Mae Môn, Mam Cymru, yn llawn cymeriad. Fel llawer i ynys, mae rhyw arwahanrwydd yn perthyn i'r lle. Ble arall fyddai'r bobl leol wedi bod mor hy â dyfeisio'r enw lle hiraf ym Mhrydain, Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch?
Yn bendant, mae rhywbeth yn wahanol am y lle, ond serch hynny gallwch ddisgwyl croeso cynnes yno. Mae'n ynys wirioneddol arbennig sydd â rhywbeth at ddant pawb, boed yn wibdeithwyr yn dod am damaid i'w fwyta yn un o fwytai ffasiynol Biwmares neu'n bâr brenhinol go adnabyddus.
Nid yw'r ynys ond 300 milltir sgwâr ar ei hyd a'i lled, sy'n ei gwneud yn llawer llai na'r rhan fwyaf o siroedd y DU, ond fe ddewch chi o hyd i ddigon o amrywiaeth wrth fynd o un pen i'r llall. Mae'r arfordir yn ymestyn am 125 o filltiroedd a'r rhan fwyaf ohono'n rhan o Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – casgliad hyfryd o dwyni tywod, ogofâu a chlogwyni, a phentrefi bach tlws a thraethau garw. Yn y gwanwyn mae'n ddigon o ryfeddod, pan fydd y blodau gwyllt yn frith ar y clogwyni.
Claddgelloedd hynafol, pontydd mawreddog Oes Fictoria
Mae natur benderfynol pobl Ynys Môn yn bodoli ers cyn cof. Credai'r Celtiaid fod hon yn ynys sanctaidd; hon oedd cadarnle eu hoffeiriaid, y Derwyddon, a blannodd goedwigoedd o goed derw sanctaidd yma ac acw. Dyma oedd y rhan fechan olaf o Gymru i wrthsefyll goresgyniad y Rhufeiniaid yn y ganrif gyntaf OC. Roedd cyfoeth o gopr yn aros am y milwyr buddugol. Cyn hynny bu Ynys Môn yn gartref i bobl Oes Newydd y Cerrig a'r Oes Efydd, ac erys eu claddgelloedd inni eu gweld hyd heddiw.
Bu newid ysgubol yn y 18fed a'r 19eg ganrif. Yn y 1760au, daethpwyd o hyd i wythïen anferth o gopr yn hen fwynglawdd y Rhufeiniad ar Fynydd Parys, yn agos iawn i'r wyneb. Erbyn y 1780au, Mynydd Parys oedd cloddfa gopr mwyaf Ewrop a'r mwyaf cynhyrchiol, a defnyddiwyd y copr i roi gwaelod ar longau pren, gan gadarnhau goruchafiaeth Prydain ar y môr. Ym 1826, gorffennodd Thomas Telford adeiladu'r bont grog fawr gyntaf yn y byd, Pont Menai, ac am y tro cyntaf roedd cyswllt parhaol rhwng yr ynys a'r tir mawr. Yna ym 1850, adeiladodd Robert Stephenson bont reilffordd, Pont Britannia, gan gwblhau'r ddolen gyswllt olaf yn y cysylltiad pwysig dros dir a môr rhwng Llundain a Dulyn.
Ar hyd yr arfordir
Fe gewch chi hwyl wrth chwilota'r ynys wrth fynd am dro ar Lwybr Arfordirol Ynys Môn. Gallwch fynd ar hyd rhannau ohono ar gefn beic neu geffyl. Os oes amser gennych chi i'w sbario, mae modd cerdded 125 milltir o gwmpas yr ynys a gweld traethau garw, pentiroedd yn frith o flodau gwyllt a heidiau o adar ar draethellau lleidiog. Fe gymerith ryw bythefnos i wneud y gorau o'r llwybr. Ar ôl ichi gerdded o amgylch yr ynys i gyd, fe gewch chi fathodyn a thystysgrif gan Gyfeillion Llwybr Arfordirol Ynys Môn
Fel arall gallech gwblhau'r llwybr fesul dipyn. Mae digonedd o ddewis ar eich cyfer. Ceir chwe Arfordir Treftadaeth yng Nghymru, ac mae tri ohonynt ar Ynys Môn: rhwng Porth Swtan a Bae Dulas yng ngogledd yr ynys, Mynydd Twr yn y gorllewin a Bae Aberffraw yn y de-orllewin. Fe ddewch chi o hyd i bensaernïaeth brydferth hefyd: ger y glannau yn y de-ddwyrain saif Plas Newydd, plasty godidog sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae Castell Biwmares ar Restr Treftadaeth y Byd UNESCO.