Bu godre Dyffryn Gwy yn noddfa i artistiaid, awduron a beirdd ers canrifoedd ac mae'n Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol ers dros ddeugain mlynedd. Mae'r ardal hon ar y ffin rhwng Sir Fynwy, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw yn lle hyfryd i ddod unrhyw adeg o'r flwyddyn, ond mae'n arbennig o brydferth yn y gwanwyn pan fydd y blodau cyntaf yn dod allan, ac yn fythgofiadwy yn yr hydref yng nghanol lliwiau rhyfeddol y coed ynn, ffawydd a derw.
Ond nid golygfeydd godidog yn unig a gewch chi yma. Afon Gwy yw'r afon gyntaf ym Mhrydain i'w dynodi yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ar ei hyd, o'i tharddle ar Bumlumon ym Mhowys i'r aber yng Nghas-gwent. Mae'n Ardal Cadwraeth Arbennig hefyd. O'i chwmpas mae'r dyffryn gwelltog, braf yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio, marchogaeth, dringo, chwilota mewn ogofâu, canŵio a mynd mewn caiac.
Darganfod y dyffryn
Mae AHNE Dyffryn Gwy yn dilyn hynt Afon Gwy o gyrion Henffordd i'r aber yng Nghas-gwent, ar hyd ceunant calchfaen sy'n werth ei weld â'r coed cynhenid yn tyfu ar y llethrau. Ar ochr Cymru o'r ffin mae ffordd hyfryd yr A466 yn ymdroelli drwy'r dyffryn, ac mae'n daith wych mewn car drwy'r ceunant o Drefynwy i Gas-gwent. Gwell fyth, ewch ar gefn ceffyl neu ar droed.
Ceir digonedd o stablau a llwybrau ceffylau i rai sy'n hoff o farchogaeth, ac i gerddwyr mae amrywiaeth o lwybrau cylchol byr a dau lwybr mawr pwrpasol sy'n croesi'r dyffryn. Mae rhan isaf Llwybr Dyffryn Gwy yn ymestyn am 17 milltir, gan ddechrau yng Nghastell Cas-gwent lle mae muriau'r Normaniaid yn bwrw cysgod dros Afon Gwy, i dref hanesyddol Trefynwy, lle ganwyd Harri V. Fe ewch chi drwy goedwigoedd hardd ar ochr orllewinol y dyffryn: ar fore braf o wanwyn cewch eich swyno gan yr adar yn canu a chlychau'r gog yn blodeuo. Mae modd gorffen y rhan yma o'r llwybr mewn diwrnod, ond gallwch fynd ymlaen am 136 milltir yr holl ffordd i darddle Afon Gwy. Yng Nghas-gwent mae man cychwyn Llwybr Clawdd Offa, sy'n mynd ar hyd ochr ddwyreiniol y dyffryn am ddeunaw milltir i Drefynwy, ac yna am 169 milltir arall i Brestatyn, gan fynd drwy AHNE arall yng Nghymru, Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy.

Rhamant mewn adfeilion
Sefydlwyd Abaty Tyndyrn gan fynachod Sistersaidd ym 1131, ac mae'n sefyll fel campwaith o bensaernïaeth Gothig. Fel sawl abaty arall ym Mhrydain dechreuodd fynd â'i ben iddo yn fuan ar ôl Diddymu'r Mynachlogydd yn ystod teyrnasiad Harri VIII. Erbyn diwedd y 1700au, roedd yn denu teithwyr oedd yn chwilio am lefydd rhamantus a phrydferth – gan gynnwys y bardd, William Wordsworth. Pan ddarluniodd JMW Turner y bwâu gosgeiddig ym 1794 roedd tyfiant drostynt i gyd, ond maent wedi'u hadfer yn ofalus erbyn heddiw ac fe gewch chi amser difyr a braf yn chwilota yno.

Sefydlwyd Abaty Tyndyrn gan fynachod Sistersaidd ym 1131, ac mae'n sefyll fel campwaith o bensaernïaeth Gothig.
Dewch i'r dŵr
Wrth i Afon Gwy lifo rhwng Trefynwy ac Abaty Tyndyrn mae'r dŵr fel gwydr, a bydd tarth yn codi ar yr wyneb ar foreau braf o hydref. Mae sawl lle diogel i lansio canŵ neu gaiac, a gall cwmnïau lleol ddarparu popeth sydd ei angen arnoch i fynd ar daith ar hyd yr afon. Os cychwynnwch chi yn Nhrefynwy gallwch badlo am 11.5 milltir i Abaty Tyndyrn mewn oddeutu pump neu chwech awr. Mae'n daith wirioneddol hyfryd gyda golygfeydd godidog o dan y coed.


