Ffyrdd gwych i’w gyrru oddi ar Ffordd Cymru
Y ffyrdd gorau i deithio ar eu hyd oddi ar Ffordd Cymru, trwy dirwedd anhygoel a llefydd gwych i ymweld â nhw.
Darganfyddwch pam mae Cymru yn cael ei ch chydnabod am ei Harddwch Naturiol Eithriadol. Mwynhewch y cefn gwlad , arfordir bendigedig a'r bywyd gwyllt sydd o'n cwmpas.
Trefnu
Y ffyrdd gorau i deithio ar eu hyd oddi ar Ffordd Cymru, trwy dirwedd anhygoel a llefydd gwych i ymweld â nhw.
Mae orielau, cestyll, chwaraeon dŵr a dolffiniaid yn yr uchafbwyntiau hyn ar hyd Ffordd yr Arfordir.
Syrthiwch mewn cariad gydag arfordiroedd gwyllt a threfi a phentrefi tlws Ynys Môn, man gorffwys nawddsant cariadon Cymru, Santes Dwynwen.
Ewch allan i ddarganfod anturiaethau awyr agored Parc Rhanbarthol y Cymoedd.
Antur droellog wythnos o hyd yn darganfod llawer o drefi cyfoethog, gwerth chweil ar lannau’r Afon Gwy, fel Cas-gwent, Trefynwy, Y Gelli Gandryll, Llanfair-ym-Muallt a Rhaeadr Gwy.
Gwisgwch eich esgidiau cerdded: dewch i ddarganfod pedwar llwybr cerdded pellter hir sy'n cynnig teithiau ysbrydoledig yng Nghymru.
Nid ar chwarae bach mae Penrhyn Gŵyr yn ennill cymaint o wobrau. Dyma 10 peth y gallwch ei wneud er mwyn gweld y gorau sydd gan yr ardal 70 milltir sgwâr (180 cilometr sgwâr) hon i’w gynnig.
Traethau hyfryd, clogwyni a choed ar hyd y penrhyn, sy'n llawn o lefydd gwych i gerdded, gwylio adar, torheulo a syrffio.
Bryniau hardd, coedwigoedd gwych am benwythnos yn yr awyr agored. Marchogaeth, beicio, cerdded.
Llawn henebion a safleoedd hynafol lle mae hanes yn dod yn fyw, yn ogystal â thirweddau hardd.
Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn enwog am draethau hardd, anturiaethau dŵr a bywyd gwyllt. Dyma Dylan Jones, o Shoot From The Trip, i rannu ei hoff lecynnau yn Llŷn.
Dilynwch olion traed artistiaid a beirdd wrth gael eich ysbrydoli gan y coedwigoedd hyfryd a'r golygfeydd godidog ar lan yr afon yn AHNE Dyffryn Gwy.
Wrth ddefnyddio ein gwefan, ry'ch chi'n cadarnhau eich bod yn derbyn ein Telerau ac Amodau
By answering a few questions, we'll give you the chance to win £500. By doing so you will also help us improve this website and help with your holiday planning and travel needs.
Good for you. Good for us. Teamwork!