Mae Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn yn cynnwys bron i 100 milltir o arfordir, yn faeau agored a chreigiau cadarn, sy’n berffaith ar gyfer anturiaethwyr awyr agored. Roedden ni’n ymweld am ychydig ddyddiau ac yn awyddus i wybod mwy am yr ardal. Un o'r pethau i'n taro yn syth oedd clywed y Gymraeg ym mhob siop, bar a chaffi bron, yn atseinio'n farddonol braf o’n cwmpas.
Gan leoli ein hunain ym Morfa Nefyn, roedd hi’n hawdd cyrraedd traethau gwych, llwybrau cerdded ar hyd yr arfordir, a bwytai arbennig fel The Cliffs. Fe alwon ni yn Nefyn, a phicio i Fragdy Cwrw Llŷn i gael gafael ar eu cwrw lleol rhagorol. Ein bwriad oedd crwydro’r bryniau a’r arfordir, o’r gogledd garw i gildraethau mwy llonydd a chysgodol y de.
Llwybrau arfordirol â golygfeydd epig
Mae Llwybr Arfordir Cymru’n cynnig llwybrau ar hyd y clogwyni, cyfle i grwydro ar draethau a digonedd o fywyd gwyllt i’w weld. A ninnau’n awyddus i gael blas ar hyn oll, fe ddechreuon ni ar ein hantur yn Trefor, ar arfordir y gogledd. Dechreuodd ein wâc fer ger yr harbwr bychan â’i ddŵr grisial. Dan gysgod yr Eifl, aeth y llwybr arfordirol tua’r de, gan arwain at Ynys Fawr Trefor, oedd yn llawn o adar môr yn nythu, gan gynnwys bilidowcars. Braf oedd ymweld â Nant Gwrtheyrn, y Ganolfan Iaith Genedlaethol, yn ogystal â Caffi Meinir, sy'n wych. Roedd y clogwyni fan hyn, sy’n frith o blanhigion a thyfiant, yn disgyn yn syth i’r traeth caregog, gan greu golygfa ddramatig.
Ymhellach i’r de, cawsom gyfle i ddilyn dau lwybr arall, pur wahanol i’w gilydd, sy’n crynhoi ymdeimlad amrywiol y tirwedd. Fe ddilynon ni lwybr yr arfordir o Aberdaron i gyfeiriad harbwr bach Porth Meudwy, ble bydd y cwch yn gadael am Ynys Enlli. Roedd golygfeydd syfrdanol o'r clogwyni, a’r brain coesgoch yn hedfan o’r creigiau.
Roedd ein taith gerdded olaf ar hyd yr arfordir yn fyr, ond roedd y golygfeydd uwchlaw Llanbedrog yn epig. Mae'r grisiau carreg o’r traeth i’r goedwig yn arwain at benrhyn a chartref cerflun y Dyn Haearn, gyda golygfeydd dros Eryri a Bae Ceredigion.
Ar ben y byd ar gopa Garn Ganol
Erbyn hyn, roedd hi’n amser cerdded o ddifri a thri chopa’r Eifl– Garn Fôr, Garn Ganol a Thre’r Ceiri yn aros amdanom. I ffwrdd â ni yn ein hesgidiau cerdded ar hyd llwybr cylchynol sy'n cynnwys y tri chopa, gyda llwybr ychwanegol yn arwain yn syth i gopa Garn Ganol, y talaf ohonyn nhw, yn 561 metr. Drwy’r rhostir glaswelltog â ni, wrth i’r grug porffor ddechrau blodeuo.
Roedd y golygfeydd i bob cyfeiriad o gopa Garn Ganol yn odidog. Yr arfordir yn ymestyn i’r gorwel pell, ag olion bryngaer Oes Haearn Tre’r Ceiri yn dod i’r golwg. Wrth gyrraedd pwynt trig y copa, roedd y golygfeydd yn bendant yn werth yr ymdrech.
Hanes a threftadaeth Pen Llŷn
A ninnau’n awyddus i wybod mwy am dreftadaeth yr ardal ein lleoliad cyntaf i ymweld ag ef oedd Amgueddfa Forwrol Llŷn yn Nefyn. Roedd yr amgueddfa’n llawn dop o hanes, gwrthrychau ac arddangosfeydd. Ymhellach i’r de yn Aberdaron, fe wnaethon ni bicio i mewn i Ganolfan Ymwelwyr Porth y Swnt. Roedd y ganolfan yn rhoi cipolwg hynod ddiddorol ar dreftadaeth a thirwedd yr ardal. Y lle olaf i ni ymweld â oedd Plas yn Rhiw, plasty bach o’r ail ganrif ar bymtheg gyda gerddi hardd sy’n edrych dros Fae Ceredigion. Ar ôl mwynhau taith hunan-dywys o gwmpas y tŷ, cawsom gyfle i fwynhau’r gerddi ysblennydd cyn cael cinio awyr agored yn yr ystafell de ar y safle.
Ymweld â thraethau gorau Llŷn
I unrhyw un sy’n caru crwydro traethau gwyllt, arfordir y gogledd yw’r lle gorau i fod. Mae Traeth Penllech yn llecyn gwych i fynd am dro boreol i’ch deffro. Ymhellach i’r de, mae Traeth Porthor yn fae tywodlyd, hir, â digon o byllau creigiau a chilfachau i’w darganfod. Mae llwybrau’n arwain at lecynnau uwch, gan gynnig golygfeydd dramatig o’r bae.
Ar hyd arfordir y de, fe aethon ni i draethau Abersoch a Llanbedrog. Mae’r traethau cysgodol hyn yn cynnig dŵr bas a thonnau ysgafn. Mae Llanbedrog yn draeth tywodlyd gyda rhes o gytiau traeth lliwgar. Gerllaw, mae traeth hardd Abersoch, er mae'n brysur iawn ar adegau. Mae’r cytiau traeth lliw pastel sy'n ffurfio rhes ar hyd y twyni tywod yma yn ychwanegu at y tlysni.
Un o’r llecynnau mwyaf poblogaidd ar Benrhyn Llŷn yw Porthdinllaen a thafarn Tŷ Coch. Roedden ni'n clywed cerddoriaeth hamddenol yn yr awel o bell, ac wrth gyrraedd traeth Porthdinllaen ymddangosai’r pentref bychan a’r dafarn ar lan y dŵr o’n blaenau yn swatio dan wyneb y graig. Gyda bar awyr agored, DJ byw a chriw o bobl ar y tywod o flaen y dafarn, roedd yna deimlad cŵl iawn i'r lle.
Rhagor o wybodaeth
Darllenwch am anturiaethau Dylan Jones ar wefan Shoot from the Trip. Gallwch ddilyn Dylan ar Instagram @shootfromthetrip a Twitter @Shootfromttrip.
Mae’n hawdd teithio o gwmpas Pen Llŷn ar drafnidiaeth gyhoeddus – mae Traveline Cymru yn ganllaw defnyddiol i gynllunio eich taith, neu edrychwch ar y gwasanaeth bws fflecsi.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ofalus wrth fynd i wneud gweithgareddau awyr agored. Darllenwch gyngor diogelwch ar wefan Adventure Smart cyn i chi gychwyn eich taith. Mae ein Canllaw Diogelwch Traethau RNLI llawn cyngor ar gadw’n ddiogel a mwynhau ar yr arfordir.