Saif Ynys Enlli tua 2 filltir ar draws y swnt o Benrhyn Llŷn. Ymddiriedolaeth Ynys Enlli sydd yn berchen ar yr ynys a'i nod yw gwarchod a hyrwyddo'r ynys fel lle o ddiddordeb gwyddonol, hanesyddol ac ysbrydol arbennig. Mae grym hynod yr ynys wedi denu Mari Huws yn ôl bob blwyddyn ers ei hymweliad cyntaf yn dair oed. Erbyn hyn mae Mari yn warden ar Enlli gyda’i phartner, Emyr.
Rydw i wastad wedi byw fy mywyd mewn rhyw lif – yn mynd o un lle i’r llall yn teithio, astudio, gweithio – heb unrhyw gynllun na lle penodol oeddwn yn trio gyrraedd, dim ond y teimlad fy mod eisiau gwneud rhywbeth sydd o bwys. Mis Medi llynedd mi gariodd llif fy mywyd fi yma, i weithio fel warden ar Ynys Enlli gyda fy nghariad.
Dros nos mi drodd ein byd ni’n graig yng nghanol y môr, ddwy filltir o drwyn Pen Llŷn. Ynys fach ydi Enlli. O’n tŷ ni, dwi’n croesi tri chae er mwyn cyrraedd yr arfordir. Dim ond milltir a hanner ydi’r ynys ar ei hiraf a hanner milltir ar ei lletaf. Ond er ei maint, mae rhywbeth hynod am y lle.
Miloedd o flynyddoedd o hanes
Mae’r ynys yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI), yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ac yn Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol (IDSS) gyntaf Ewrop. Mae’n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn erbyn hyn, ac mae pobl wedi cael eu tynnu yma ers miloedd o flynyddoedd. Ar y mynydd, sydd â’i gefn tuag at y tir mawr, mae olion hen gytiau pobl a fu’n byw yma yn Oes yr Haearn (700 CC), a thu ôl i’n tŷ ni mae adfeilion abaty o’r drydedd ganrif ar ddeg. Adeiladwyd yr abaty cyntaf ar yr ynys yn y 6ed ganrif.
Rydym yn byw ar ddiwedd pererindod, lle yn ôl y sôn mae 20,000 o seintiau wedi eu claddu. Heddiw, 20,000 o adar Drycin Manaw sy’n nythu yma.
Dros y canrifoedd mae poblogaeth yr ynys wedi chwyddo a chrebachu. Ar droad yr ugeinfed ganrif roedd dros gant o bobl yn byw a gweithio ar yr ynys. Heddiw dim ond dau ohonom sydd yma llawn amser.
Mae’r ynys yn ffrwydrad o fywyd gwyllt, ac yn un o’r llefydd prin lle mae ddoe a heddiw yn cwrdd. Yn ôl rhai mae’r ddaear a’r nefoedd hefyd yn cyfarfod yn Enlli, ac mae’n rhaid dweud fy mod yn dueddol o gytuno ar ddiwrnod braf pan mae’r haul yn aur a’r môr fel llyn. Mae hi fymryn yn anoddach i weld hynny ar ddiwrnod stormus o Ionawr!
Adeiladwyd y tai sydd yma heddiw gan yr Arglwydd Niwbwrch ar ddechrau’r 1870au. Maent yn fy atgoffa i o rai o gestyll y tir mawr mewn rhai ffyrdd – er nad ydyn nhw mor fawreddog, does dim i’w cysgodi rhag y gwynt, ac eto mae nhw’n dal i sefyll yn falch ar ôl cant a hanner o aeafau. Gofalu am y tai yma a’u gerddi yw un o’n prif gyfrifoldebau fel wardeniaid gydol y flwyddyn.
Rhyddid o’r byd modern
Profiad unigryw ydi dod i aros ar Enlli. Mae’r ynys wedi cynnig hoe o brysurdeb a sŵn y tir mawr erioed, ond heddiw mae ei heddwch a’i rhyddid o ‘mod-cons’ y byd modern yn cynnig gwyliau fwy arbennig ac unigryw nag erioed i deuluoedd a ffrindiau. Does dim cysylltiad â’r we na golau trydan yn y tai, ac mae’r dŵr yn llifo yn syth o’r ffynnon. Mae’n brofiad off-grid ac unplugged na cheir ei debyg iddo yng Nghymru na thu hwnt!
Mae’r tymor gwyliau yn rhedeg o fis Ebrill tan ddiwedd Medi. Mi oeddwn i’n dair oed pan ddaeth fy rhieni â fi yma gyntaf ar ein gwyliau, ac fel nifer o bobl eraill, mi wnaethom ddychwelyd bob blwyddyn wedyn. Dyma rym yr ynys, mae rhywbeth yn denu pobl nôl yma am ddegawdau!
Gwaith caib a rhaw
Wrth gwrs, profiad gwahanol iawn ydi ymweld a gweithio yma; a hawdd ydi rhamantu am fywyd ynysig, mewn lle mor wyllt a phrydferth. Ond mae’r rhan fwyaf o’n gwaith yn waith caib a rhaw, neu glwt a sebon, neu strimmer a berfa! Does dim dau ddiwrnod r’un fath, heblaw o bosib y diwrnod newid ymwelwyr, pan fydd angen i ni lanhau pob llety cyn croesawu'r criw nesaf.
Mae’r swydd yn newid efo’r tymhorau a’r tywydd. 6 mis o bobl, 6 mis o neb. O arddio i groesawu i lanhau, plannu coed ac agor ffosydd, adeiladu drysau neu beintio – mae’r gwaith o gynnal a chadw ynys, ei thai a’i llwybrau, yn ddi-ddiwedd!
Does dim byd glamorous am fod yn warden, ond mae’n gysur gwybod ein bod yn rhoi ein hamser a’n hegni tuag at warchod a gwella lle mor unigryw. Ac wrth gwrs, yn y pocedi o amser rhwng y tasgau i gyd mi awn ni i nofio efo’r morloi, neu i gaiacio rhwng dau lanw, neu i gerdded yr hen lwybrau, neu i wylio’r awyr yn dod yn fyw gydag adar o ben ban byd.
Felly er bod ein toiled ni dal yng ngwaelod yr ardd, ac nad oes gwres canolog yn y tŷ, rydym yn camu oddi ar ein stepen drws i un o’r llefydd tlysaf a mwyaf gwyllt yng Nghymru, a does 'na r’un lle arall yn y byd y buaswn i eisiau bod!
Archebwch eich llety yma neu trefnwch eich taith dydd gyda Mordaith Llŷn.
Dilynwch y wardeniaid ar Instagram: @bywarenlli