lliwiau llachar.
Ond yr uchafbwynt i’r rhan fwyaf fydd ymweliad â Phopty Derwen, lle mae cacennau a bara blasus yn cael eu pobi ar y safle bob dydd y tu mewn i’r popty 120 oed o Aberystwyth. Caniateir cŵn ar dennyn ym mhob rhan awyr agored o’r amgueddfa a’r tu mewn i’r prif adeilad.