I’r rhan fwyaf o bobl, mae’n debyg mai’r peth enwocaf am fwrdeistref sirol Torfaen yw’r ffaith ei bod yn gartref i dirwedd ddiwydiannol Safle Treftadaeth y Byd UNESCO ym Mlaenafon. Ond mae yna lawer mwy i’w ddarganfod yn yr ardal. Fel un o drigolion Sir Fynwy, sy’n ffinio â Thorfaen, dyma fy nghanllaw i'r ardal.
Amgueddfa Torfaen
Lle gwych i gychwyn eich antur yw Amgueddfa Torfaen ym Mhont-y-pŵl. Lleolir yr amgueddfa hon mewn bloc stablau Sioraidd sydd â chwrt canolog hardd, ac mae’n storfa anhygoel ar gyfer hanes y sir. Gallwch weld llu o arteffactau sy’n taflu goleuni ar dreftadaeth ddiwydiannol a chymdeithasol Torfaen, yn cynnwys casgliad trawiadol o eitemau Japaneaidd eu harddull (sef eitemau cywrain a wnaed ym Mhont-y-pŵl yng nghanol y ddeunawfed ganrif). Hefyd, mae yno orielau lle dangosir rhaglen gyfnewidiol o arddangosfeydd celfyddydol a hanesyddol.
Y Groto Cregyn
Comisiynwyd y bensaernïaeth anghonfensiynol hon gan John Hanbury, haearnfeistr cyfoethog a phwerus o’r ardal, yn ystod ail ran y ddeunawfed ganrif. Mae’r Groto Cregyn wedi’i leoli ym Mharc Pont-y-pŵl (a oedd yn eiddo i’r teulu Hanbury ers talwm), a dyma’r enghraifft orau sydd ar ôl yng Nghymru o’r math neilltuol hwn o adeilad. Cafodd ei adeiladu o dywodfaen lleol, ac oddi allan nid yw’r to pigfain yn drawiadol iawn yr olwg. Ond mae tu mewn i’r adeilad, sydd wedi’i addurno gyda phatrymau trawiadol a wnaed trwy ddefnyddio cregyn lliwgar ac esgyrn anifeiliaid, yn fater arall.
Bragdy Rhymni
Cafodd Bragdy Rhymni ei sefydlu’n 1839 er mwyn cynnig lluniaeth i lowyr a gweithwyr dur cymoedd y De, a daeth yn un o gwrw enwocaf Cymru. Mae’r bragdy a welir heddiw wedi adfywio dulliau bragu traddodiadol (yn ogystal ag ail-leoli’r safle yn union gyferbyn â Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru) er mwyn creu gwahanol fathau o gwrw sydd nid yn unig yn hynod flasus ond sydd hefyd yn adlewyrchu hanes cyfoethog yr ardal. Gallwch weld sut y caiff y cwrw ei wneud (a blasu rhai ohonyn nhw) yng nghanolfan ymwelwyr y bragdy, sydd newydd gael ei hailwampio.
Fferm Gymunedol Greenmeadow
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow, sydd wedi’i lleoli ar safle 150 acer ger Cwmbrân, yn lle gwych i blant a phobl ifanc sy’n dwli ar amaethyddiaeth. Gyda chasgliad mawr o anifeiliaid, cyfle i fynd am dro mewn tractor, a llwybr Stickman (sy’n seiliedig ar lyfr poblogaidd Julia Donaldson), mae yno ddigonedd o bethau i gadw pawb yn ddiddig. Ac os byddwch angen hoe fach, beth am ymlacio yng Nghaffi Cwtch, lle gallwch fwynhau byrbrydau a danteithion wedi’u gwneud o gynhwysion ffres lleol.
Llyn Llandegfedd
Mae Llyn Llandegfedd, ar y ffin ddwyreiniol rhwng Torfaen a Sir Fynwy, yn le gwych ar gyfer gweithgareddau dŵr. Gall yr anturiaethwyr dewr yn eich plith roi cynnig ar wahanol fathau o chwaraeon dŵr, yn cynnwys hwylio, nofio, padlfyrddio, caiacio, bordhwylio a gyrru cychod modur, a gallwch logi offer yn y Ganolfan Chwaraeon Dŵr. (Mae’r padlfyrddau newydd sy’n caniatáu ichi sefyll arnyn nhw, ac sy’n llythrennol yn eich galluogi i gerdded ar y dŵr, yn arbennig o hwyl.) Neu os yw’n well gennych gadw eich traed yn sych, mae’r llyn yn lle gwych i wneud rhywfaint o bysgota – mae brithyllod seithliw a brithyllod cyffredin, yn ogystal â rhywogaethau pysgota bras fel merfogiaid, rhufelliaid a phenhwyaid, yn byw yn y dyfnderoedd. Hefyd, ceir amrywiaeth o lwybrau cerdded, gyda’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n cychwyn wrth Ganolfan Ymwelwyr Llandegfedd ar lan dde-ddwyreiniol y llyn.
Canolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange
Dewch i weld gwaith celf cyfoes o Gymru a thu hwnt yng Nghanolfan Gelfyddydau Llantarnam Grange yng Nghwmbrân. Yno, gallwch weld casgliad parhaol o weithiau gan artistiaid fel Arlie Panting, Jessie Bayes a Michael Crowther ochr yn ochr â detholiad cyfnewidiol o arddangosfeydd sy’n cynnwys darluniau, cerameg, cerfluniau a thecstilau. Os cewch eich ysbrydoli gan yr hyn a welwch, gallwch brynu eitemau unigryw gan wneuthurwyr Cymreig yn y siop grefftau, neu beth am gymryd rhan yn un o weithdai’r ganolfan er mwyn datblygu eich sgiliau artistig eich hun.